Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru yn agor Canolfan Môr Cymru ym Mhrifysgol Bangor

Ymweldodd Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru ag Ysgol Gwyddorau'r Eigion ym Mhrifysgol Bangor yn ddiweddar (5 Gorffennaf) i agor Canolfan Môr Cymru.  Achubodd y Tywysog ar y cyfle i ymweld â'r Prince Madog, y llong ymchwil fwyaf sy’n eiddo i brifysgol yng ngwledydd Prydain.

Labordai gyda dŵr y môr wrth law!

Agorwyd Canolfan Môr Cymru ym Mhrifysgol Bangor yn swyddogol gan Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru. Codwyd Canolfan Môr Cymru am £5.5M ac mae hi'n ganolfan genedlaethol ar gyfer y sector morol sy'n tyfu yng Nghymru.  Mae'r ganolfan yn cynnig ffocws a mynediad i arbenigedd a lle i ymchwilwyr, gweithredwyr masnachol ac asiantaethau eraill yn sector morol Cymru gydweithio. 

Lleolir hyd at 50 aelod staff yng Nghanolfan Môr Cymru, ac mae lle hefyd i ymwelwyr o sefydliadau a chwmnïau sy'n cydweithio â'r ganolfan. Mae'r adeilad newydd yn gartref i Ganolfan Gwyddorau Môr Cymhwysol y brifysgol ac mae yno hefyd le i ddatblygu projectau hanfodol, ac mae hynny'n rhoi mynediad i gwmnïau at arbenigedd gwyddonol y brifysgol a chyfle i weithio ochr yn ochr ag academyddion. Cânt hefyd fynediad at gyfleusterau labordy ac acwaria - sydd oll â dŵr môr yr Afon Menai wrth law - a mynediad i fflyd o longau ymchwil gan gynnwys y Prince Madog.

Cynlluniwyd yr adeilad i wneud y defnydd gorau o le, i ddefnyddio cyn lleied o ynni â phosib ac i wneud yn fawr o oleuni naturiol a'r golygfeydd hardd dros yr Afon Menai. Cyllidwyd yr adeilad fel rhan o broject £25M SEACAMS, sydd wedi ei gyllido'n rhannol trwy Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF).  

Cydweithio a chefnogi diwydiant

Canolbwynt y gweithgareddau yn yr adeilad yw cydweithio â'r sector morol masnachol. Nod y ganolfan yw cyflymu'r broses o drosglwyddo gwybodaeth newydd ac annog twf masnachol.  Mae’r ganolfan yn gweithio ar brojectau sy'n casglu tystiolaeth er mwyn llywio polisïau amgylcheddol llywodraethau ac asiantaethau. Mae'n bwysig cysylltu ymchwil, datblygiad masnachol a pholisïau llywodraeth pan fo cyfleoedd masnachol a'r fframwaith deddfwriaethol yn datblygu'n gyflym.

Meddai'r Athro Colin Jago, Deon Coleg y Gwyddorau Naturiol ym Mhrifysgol Bangor:

"Mae llawer o waith y ganolfan yn canolbwyntio ar ymchwil er mwyn cefnogi a chynghori ynghylch amrywiaeth o ddatblygiadau ym maes ynni morol adnewyddadwy. Mae angen ymchwil er mwyn cynorthwyo i leoli projectau ynni morol newydd ac er mwyn cynghori ar yr effaith y gallent eu cael ar yr amgylchedd ehangach.

"Mae ystyried effeithiau amgylcheddol gosodiadau peiriannyddol yn waith pwysig a heriol gan fod gan y gosodiadau oes hir sy'n para degawdau, neu hyd at ganrif yn achos morlynnoedd llanw. Dyma amserlen newid hinsawdd, sy'n gwneud y gwaith o ragweld effeithiau amgylcheddol yn fwy anodd.

Mae arbenigwyr yng Nghanolfan Môr Cymru hefyd yn gweithio gyda chwmnïau ac asiantaethau i ddarparu cyngor a gwybodaeth er mwyn cynnal pysgodfeydd cynaliadwy, gan gynnwys dyframaeth, ym Môr Iwerddon. Daw'r galw am arbenigedd yr ysgol o bell hefyd, ac mae'r arbenigwyr yn rhan o bartneriaeth fawr gyda Phrifysgol Qatar i astudio'r bygythiad i gynefinoedd arfordirol a morol yn y Gwlff Arabaidd, gyda chefnogaeth gan Sefydliad Ymchwil Cenedlaethol Qatar, yng nghyd-destun cadwraeth yng Ngwarchodfa Forol Chagos yng Nghefnfor yr India - y warchodfa fwyaf o'i math yn y byd - ac yng Nghefnfor yr Arctig lle mae newid hinsawdd yn newid cylchrediad y môr yn sylfaenol, a allai arwain at effeithiau mawr ar batrymau tywydd.   

Meddai Is-ganghellor Prifysgol Bangor, yr Athro John Hughes:

"Mae hi'n anrhydedd fawr fod Tywysog Cymru yn agor Canolfan Môr Cymru. Mae ein gwaith yma yn cyfrannu at economi morol cryf ac iach yng Nghymru ac mae'n cyfrannu'n sylweddol at bysgodfeydd cynaliadwy yng Nghymru ac amgylchedd morol cynaliadwy.”

Dyddiad cyhoeddi: 5 Gorffennaf 2016