Ymchwilwyr yn mesur gwerth gwên

Danielle Shore, myfyrwraig PhD yn yr Ysgol SeicolegDanielle Shore, myfyrwraig PhD yn yr Ysgol SeicolegMae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Bangor wedi pennu gwerth economaidd ar wên, gan ddangos yn wyddonol yr effaith y gall gwên ddiffuant ei chael ar y modd y cymerwn benderfyniadau.  ‘Gwybodaeth gymdeithasol’ y mae’r seicolegwyr yn galw hyn, a dywedant y caiff fwy o effaith nag y gellwch ddychmygu.

Fel yr eglura Danielle Shore, myfyrwraig PhD yn yr Ysgol Seicoleg, a phrif awdur yr ymchwil: “Dychmygwch fod angen car newydd arnoch. Pa ffactorau sy’n dylanwadu ar eich dewis? Efallai eich bod yn bwriadu seilio eich penderfyniad ar faterion llwyr ymarferol, megis costau cynnal a dibynadwyedd; fodd bynnag, yn ôl ymchwil, mae ffactorau cymdeithasol, megis ymddygiad y gwerthwr, yn bwysicach nag a dybiech.”

“Os bydd y gwerthwr yn rhoi gwên ddiffuant o bleser ichi, cewch brofiad cadarnhaol a byddwch yn debygol o brynu car gwell, neu fwy o nodweddion ychwanegol, nag yr oeddech wedi bwriadu eu prynu’n wreiddiol. Yn wir, mae’r wên ddiffuant fel pe bai’n fath o arian cymdeithasol, yn wobr werthfawr y bydd pobl talu i’w derbyn,” eglura.

Bu’r ymchwilwyr yn edrych ar ymateb pobl i ddau fath o wên, sef gwên ddiffuant a gwên gwrtais. Presenoldeb ‘llinellau chwerthin’ sy’n gwahaniaethu rhwng y gwenau hyn – y rhychau bach sydd i’w gweld yng nghorneli’r llygaid pan fo rhywun yn gwenu’n ddiffuant, ond nid pan fo’n gwenu’n gwrtais. Bu’r awduron  Gwên ddiffuant a ddefnyddwyd yn y prawf Gwên ddiffuant a ddefnyddwyd yn y prawfyn cynllunio arbrawf lle chwaraeodd y myfyrwyr gêm yn erbyn ‘gwrthwynebwyr’ cyfrifiadurol a oedd naill ai â phosibiliadau uwch neu is o ennill arian, ac a oedd yn gwenu, naill ai’n ddiffuant neu’n gwrtais. Yng nghyfnodau diweddarach y ‘gêm’, bu’r ymchwilwyr yn mesur dewisiadau pobl, gan ofyn iddynt ddewis eu gwrthwynebwyr. Trwy’r canlyniadau, roedd yr ymchwilwyr yn gallu penderfynu pa mor werthfawr oedd y naill wên a’r llall, yn ôl barn y cyfranogwyr.

Eglurodd Shore fel a ganlyn: “Y canfyddiad pwysig yn yr arbrawf hwn yw bod yn well gan bobl wrthwynebwyr oedd yn gwenu’n ddiffuant, hyd yn oed pan oeddent yn gysylltiedig â llai o bosibiliadau o ennill. Cawsom fod hyn yn ddiddorol, am fod ein cyfranogwyr i gyd yn fyfyrwyr prifysgol ac, fel rheol, â llawer o gymhelliant i ennill arian. Nid oeddem wedi disgwyl iddynt ddewis gwrthwynebwyr a oedd yn gwenu’n ddiffuant ond pan oedd y gobaith o ennill yn gyfartal. Syndod o’r mwyaf oedd y ffaith iddynt ddewis gwrthwynebwyr a oedd yn llai tebygol o dalu.”

Yn wir, cyfrifodd yr ymchwilwyr mai ychydig yn fwy na thraean ceiniog oedd gwerth gwên ddiffuant yn yr arbrawf.  

Swm bach yw hwn, ond dychmygwch eich bod yn cyfnewid 10 neu 20 o’r gwenau hyn mewn trafodaeth fer. Byddai’r gwerth hwnnw’n cynyddu’n gyflym ac yn dylanwadu ar eich gallu i roi barn. Felly, gallai’r car newydd ymddangos yn well bargen pe bai gwerthwr â gwên Gwên gwrtais a ddefnyddwyd yn y prawfGwên gwrtais a ddefnyddwyd yn y prawfddiffuant yn ei werthu ichi,” awgryma Dr Erin Heerey, cyd-awdur yr astudiaeth.

Yn ôl Shore, mae i’r ymchwil hon oblygiadau ar y modd y mae pobl yn cymryd amrywiaeth o benderfyniadau cymdeithasol o bwys.

Gall gwenau diffuant helpu pobl i ddod i gytundeb yn ystod trafodaethau. Efallai y caiff pobl sy’n aml yn gwenu’n ddiffuant ei bod yn haws iddynt ddarbwyllo eraill i weithio tuag at yr u nod. Oherwydd bod cyfathrebu cadarnhaol yn helpu pobl i greu cysylltiadau, gallai gwên atgyfnerthu’r cysylltiadau cymdeithasol a rannwn â’n ffrindiau a’n cydweithwyr.”

Cyhoeddwyd eu hymchwil yn y cylchgrawn Emotion. Cafodd efrydiaeth PhD Danielle nawdd gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol.

Mwy o wybodaeth: Elinor Elis-Williams – Swyddog y Wasg, Prifysgol Bangor 01248 383298.

Danielle Shore 01248 382068 & Erin Heerey, 01248 388804

Dyddiad cyhoeddi: 10 Mai 2011