Mae arlunwyr a phenseiri'n meddwl yn wahanol o'u cymharu â phobl eraill

Mae astudiaeth newydd gan ymchwilwyr o UCL a Phrifysgol Bangor wedi canfod bod penseiri, arlunwyr a cherflunwyr yn ystyried gofodau mewn ffyrdd gwahanol i bobl eraill.

Pan ofynnir iddynt siarad am ddelweddau lleoedd, mae arlunwyr yn fwy tebygol o ddisgrifio'r gofod dan sylw fel delwedd ddau-ddimensiwn, tra bod penseiri'n fwy tebygol o ganolbwyntio ar lwybrau a ffiniau'r gofod.

"Fe wnaethom ganfod fod arlunwyr, cerflunwyr a phenseiri'n dangos arwyddion cyson o'u proffesiwn wrth siarad am y gofodau roeddem yn eu dangos iddynt, ac roedd gan bob un o'r tri grŵp ddisgrifiadau mwy manwl a helaeth na phobl tu allan i'r proffesiynau hynny," meddai'r uwch awdur, Dr Hugo Spiers (UCL Seicoleg a Gwyddorau Iaith).

Ar gyfer yr astudiaeth, a gyhoeddwyd yn Cognitive Science, defnyddiodd yr ymchwilwyr 16 o bobl o bob un o'r tri phroffesiwn - roedd ganddynt i gyd o leiaf wyth mlynedd o brofiad ac yn cynnwys Syr Anthony Gormley - ynghyd ag 16 o gyfranogwyr heb unrhyw gefndir perthnasol, a weithredodd fel rheolyddion.   Dangoswyd i'r cyfranogwyr ddelwedd Google Street view, darlun o Fasilica Sant Pedr, a golygfa swreal wedi'i gwneud ar gyfrifiadur. Roedd rhaid iddynt ddisgrifio'r amgylchedd, egluro sut y byddent yn archwilio'r gofod, ac awgrymu newidiadau i'r amgylchedd yn y ddelwedd.

Fe wnaeth yr ymchwilwyr gategoreiddio elfennau o'r ymatebion ar gyfer dadansoddiadau ansoddol a meintiol gan ddefnyddio dull newydd o'r enw Dadansoddiad Disgwrs Gwybyddol. Datblygwyd hwn gan un o'r cyd-awduron, Dr Thora Tenbrink (Ysgol Ieithyddiaeth ac Iaith Saesneg). Ei fwriad yw amlygu agweddau ar feddwl sydd wrth wraidd dewisiadau ieithyddol, tu hwnt i'r hyn mae siaradwyr yn ymwybodol ohono.

"Trwy edrych yn systematig ar iaith fe wnaethom ganfod rhai patrymau cyson, a drodd allan yn bur ddadlennol," meddai Dr Tenbrink.

Roedd yr arlunwyr yn tueddu i symud rhwng disgrifio'r olygfa fel gofod 3D neu fel delwedd 2D.  Roedd penseiri'n fwy tebygol o ddisgrifio rhwystrau a ffiniau'r gofod, a defnyddio termau mwy deinamig, tra roedd ymatebion cerflunwyr rhwng y ddau.  Roedd arlunwyr a phenseiri'n gwahaniaethu hefyd yn y ffordd roeddent yn disgrifio pwynt pellaf y gofod, gyda'r arlunwyr yn ei alw y 'cefn' a phenseiri'n ei alw y 'pen'. Cafwyd ymatebion llai manwl gan y cyfranogwyr rheoli a oedd, medd yr awduron, yn fwy na dim ond diffyg terminoleg arbenigol.

"Mae ein hastudiaeth wedi rhoi tystiolaeth y gall eich gyrfa'n hawdd iawn newid y ffordd rydych yn meddwl.  Mae ymchwil helaeth eisoes i'r ffordd mae diwylliant yn newid gwybyddiaeth, ond yma rydym wedi darganfod fod pobl o'r un diwylliant, ond mewn proffesiynau gwahanol, yn gwahaniaethu yn y ffordd maent yn gwerthfawrogi'r byd," meddai Dr Spiers.

"Mae ein darganfyddiadau hefyd yn codi'r posibilrwydd y gall pobl sydd eisoes yn dueddol o weld y byd fel delwedd 2D, neu sy'n canolbwyntio ar ffiniau gofod, fod yn fwy tueddol o ddilyn arlunio neu bensaernïaeth fel gyrfa," meddai.

"Yn eu gwaith bob dydd, mae gan arlunwyr a phenseiri ymwybyddiaeth ddyfnach o'u hamgylchedd, ac mae'n ymddangos bod hynny'n dylanwadu'n fawr ar y ffordd maent yn ystyried gofod," meddai awdur cyntaf yr astudiaeth, Claudia Cialone (sy'n gweithio nawr yn yr ARC Centre for Excellene for the Dynamics of Language, Australian National University).  "Rydym yn gobeithio y bydd ein hymchwil yn arwain at astudiaethau pellach i wybyddiaeth ofodol gweithwyr proffesiynol eraill, a all helpu i lunio ffyrdd newydd o ddeall, cynrychioli a thrafod gofod i ni ein hunain."

Cyllidwyd yr astudiaeth gan y James S. McDonnell Foundation. 

Dyddiad cyhoeddi: 28 Mehefin 2017