Dull newydd a mwy effeithlon o samplu bioamrywiaeth yn cael ei ddefnyddio yn rhai o brif aberoedd Prydain

Mae dwy o brif aberoedd Prydain wedi bod yn fannau profi llwyddiannus i ddull newydd ac effeithiol o 'wirio iechyd' bioamrywiaeth dŵr, a gall arwain at samplu cyflymach a mwy effeithlon mewn safleoedd eraill.

Cyflawnir "bio-fonitro", neu asesu effeithiau gweithgareddau dynol ar yr amgylchedd naturiol, yn aml drwy fonitro amrywiaeth biolegol.   Mae dulliau presennol yn dibynnu ar adnabod rhywogaethau trwy ddulliau maniwal ond mae hynny'n cymryd amser ac yn aml yn canolbwyntio ar greaduriaid mwy. Felly, ni allant weithiau adlewyrchu iechyd cynefinoedd neilltuol yn gywir.

Esiamplau o rai o’r rywogaethau o anifeiliaid, planhigion, ffyngau ac organebau microsgopaidd na ellir eu gweld   gyda’r llygad.Esiamplau o rai o’r rywogaethau o anifeiliaid, planhigion, ffyngau ac organebau microsgopaidd na ellir eu gweld gyda’r llygad.Mae ymchwilwyr o Brifysgol Bangor wedi dangos drwy ganolbwyntio ar DNA a gafwyd o anifeiliaid llai y gellir canfod patrymau ecolegol amlwg o fioamrywiaeth o aberoedd allweddol ym Mhrydain.  Mae'r gwaith ar aberoedd afonydd Tafwys a Merswy, a wnaed mewn cydweithrediad ag Asiantaeth yr Amgylchedd y DU, yn dangos effeithlonrwydd defnyddio data dilyniant genetig ar gyfer bio-fonitro, ond hefyd effaith ffactorau lleol (e.e. daearyddiaeth neu hanes llygredd) o ran pennu patrymau bioamrywiaeth.  

"Oherwydd ein bod yn gwybod cyn lleied am effeithiau gweithgareddau dynol a chemegau artiffisial ar yr amgylchedd naturiol, mesurir iechyd ecosystem yn aml drwy fesur amrywiaeth rhywogaethau dynodol neilltuol," eglurodd Simon Creer o Brifysgol Bangor, awdur papur diweddar yn ISME, The Multidisciplinary Journal of the Microbial Ecology. 

"Mae rhywogaethau bio-ddangosydd yn adlewyrchu amodau amgylcheddol neilltuol, ond gallant fod yn ddim ond cyfran fechan o'r bioamrywiaeth posibl y gellid ei ddefnyddio i ddeall iechyd amgylcheddol.  Trwy edrych ar yr ystod ehangach o rywogaethau, gallwn ddeall yn well sut mae cemegau artiffisial yn dylanwadu ar ein hamgylchedd naturiol a mynd ati i wella iechyd ecosystemau."

Yn yr astudiaeth, roedd tîm dan arweiniad ymchwilwyr o Brifysgol Bangor eisiau darganfod pa ffactorau naturiol oedd yn effeithio ar amrywiaeth creaduriaid microsgopaidd, drwy ganolbwyntio ar DNA amgylcheddol o greiddiau gwaddod aberoedd. 

Yn dilyn samplu a phrosesu'r gwaddod roedd awdur cyntaf yr astudiaeth, Dr Delphine Lallias, yn gallu delweddu bioamrywiaeth miloedd o rywogaethau o anifeiliaid, planhigion, ffyngau ac organebau microsgopaidd eraill ar hyd yr holl rannau hallt o aberoedd y Tafwys a'r Merswy.   Trwy'r dadansoddiad meintiol hwn, gallodd y tîm brofi hefyd am y tro cyntaf bod gwahanol ffactorau amgylcheddol yn y ddwy aber yn effeithio ar amrywiaeth grwpiau gwahanol o organebau. 

Mae'r darganfyddiadau hyn yn dangos y potensial i ddefnyddio technolegau newydd ar gyfer bio-fonitro mwy effeithiol ac maent yn awgrymu fod naill ai effeithiau lleol, daearyddol neu anthropogenig yn gyfrifol mae'n debyg am gyfansoddiad y gwahanol gymunedau biolegol.

Meddai Dr Simon Creer:   "Un o'r prif ddatblygiadau sydd wedi dod i'r amlwg drwy'r project yw'r maint enfawr o waith y gall tîm cymharol fychan, gyda labordy bioleg foleciwlaidd, ei gyflawni.  Dros gyfnod o rai misoedd yn yr astudiaeth fe wnaethom gatalogio bioamrywiaeth dros 20 o wahanol grwpiau o organebau microsgopig o dros 100 o samplau, llawer ohonynt yn debygol o fod yn newydd i wyddoniaeth.  Byddai gwneud yr un gwaith gan ddefnyddio dulliau adnabod morffolegol yn cymryd llawer o flynyddoedd i dîm mawr ei gyflawni." 

Mae’r tîm, ynghyd â grwpiau eraill ym Mhrydain, yn gweithio ar amrywiaeth o brojectau gydag Asiantaeth yr Amgylchedd gyda'r nod o wella dulliau monitro presennol.

Mae'r gwaith, a gyllidir gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol, ar gael am ddim yng Nghyfnodolyn yr ISME: http://www.nature.com/ismej/journal/vaop/ncurrent/full/ismej2014213a.html 

Dyddiad cyhoeddi: 9 Chwefror 2015