Cyfres Radio i Goffhau'r Marw o Irac ac Affganistan
Yn sgil ymchwil i ohebu rhyfel gan ddarlithydd o Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau, mae cyfres ffeithiol yn cael ei darlledu ar BBC Radio Wales y mis yma.
Ymchwil i ohebu rhyfel gan ddarlithydd newyddiaduraeth, Dr Llion Iwan, oedd y man cychwyn i'r gyfres 'The Welsh Fallen.'
'Ynghanol yr ymchwil clywais am fam oedd yn ymweld gyda bedd ei mab yn  ddyddiol, gydag ysgol feithrin gerllaw a ffordd brysur, ac y swn o'r  ddau wrth i bobl fwrw mlaen gyda'u bywyd bob dydd yn cynddu ei galar.  Credwn fod modd i dynnu sylw y gynulledifa tuag at y dioddef yma, ac i  bortreadu'r milwyr hefyd. Yn rhy aml canolbwyntio ar eu marwolaethau yr  ydym, nid eu bywydau.' 
Dr Owain Llwyd o'r Ysgol Gerdd gyfansoddodd y gerddoriaeth ar ei chyfer,  ac fe gafodd hyn ei berfformio gan georddorfa symffoni Skopje yn Macedonia.
"Mae cael cerddorfa fel hyn yn brin iawn yn y diwydaint, ond diolch i  wybodaeth a chysylltiadau Owain fe gafwyd darn o gerddoriaeth arbennig,'  meddai Llion. 
 
 
Cafodd y bennod gyntaf ei darlledu Tachwedd 6, ac mae'r nesaf ar  Dachwedd 11 a 13, 10.30am. 
Mae'n bosib gwrando ar y gyfres ar iplayer: 
 
http://www.bbc.co.uk/iplayer/radio/bbc_radio_wales
Dyddiad cyhoeddi: 10 Tachwedd 2011