Astudiaeth yn datgelu pwysigrwydd o fod yn debyg ond yn wahanol

Dwy rywogaeth o gathbysgod sy'n rhannu'r un patrwm lliw: C. sp. C68 & C. maculiferDwy rywogaeth o gathbysgod sy'n rhannu'r un patrwm lliw: C. sp. C68 & C. maculiferMae astudiaeth o gathbysgod arfog sydd yn frith yn afonydd bychain a nentydd ar draws De America, yn dangos nad ydynt yr hyn a ymddengys. Y gwir yw bod eu cymunedau’n llawer mwy amrywiol nag y tybiwyd.

Drwy astudiaeth ryngddisgyblaethol newydd, sy’n cael ei hadrodd yng nghylchgrawn Nature,  mae biolegwyr esblygiadol ym Mhrifysgol Bangor wedi sefydlu bod llawer o gathbysgod ‘Corydoras’ sy’n cydfyw yn yr un afonydd yn copïo patrwm lliw ei gilydd. Mae’r cymunedau cathbysgod yn cynnwys rhywogaethau nad ydynt yn agos yn enynnol, ond maent, dros amser maith, wedi mabwysiadu patrymau lliw ei gilydd- a thrwy wneud yn cyfleu eu diflastod i’w hysglyfaethwyr gan gynyddu’u cyfle i oroesi.

Fodd bynnag, er mor ddiddorol yw’r ffaith eu bod yn rhannu lliw a phatrwm, mae’r astudiaeth hefyd yn cyrraedd y canlyniad nad hyn yw’r strategaeth esblygiadol bwysicach o ran goroesiad a sefydlogrwydd cymunedau cymysg.

Canfuwyd yr ymchwilwyr nad yw 92% o’r rhywogaethau mimetig neu dynwaredol a astudiwyd yn cystadlu am fwyd ac maent yn perthyn i linachau enynnol gwahanol. Cyrhaeddwud y canlyniad yn dilyn ddadansoddiad DNA i holi perthnasedd enynnol, defnyddio isotopau sefydlog i fesur diet ac arsylwi gwahaniaethau mewn siâp corff a phatrwm lliw samplau a gasglwyd drwy De America.

Tair rhywogaeth o gathbysgod sy'n rhannu'r un patrwm lliw: C. tukano, C. sp. CW11, C. sp. C159Tair rhywogaeth o gathbysgod sy'n rhannu'r un patrwm lliw: C. tukano, C. sp. CW11, C. sp. C159Er eu bod yn rhannu’r un cynefin, wedi mabwysiadu’r yn patrwm lliw ac yn chwilota am fwyd efo’i gilydd, nid yw’r rhywogaethau’n cystadlu am yr un bwyd. Mae’r gwyddonwyr yn cyrraedd y canlyniad bod y gallu i rywogaethau  sy’n cyd-fyw i ddosrannu adnoddau yw’r elfen bwysig mewn cynnal sefydlogrwydd hirdymor o fewn cymunedau.

“ Mae’r rhywogaethau’n rhannu’r un edrychiad a’r un cynefin, ac yn gyffredinol yr un bwyd. Byddai’r farn gyfoed yn awgrymu y byddent mewn cystadleuaeth ar gyfer adnoddau, gan arwain at ansefydlogrwydd ecolegol o fewn y gymuned ac i rai ffynnu tra bod rhywogaethau eraill yn darfod,” meddai arweinydd y project, Dr Martin Taylor o ysgol Gwyddorau Biolegol Prifysgol Bangor. Mae ymchwiliad manwl wedi datgelu bod pob rhywogaeth efo adnodd bwyd sydd yn fân-wahanol- gan osgoi cystadleuaeth uniongyrchol dros fwyd. Mae cystadleuaeth dros adnoddau yn rym esblygiadol grymus sy’n sicrhau bod rhywogaethau sy’n cydfyw yn meddiannu llecyn tamaid yn wahanol, oherwydd gwahaniaethau bychain yn eu morffoleg sydd yn eu caniatáu i fwyta ysglyfaeth wahanol.

Mae canlyniadau’r Tîm hefyd yn awgrymu nad yw’r budd cadarnhaol y naill i’r llall yn troi’r fantol yn erbyn rhyngweithiadau negyddol cystadleuaeth.

“Mae’r canlyniadau yn sialensio gwaith theori ac empirig diweddar sy’n awgrymu bod cydymddibyniaeth yn bwysicach na chystadleuaeth, a gall felly gynnal cymuned o rywogaethau hyd yn oed pan ydynt yn cystadlu am fwyd. Mae ein canlyniadau’n dangos bod arwahanydd diet a pherthnasedd enynnol yn ffactorau hanfodol wrth bennu strwythur  a gwneuthuriad cymuned yn fwy na rhyngwneud cydymddibynnol.

Gall yr ymdriniaeth rhyngddisgyblaethol yma ei ddefnyddio mewn cymunedau eraill o rywogaethau sydd yn cyd-fyw, tra bod Corydoras yn darparu model newydd i astudio dynwared, cystadlu a chydymwybyddiaeth. Gall y canfyddiadau hyn dod a ni’n nes at ddealltwriaeth o’r ffactorau hollbwysig a mecanwaith sy’n gyfrifol am darddiad a chynnal bioamrywiaeth mewn ecosystemau neodrofannol.

 Arianwyd yr ymchwil gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol y DU a gyda chefnogaeth UNESP, Brazil.

 

Mae'r papur llawn yn Nature ar gael yma:

www.nature.com/nature/journal/v469/n7328/full/nature09660.html

Dyddiad cyhoeddi: 6 Ionawr 2011