Gwaith ymchwil Prifysgol Bangor o gymorth wrth warchod rhywogaeth newydd i’r rhestr gwarchod

Haid o gath-Fôr Munk's mobula yn y nos: : Hawlfraint llun Guy Stevens | Manta TrustHaid o gath-Fôr Munk's mobula yn y nos: : Hawlfraint llun Guy Stevens | Manta TrustRydym yn ymwybodol bod masnachu a chludo ifori yn cael ei reoli’n dyn er mwyn gwarchod eliffantod, a bod cynnyrch a ddaw o anifeiliaid eraill fel corn y rhinoseros hefyd yn cael ei reoli’n llym mewn ymgais i roi stop ar y fasnach anghyfreithlon a potsio neu herwhela, sydd yn fygythiad i oroesiad rhai rhywogaethau.

Mae’r rhestr y rhai a geir eu gwarchod yn ymestyn y tu hwnt i’r anifeiliaid mwyaf adnabyddus yr ydym mor hoff ohonynt.

Y corff sy’n gyfrifol am reoleiddio a monitro’r fasnach mewn cynnyrch bywyd gwyllt yw CITES (neu Convention on the International Trade in Endangered Species), ac mae 183  gwlad yn ardystion iddo.

Mae grŵp rhywogaeth arall bellach wedi ymuno â’r rhestr yn dilyn cyfarfod CITES diweddar, sef cath fôr y diafol, ac o heddiw ( 4 Ebrill) ymlaen, bydd y rheoliadau newydd yn cael eu gweithredu.

Mae un fyfyrwraig o Brifysgol Bangor yn chwarae rhan mewn gwarchod cath fôr y diafol (devil ray) a’r gath fôr manta, sydd eisoes yn cael ei gwarchod.

Mae Jane Hosegood  yn astudio PhD yn y Brifysgol ac yn datblygu teclyn genynnol i adnabod cathod fôr y diafol gan ddefnyddio rhannau ohonynt, ac i wneud yr un peth dros gathod fôr manta. Mae’r tîm yn gweithio tuag at greu teclynnau a fydd yn medru adnabod cath fôr y diafol, neu manta i lefel rhywogaeth gan ddefnyddio sampl bach iawn, gan adnabod hyd yn oed o ba grŵp poblogaeth, ac o’r herwydd, o ble y daeth y gath fôr.

Mae Jane yn gweithio gyda thîm yr Athro Gary Carvalho o fewn Labordai Ecoleg Moleciwlaidd a Geneteg Pysgod yn Ysgol Gwyddorau Biolegol y Brifysgol. Mae’r Tîm yn arwain y byd mewn defnyddio  marcwyr genynnol i adnabod rhwng rhywogaethau pysgod, ac mae eu teclynnau sy’n adnabod amrediad eang o bysgod yn cael eu defnyddio’n eang er mwyn gwarchod stoc pysgod y byd.

Bu Jane yn mynychu’r cyfarfod CITES diweddar yn Johannesburg  ynghyd â chydweithwyr o’r Ymddiriedolaeth Manta a rhwydwaith fforensig bywyd gwyllt TRACE. Gwelodd yn uniongyrchol sut datblygodd digwyddiadau. Ymysg y pynciau trafod oedd cynnig i warchod holl rywogaethau cathod môr y diafol, (Mobula sp.) a roddwyd gerbron gan lywodraeth Fiji.

Mae’r llwyddiant diweddar y cynnig yn dangos pa mor bwysig yw’r gwaith a wneir ym Mhrifysgol Bangor. Bydd y datblygiad cyfredol o declynnau a all adnabod cathod môr manta neu’r diafol- ac unrhyw rannau ohonynt, yn ôl rhywogaeth a rhanbarth eu tarddiad, yn gymorth i’r rhai sydd yn gyfrifol am orfodi a monitro rheoliadau CITES.

