Efallai fod mwy o ffactorau nag a dybiech yn dylanwadu ar eich dygnwch wrth ymarfer

Yn awr fod mis Chwefror wedi cyrraedd, a ydych yn cael anhawster i gadw at gynllun ymarfer eich adduned Flwyddyn Newydd?  Gall fod mwy i’ch llwyddiant neu’ch methiant nag sy’n amlwg.

Yn ôl canfyddiadau ymchwilwyr o Brifysgol Bangor a Phrifysgol Caint, roedd gweld delweddau cadarnhaol neu negyddol yn isganfyddol, neu am gyn lleied o amser fel na wyddoch eich bod wedi’u gweld, yn cael effaith ar yr adeg yr oedd unigolion yn gorflino wrth ymarfer.

Yn yr ymchwil, gofynnwyd i gyfranogwyr seiclo mor hir ag oedd bosibl, nes gorflino.Yn yr ymchwil, gofynnwyd i gyfranogwyr seiclo mor hir ag oedd bosibl, nes gorflino.Yn yr ymchwil, a oedd yn defnyddio 13 o unigolion corfforol egnïol dan gyfarwyddyd i seiclo mor hir ag oedd bosibl, cafodd yr ymchwilwyr fod y cyfranogwyr wedi parhau am dair munud yn fwy cyn gorflino pan oeddent yn gweld wynebau hapus yn isganfyddol, yn hytrach nag wynebau trist.

Cafwyd yr un canlyniad unwaith eto, ond gyda geiriau yn lle’r delweddau. Unwaith eto, cymerodd y cyfranogwyr fwy o amser i flino’n lân pan welent eiriau cysylltiedig â gweithgarwch, megis “MYND” yn hytrach na geiriau segur megis “SEFYLL”.

Mae’r ymchwil hon, a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn Frontiers in Human Neuroscience, yn dangos y graddau y gall y meddwl a ffactorau seicolegol effeithio ar berfformiad unigolyn mewn ymarfer.  

Dyma oedd gan Dr Anthony Blanchfield i’w ddweud wrth roi sylwadau ar yr ymchwil a wnaethpwyd yn yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer ym Mangor:

“Mae’r rhain yn ganlyniadau gwych. Mae ein canfyddiadau ni, ar ben yr ymchwil i’r effaith a gaiff awgrymiadau anymwybodol ar ymddygiad, yn ychwanegu at y dystiolaeth sy’n dod i law ynglŷn â’r dylanwad a gaiff y meddwl ar ddygnwch. Cyn belled ag y mae ein hastudiaeth yn y cwestiwn, un ffordd o ddeall y canlyniadau hyn yw bod yr ysgogwyr fel pe baent yn lleihau’r ymdrech a oedd yn ofynnol, yn ôl tyb y cyfranogwyr, a hynny yn ei dro yn golygu y gallent barhau am fwy o amser.

“Er mai canfyddiadau cychwynnol yw’r rhain, un goblygiad penodol, o bosibl, yw y gallai fod yn syniad da i’r rhai sy’n cael anhawster i gadw at gynlluniau Blwyddyn Newydd ar gyfer ymarfer geisio cwmni pobl hapus a geiriau sy’n awgrymu gweithgarwch, er mwyn elwa ar fanteision ymarfer corff.”

“Yr hyn sy’n fwy diddorol fyth o’n hastudiaeth oedd nad oedd hyd yn oed angen i bobl fod yn ymwybodol o’r dylanwadau hyn er mwyn iddynt gael effaith.”

Meddai’r cyd-awdur, James Hardy o Brifysgol Bangor: “Yn draddodiadol, nid yw gwyddonwyr wedi cydnabod yn llwyr bosibiliadau’r meddwl o ran estyn neu danseilio perfformiad. Mae’r ddwy astudiaeth hyn yn rhan o PhD ar y mater hwn, un sy’n edrych ar swyddogaeth ymdrech wrth i bobl eu datgysylltu eu hunain oddi wrth ymarfer.”

“Y sialens nesaf yw deall y rheswm am y canfyddiadau hyn. Rydym yn awyddus i ganfod p’un ai’r delweddau hapus a’r geiriau sy’n awgrymu gweithredu oedd yn arwain at welliant mewn gwirionedd, ynteu’r delweddau trist a’r geiriau’n awgrymu segurdod oedd yn gyfrifol am danseilio perfformiad. Ar hyn o bryd, yr unig beth a wyddom yw bod gwahaniaeth rhwng y ddau ysgogydd hyn, yn hytrach na pha un sy’n “gyrru’r” canlyniad; efallai y bydd gwybod hynny’n gymorth inni ymyrryd mewn modd mwy penodol.”  

Dyddiad cyhoeddi: 6 Chwefror 2015