Gŵyl Hanes yn dod i Fangor

Bydd yr hanesydd Prydeinig-Nigeriaidd, David Olusoga, yn dechrau'r Ŵyl am 10a.m. ddydd Gwener, 25 Hydref gyda sgwrs dan y teitl Slavery, Empire and Historical Amnesia.Bydd yr hanesydd Prydeinig-Nigeriaidd, David Olusoga, yn dechrau'r Ŵyl am 10a.m. ddydd Gwener, 25 Hydref gyda sgwrs dan y teitl Slavery, Empire and Historical Amnesia.Bydd yr haneswyr blaenllaw David Starkey, Lucy Worsley, David Olusoga a Trevor Fishlock a welir yn rheolaidd ar y teledu yn ymuno ag arbenigwyr o Brifysgol Bangor ac o ledled y DU i gymryd rhan yn yr Ŵyl Hanes gyntaf a gynhelir ym Mangor ar 25 a 26  Hydref 2019.

Mae Bangor, gyda'r Eglwys Gadeiriol hanesyddol a'r dirwedd sy'n cynnwys diwydiannau, cestyll a thai gwledig yn lleoliad addas ar gyfer yr ŵyl hanes hon, a fwriedir fel digwyddiad cymunedol, gydag arddangosfeydd yn ogystal â chyfle i brynu llyfrau ac awduron yn llofnodi eu llyfrau.

Trwy gyfrwng straeon am unigolion, digwyddiadau a chorfforaethau, gobeithir y bydd y rhaglen yn dangos y cysylltiad rhwng y pedair gwlad yn y Deyrnas Unedig. Bydd yr Athro David Olusoga OBE, darlledwr, awdur a gwneuthurwr ffilmiau sydd wedi ennill gwobr BAFTA, yn dechrau'r ŵyl am 10am ddydd Gwener 25 gyda sgwrs dan y teitl Slavery, Empire and Historical Amnesia. Bydd yr hanesydd lleol, Dr Marian Gwyn, yn dilyn gyda: "Wales and Slavery - Re-knowing and Re-telling".

Defnyddiwyd llechi o chwareli Gwynedd ar doeau'r byd fel dywed y slogan, gan  drawsnewid y dirwedd, newid ffordd o fyw nifer o bobl ac arwain at rai yn gwneud eu ffortiwn. Bydd arbenigwyr sy'n gysylltiedig â hyrwyddo'r cais am statws Treftadaeth y Byd UNESCO ar gyfer y dirwedd hon hefyd yn sôn am yr elfennau byd-eang eraill a ddeilliodd o'r diwydiant hwn. Un ohonynt yw'r rheilffyrdd treftadaeth sy'n rhoi llawer o foddhad i ni heddiw.

Bydd yr ŵyl yn adrodd storïau am frenhinoedd, breninesau a milwyr; gwrthryfelwyr, diwygwyr a goresgynwyr. Maent i gyd wedi gadael eu hôl ar y llwyfan cenedlaethol a rhyngwladol. Bydd John Keay o Argyll yn disgrifio sut y cafodd Everest, y mynydd uchaf yn y byd,  ei enwi ar ôl Cymro o Grucywel. Bydd yr Athro Chris Williams o Gorc yn siarad am y diwygiwr cymdeithasol, Robert Owen, o'r Drenewydd, a aeth â'i neges iwtopaidd i'r Alban, yr UDA ac Iwerddon, a sefydlu'r mudiad Cydweithredol.

Bydd Trevor Fishlock yn adrodd stori dwymgalon am ddyngarwch a dewrder y chwiorydd Davies swil a chyfoethog o Landinam, a gyflwynodd gasgliad hyfryd o baentiadau yn rhodd i bobl Cymru.

Yn Henry VIII: The First Brexiteer? bydd David Starkey  yn tynnu ar ei wybodaeth unigryw o deyrnasiad Harri i amlygu sawl cymhariaeth â sefyllfa Brexit rydym yn ei chanol y dyddiau hyn. Yn Henry VIII: The First Brexiteer? bydd David Starkey yn tynnu ar ei wybodaeth unigryw o deyrnasiad Harri i amlygu sawl cymhariaeth â sefyllfa Brexit rydym yn ei chanol y dyddiau hyn. Archwilir pennod dywyll mewn hanes gan Richard Suggett yn 'The Witches of Wales'; pan gafodd gwrachod eu herlid yn ystod cyfnod cythryblus yr unfed ganrif ar bymtheg a'r ail ganrif ar bymtheg ym Mhrydain.

Bydd Ardalydd cyntaf Môn, a oedd yn un o arwyr Waterloo, ac mae'r golofn goffa iddo yn rhan gyfarwydd o'r tirlun ers 1860, yn destun sgwrs dan arweiniad Arglwydd Môn, 8fed Ardalydd Môn.

