Cyhoeddi prosiectau sy'n annog pobl i fod yn greadigol er mwyn hybu’r Gymraeg

Mae Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, wedi cyhoeddi bod £425,000 wedi'i ddyfarnu i 26 o brosiectau arloesol sy'n ceisio hybu'r Gymraeg yn y gymuned a thechnoleg Gymraeg.

Mae Grant Cymraeg 2050 yn elfen allweddol o Strategaeth y Gymraeg, Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr. Bydd yn darparu grantiau bach o hyd at £20,000 yr un i ariannu prosiectau tymor byr arloesol sy'n ceisio cynyddu'r defnydd bob dydd pobl o'r iaith a hyrwyddo technoleg sy'n cefnogi'r defnydd o'r Gymraeg.

Roedd Arwel Tomos Williams, myfyriwr PhD yn Ysgol Seicoleg ym Mhrifysgol Bangor, yn ymgeisydd llwyddiannus, gan ennill £20,000 gyda’i oruchwylwyr i ymchwilio “Defnyddio’r Profiad Eusle i Rymuso Staff i Ddefnyddio’r Gymraeg gan Newid y Cyd-destun Ieithyddol Arferol yn y Gweithle Dwyieithog”. Dull sy’n deillio gan dîm Soziolinguistika Klusterra o Wlad y Basg yw’r dull Eusle sydd wedi cael dylanwad cryf ar ddefnydd iaith, gan gynyddu’r defnydd gweithredol o Fasgeg yng nghyd-destun y gweithle.

O dan oruchwyliaeth Yr Athro Carl Hughes, Dr Lowri Hughes a Dr Emily Tyler, bydd y gwaith hwn yn adeiladu ar waith peilot gan Arwel fel rhan o’i ymchwil PhD, ac mae’n cynnig cyfle ardderchog i fynd â’r gwaith peilot yn ei flaen, ynghyd â’r mesuriadau sydd wedi eu datblygu er mwyn cyfrannu at y sail tystiolaeth ar sut i gynyddu, annog a mesur y cynnydd mewn defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle mewn ffordd wrthrychol.

Prif fwriad Eusle yw newid y ‘cyd-destun ieithyddol arferol’ o fewn gweithleoedd dwyieithog i gefnogi defnydd o’r Gymraeg. Mae’r cyd-destun ieithyddol arferol yn cynrychioli normau ymddygiadol sydd eisoes wedi cael eu sefydlu mewn sefyllfaoedd penodol, yn ogystal â rhwng unigolion penodol. Fel arfer, mae’r cyd-destun ieithyddol arferol yn gadarn, yn anodd newid ac yn ‘anhyblyg’.

Mae gwaith cynt Arwel yn dangos fod ambell i siaradwr Cymraeg rhugl yn siarad Saesneg â’i gilydd oherwydd y cyd-destun ieithyddol arferol (h.y., mae Saesneg wedi cael ei osod fel ‘arferiad ieithyddol’ yn eu perthynas gwaith nhw, neu o fewn cyd-destun penodol). Gan ddefnyddio seicoleg newid ymddygiad, bydd y profiad Eusle yn mynd ati i sefydlu gweithleoedd dwyieithog fel ‘cyd-destun ieithyddol hyblyg’, yn ogystal ag adeiladu sgiliau a magu hyder o fewn timau staff i ddefnyddio’r Gymraeg.

Meddai'r Gweinidog: "Rydyn ni am weld y Gymraeg yn dod yn rhan arferol o fywyd bob dydd fel bod siaradwyr o bob lefel yn teimlo’n hyderus wrth ddefnyddio’r iaith mewn sefyllfaoedd ffurfiol ac anffurfiol. Bydd y prosiectau a gyhoeddwyd heddiw yn ei gwneud hi'n haws i bobl ddefnyddio'r Gymraeg, boed wyneb yn wyneb yn y gymuned ac yn y gweithle neu drwy lwyfannau digidol.

Gwyddom fod cyflawni miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn her sylweddol, ac rwy'n falch iawn bod cymaint o sefydliadau a phobl eisiau ymuno â ni wrth i ni fwrw ymlaen â'r dasg hon." 

Gweler hefyd project arall o dan yr un ffrwd ariannu.

Dyddiad cyhoeddi: 15 Tachwedd 2017