Fel yr esbonia’r fyfyrwraig PhD Jane Hosegood:

Llwyth o  gathod-fôr Mobula ar werth mewn marchnad bysgod yn Sri Lanka.: : Hawlfraint llun Daniel Fernando | The Manta TrustLlwyth o gathod-fôr Mobula ar werth mewn marchnad bysgod yn Sri Lanka.: : Hawlfraint llun Daniel Fernando | The Manta Trust“Mae nifer fawr iawn o gathod môr y diafol a manta yn cael eu pysgota i gyflenwi galw rhyngwladol am eu platiau tagell, sydd yn cael eu defnyddio mewn ffug-meddyginiaethau mewn rhai meddyginiaethau traddodiadol. Nid yw’r fasnach yn gynaliadwy, gan nad ydyw’r rhywogaeth yn medru adfer o’r lefelau uchel o ecsbloethiaeth oherwydd yr amser hir y mae’n cymryd i’r boblogaeth atgynhyrchu.

Mae’r ffaith eu bod i’w reoli o dan CITES  yn newyddion gwych. Mae hyn yn fuddiol nid yn unig i’r cathod môr y diafol ond i’r manta hefyd. Rhestrwyd y manta yn 2013, ac felly mae’r fasnach mewn rhannau wedi ei reoleiddio yn ystod y blynyddoedd diweddar. Fodd bynnag, oherwydd yr anawsterau wrth adnabod y gwahaniaeth rhwng platiau tagell ymysg y rhywogaethau, roedd angen hyfforddiant arbenigol i wahaniaethu rhwng rhannau manta a rhannau cathod môr  y diafol, nad oeddynt wedi eu rhestru. Yn dilyn y penderfyniad diweddar, bydd yr holl blatiau tagell yn cael eu rheoleiddio, ac felly ni fydd yn bosib gorchuddio platiau tagell manta o fewn cyflenwad o blatiau tagell cathod môr y diafol.”

Disgrifia Jane Hosegood y dechneg:

“Yn ei hanfod, yr hyn yr ydym yn ei wneud yw cymryd samplau meinwe gan unigolion o rywogaeth sydd wedi ei hadnabod ac yn dilynnu (sequencing) darnau bach o’r DNA sydd ynddynt. Mae hyn yn ein galluogi i adeiladu darlun o arwydd genynnol pob rhywogaeth a phoblogaeth. Gall hyn ei defnyddio i gymharu yn erbyn arwyddion samplau sydd heb eu hadnabod.  Mae hyn yn gymorth i adnabod o ba rywogaeth y mae darnau wedi dod.”

Meddai Michael Scholl, Prif Swyddog Gweithredol Save Our Seas Foundation: "Rydym yn falch o gefnogi ymchwil fel hyn, gan ei fod yn darparu datrysiad ymarferol ar gyfer llwyddiant cadwraethol. Mae gorfodaeth effeithiol yn gam hanfodol yn y broses gadwraeth a byddai’n anodd iawn ei gyflawni heb dystiolaeth genetig.”

 Llwyth o gathod-fôr manta yn bwydo ym Mae Hanifaru, Maldives.: hawlfraint llun: Guy Stevens | Manta Trust Llwyth o gathod-fôr manta yn bwydo ym Mae Hanifaru, Maldives.: hawlfraint llun: Guy Stevens | Manta TrustEsboniodd Nida Al-Fulaij, rheolwr grantiau gyda People’s Trust for Endangered Species: “Dim ond gyda seiliau gwyddonol cadarn y mae modd sicrhau cadwraeth effeithiol o rywogaethau sydd mewn perygl. Mae’r gwaith a wneir gan Jane a’i chydweithwyr ym Mhrifysgol Bangor yn gam bwysig wrth  alluogi adnabod ar lefel rhywogaeth fel bod modd monitro’r masnachu mewn pob rhywogaeth o gathod môr y diafol a chathod môr manta.”

Cyllidir yr astudiaeth a arweinir gan Brifysgol Bangor gan NERC, y Royal Zoological Society of Scotland,  sefydliad Save Our Seas Foundation,  cymdeithas y Fisheries Society of the British Isles, y People’s Trust for Endangered Species a chymdeithas Genetics Society, ac mae mewn cydweithrediad â Royal Zoological Society of Scotland, TRACE Wildlife Forensics Network, ymddiriedolaeth Manta Trust a nifer o brojectau eraill o amgylch y byd.

Darllenwch erthygl ar yr un pwn gan Jane Hosegood yn The Conversation yma.

Dyddiad cyhoeddi: 4 Ebrill 2017