Bydd panel o arbenigwyr yn trafod  ‘Welsh Princes: from Owain Gwynedd to Owen Glyndŵr’ yn lleoliad priodol Eglwys Gadeiriol Bangor, oherwydd yno y claddwyd  Owain Gwynedd  yn 1170 a llosgwyd yr adeilad gan Owain Glyndŵr. Cewch wybod beth oedd gan feirdd Cymru yn ogystal â Shakespeare i ddweud am hyn.

Bydd yr Athro David Starkey CBE, hanesydd cyfansoddiadol, awdur nifer o lyfrau a chyflwynydd rhaglenni teledu a radio, yn siarad gyda’r nos ar 25 Hydref am Harri VIII: The First Brexiteer? Gan ddefnyddio ei wybodaeth unigryw am y dyn a'i deyrnasiad, bydd yn archwilio'r tebygrwydd â nifer o sefyllfaoedd heddiw. Disgwylir yn eiddgar am sgwrs ac ymweliad yr Athro Starkey oherwydd y cysylltiadau cryf sydd rhwng y Tuduriaid a'r ardal hon yng ngogledd Cymru. Roedd hen daid Harri'r Wythfed yn hanu o Ynys Môn ac roedd llawer o'i berthnasau gwaed yn berchnogion amlwg ar dir a thai gwledig yn yr ardal hon.

Caiff y cynulleidfaoedd hefyd glywed am yr archwilio diweddaraf a'r gwaith sydd ar y gweill wrth i Leona Huey a Dr Gary Robinson wneud darganfyddiadau am Wersyll Garchar Fron Goch o gyfnod gwrthryfel y Pasg ym 1916, a drawsnewidiodd hanes Iwerddon.

Mae Edward I yn ffigwr y mae llawer yn ei gasáu yn yr ardal hon. Adeiladodd gestyll ar ôl goresgyn Cymru, ac roedd nifer o'u weithredoedd tywyll yn cynnwys gwahardd Iddewon o deyrnas Lloegr ym 1290. Serch hynny, yn ôl yr Athro Nathan Abrams dychwelodd Iddewon i Brydain yn ddiweddarach, fel y gwelir yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg pan sefydlwyd y cwmni hynod lwyddiannus Wartski, ym Mangor yn gyntaf ac yna yn Llundain. Nhw, fel y mae rhai yn gwybod, a wnaeth y fodrwy briodas o aur Cymru ar gyfer y Tywysog William yn 2011.

Os ydych eisiau gwybod ‘What have the Normans ever done for us’ dewch i wrando ar  Dr Mark Hagger  ddydd Sadwrn 26 Hydref.

BYn ei darlith, bydd Lucy Worsley yn ein gwahodd i edrych ar yr hyn rydym yn meddwl ein bod yn ei wybod am y Frenhines Fictoria, :  Hawlfraint Lun: Historic Royal Palaces, Bloomsbury, Ben TurnerYn ei darlith, bydd Lucy Worsley yn ein gwahodd i edrych ar yr hyn rydym yn meddwl ein bod yn ei wybod am y Frenhines Fictoria, : Hawlfraint Lun: Historic Royal Palaces, Bloomsbury, Ben Turnerydd yr ŵyl yn gorffen ddydd Sadwrn 26 Hydref gyda darlith gyda'r nos gan Lucy Worsley OBE ar Queen Victoria - Daughter, Wife, Mother and Widow. Bydd  yn ein gwahodd i edrych ar yr hyn rydym yn meddwl ein bod yn ei wybod am y Frenhines Fictoria, gan edrych ar fywyd, palasau, a chyfnod lliwgar a chyfoethog y ddynes hon a fu'n teyrnasu dros chwarter y byd. Mae Lucy Worsley OBE yn Gyd-Brif Guradur Palasau Brenhinol Hanesyddol ac yn gyflwynydd rhaglenni hanesyddol felThe First Georgians: The German Kings Who Made Britain, and Six Wives with Lucy Worsley. Ar yr un pryd, bydd Amgueddfa Storiel yn arddangos eu casgliad Fictoraidd: Ffrog y Frenhines Fictoria, ei chap a dol Gymreig a roddwyd iddi yn ystod ei hymweliad a mwy.

Noddir yr ŵyl, a drefnir gan Ysgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithas Prifysgol Bangor gan Mrs Raj Jones, Cymrawd er Anrhydedd y Brifysgol.

Meddai:  “Dylai’r ŵyl ddifyrru, hysbysu ac ysbrydoli pawb o bob oed a dylai pobl adael yn meddwl, doeddwn i ddim yn gwybod hynny”.

Ychwanegodd, “Hoffwn ei wneud yn ddigwyddiad blynyddol. Nid oes lleoliad gwell ar gyfer digwyddiad o'r fath na’r lleoliad hyfryd hwn ar lannau'r Fenai ac mewn ardal sy'n gyforiog o hanes.”

Gellir gweld rhaglen lawn yr ŵyl, a noddir yn hael gan Waddol Tom a Raj Parry Jones, yn fournations.bangor.ac.uk

I gofrestru, e-bostiwch fournations@bangor.ac.uk neu ffoniwch Swyddfa Docynnau Pontio: 01248 382828

Dyddiad cyhoeddi: 23 Medi 2019