Gall organebau bychain iawn newid wyneb gwyddor arfordirol

Mae ymchwil wyddonol newydd a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn, Nature Communications, dan arweiniad ymchwilwyr o Brifysgol Bangor mewn cydweithrediad â gwyddonwyr o'r National Oceanography Centre yn Lerpwl a Phrifysgolion St. Andrews, Hull, Leeds a Plymouth, wedi darganfod bod siwgrau 'gludiog' a gynhyrchir gan ficro-organebau yn cael effaith eithriadol fawr ar symudiad tywod a mwd mewn amgylcheddau dŵr. 

"Mae'r siwgrau gludiog a ollyngir gan ficro-organebau mewn tywod a mwd a geir ar waelodion afonydd a moroedd yn eu sefydlogi gan ffurfio gorchudd tenau sy'n ddigon cryf i wrthsefyll erydu. Mae hyn yn ffaith ddigon hysbys mewn llenyddiaeth wyddonol.   Fodd bynnag, mae ein hymchwil wedi dangos bod symiau llawer llai o'r siwgrau hyn wedi'u dosbarthu'n wastad yn ddigon i arafu'n sylweddol dwf crychdonnau gwaddod. Mae darlunio'n gywir achosion a thwf crychdonnau gwaddod yn hanfodol i ragweld yn gywir symudiad tywod a mwd mewn afonydd, aberoedd a moroedd mewn modelau cyfrifiadurol.  Mae ein hymchwil yn awgrymu y gellid datblygu modelau o'r fath i wneud gwell daroganau o ddydd i ddydd, ac yn ystod cyfnodau o stormydd arfordirol a llifogydd mewn afonydd. Mae canlyniadau’r modelau hyn yn hanfodol i asiantaethau llywodraethol sydd yn gyfrifol am  lliniaru effeithiau stormydd arfordirol ac afonydd sy’n gorlifo,” eglurodd y prif awdur, Dr Jonathan Malarkey, eigionegydd o Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor.    

Ychwanegodd Dr Malarkey: "Mae effaith y siwgrau hyn - a elwir yn sylweddau polymeraidd allgellog (EPS)  - yn llawer cryfach nag effaith cleiau ar ddatblygiad crychdonnau. Mae'r sylweddau hyn oherwydd eu gwead yn llawer mwy effeithiol i rwystro gronynnau tywod rhag symud yn annibynnol."    

Mae'r ymchwil hon yn rhan o broject COHBED Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol. Mae'r gwaith hwn, sy'n costio miliwn o bunnau, yn ymwneud ag arbrofion a gynhelir mewn labordai hydroleg ym Mhrifysgolion Bangor a Hull a gwaith maes a wneir yn aber Afon Dyfrdwy. 

"Un o'r prif resymau dros drefnu'r project ymchwil hwn yw bod ein gwybodaeth am ymddygiad gwely'r môr ac afonydd yn gyfyngedig bron yn llwyr i dywod pur, er bod y rhan fwyaf o amgylcheddau dŵr yn gymysgedd o dywod, clai ac EPS.  Er mwyn llenwi'r bwlch hwn mewn gwybodaeth bu'n rhaid cael cydweithio arloesol yn y project rhwng biolegwyr, eigionegwyr a gwaddodegwyr," eglurodd Dr Jaco Baas, uwch ddarlithydd yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion a phrif ymchwilydd project COHBED. 

Dyddiad cyhoeddi: 6 Chwefror 2015