Sgipiwch i’r prif gynnwys
Home

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
  • English
Fy ngwlad:

Main Menu

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
Fy ngwlad:

Search

Close

Breadcrumb

  • English

Rhannwch y dudalen hon
  • Twitter
  • Facebook
  • LinkedIn

Adroddiad newydd yn tynnu sylw at ddylanwad ymchwil Prifysgol Bangor ar Gemau Olympaidd Llundain 2012

Mae'r adroddiad Wythnos Prifysgolion (30 Ebrill – 7 Mai) yn dangos effaith ymchwil a datblygiad chwaraeon mewn prifysgolion ar  y Gemau Olympaidd a Pharaolympaidd ac ar y diwydiant chwaraeon yn y DU.  

Mae ymchwil o Brifysgol Bangor wedi’i chynnwys mewn adroddiad newydd sy’n dangos effaith ymchwil a datblygiad chwaraeon mewn prifysgolion ar y Gemau Olympaidd a Pharaolymaidd, ac ar chwaraeon ym Mhrydain yn gyffredinol. Cyhoeddwyd yr adroddiad fel rhan o Wythnos Prifysgolion (30 Ebrill – 7 Mai) sy’n anelu at gynyddu ymwybyddiaeth gyhoeddus o swyddogaeth eang ac amrywiol prifysgolion Prydain.

Mae’r adroddiad, Supporting a UK success story: The impact of university research and sport development, yn tynnu sylw at rai yn unig o’r ffyrdd y mae ymchwil wedi helpu tîm Prydain i baratoi at Llundain 2012.  Tynnir sylw yn yr adroddiad at ddau ddarn o ymchwil o Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer y Brifysgol.        

Mae’r projectau ymchwil ymysg rhai yn yr Ysgol sy’n edrych ar y pwysau y mae’r prif athletwyr yn eu hwynebu a sut y gall unigolion a hyfforddwyr baratoi fel y gall yr athletwyr berfformio ar eu lefel uchaf. Wrth gwrs gellir defnyddio rhai o’r strategaethau mewn meysydd eraill a gallant fod yn ddefnyddiol mewn bywyd bob dydd. 


Mae’r enghreifftiau'n dangos sut y gall ymchwil sy'n digwydd mewn prifysgolion ar draws Prydain, yn cynnwys Prifysgol Bangor, helpu athletwyr i gael y mymryn bach hwnnw o fantais dros eu cystadleuwyr a all olygu'r gwahaniaeth rhwng medal aur neu un arian. 

Mae’r adroddiad yn edrych yn fanwl sut mae archwilio a datblygu ym meysydd technoleg, iechyd a lles, cynllunio, datblygu chwaraeon a chymryd rhan yn y Gemau, yn y gorffennol ac ar hyn o bryd, wedi cyfrannu at Llundain 2012 a’r diwydiant chwaraeon yn y DU. 

Meddai’r Athro John G. Hughes, Is-Ganghellor Prifysgol Bangor:

“Mae Wythnos Prifysgolion 2012 yn gyfle rhagorol i dynnu sylw at beth o’r gwaith rhyfeddol y mae prifysgolion yn ei wneud ym maes chwaraeon, ac mae hynny’n briodol iawn gyda’r Gemau yn Llundain eleni. Mae’n gyfle gwych hefyd i wahodd pobl i brofi bywyd prifysgol yn uniongyrchol, p’un a ydynt wedi bod i brifysgol eu hunain ai peidio.” 

Taith yw’r adroddiad mewn gwirionedd drwy’r ymchwil a’r datblygu chwaraeon sy’n sail i effaith barhaol Llundain 2012 ar wledydd Prydain. Ynddo ymdrinnir â phynciau mor amrywiol â hydradiad athletwyr i adfywio Dwyrain Llundain, cartref y Parc Olympaidd. Drwy'r adroddiad cyfan ceir enghreifftiau o adfywio trefol a hanes meddygaeth chwaraeon i ddangos yr amrywiol ffyrdd y bydd holl gymdeithas Prydain yn elwa o waith prifysgolion sy'n gysylltiedig â'r Gemau Olympaidd a Pharaolympaidd. 

Meddai Nicola Dandridge, Prif Weithredwr, Universities UK:  “Pan ydych yn gwylio athletwr neu dîm yn cystadlu, mae’n hawdd anghofio gymaint o waith paratoi sydd y tu ôl i’w perfformiad. Mae hynny’n fwy na dim ond hyfforddi ac ymarfer. Y dyddiau hyn defnyddir yr ymchwil ddiweddaraf o’r prifysgolion i gefnogi pob agwedd ar chwaraeon Olympaidd – o faeth ac iechyd i offer, ffisiotherapi, adfer ac, wrth gwrs, perfformio ei hun. Er enghraifft, gall y cyfuniad o ddylunio a thechnoleg fod yn hynod effeithiol i brif athletwyr, fel y gall cynllun a dyluniad caiac neu bob-sleigh fod yr un mor bwysig â sgiliau a hyfforddiant yr athletwyr eu hunain.”  

Meddai Karen Rothery, Prif Swyddog Gweithredol, British Universities & Colleges Sport: “Mae datblygiad chwaraeon yn ein prifysgolion yn annog mwy o gymryd rhan mewn chwaraeon ymysg myfyrwyr yn gyffredinol. Mae amrywiaeth o raglenni a chefnogaeth a datblygiad gweithlu cynorthwyol o wirfoddolwyr a swyddogion yn golygu bod mwy o bobl yn cael cyfle i gymryd rhan mewn chwaraeon a mwynhau’r manteision niferus sy’n dod yn sgil hynny.”  

Mae copïau o’r adroddiad llawn i’w gael o wneud cais i universitiesweek@fourcommunications.com ac yn ddiweddarach gellir ei lawrlwytho o www.universitiesweek.org.uk

Dyddiad cyhoeddi: 2 Mai 2012

Hafan

  • Newyddion
    • Newyddion Cyfredol
    • Archif Newyddion
    • Digwyddiadau
Hafan

Dilynwch Ni

  • Twitter
  • Facebook
  • Instagram
  • Youtube
  • LinkedIn

Prifysgol Bangor

Bangor, Gwynedd, LL57 2DG, UK

+44 (0)1248 351151

Cysylltwch â Ni

Ymweld â’r Brifysgol

Mapiau a Chyfarwyddiadau Teithio

Polisi

  • Cydymffurfiaeth Gyfreithiol
  • Datganiad Deddf Caethwasiaeth Modern 2015
  • Datganiad Hygyrchedd Prifysgol Bangor
  • Polisi Iaith Gymraeg
  • Preifatrwydd a Chwcis
Map

Mae Prifysgol Bangor yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565

© 2020 Prifysgol Bangor