Sgipiwch i’r prif gynnwys
Home

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
  • English
Fy ngwlad:

Main Menu

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
Fy ngwlad:

Search

Close

Breadcrumb

  • English

Rhannwch y dudalen hon
  • Twitter
  • Facebook
  • LinkedIn

Arloesi â defnydd newydd o Wlân

Angela Morris a Keith Spilsbury o Woolcool  efo’r blychau fferyllol LifeGuardian newydd.Angela Morris a Keith Spilsbury o Woolcool efo’r blychau fferyllol LifeGuardian newydd.A ydych chi erioed wedi ystyried sut mae defaid yn goroesi ar y bryniau oer a gwlyb? Mae gan eu gwlân nodweddion insiwleiddio anhygoel sy’n eu cadw’n gynnes, ac mae’r ddynoliaeth wedi gwneud yn fawr o’u cnu ers miloedd o flynyddoedd. Ond a ellir ei ddefnyddio i gadw pethau’n oer?

Mae gwyddonwyr ymchwil yng Nghanolfan BioGyfansoddion Prifysgol Bangor wedi bod yn cyfrannu at ehangu ein dealltwriaeth o briodweddau anhygoel gwlân fel defnydd insiwleiddio yn y diwydiant cludo nwyddau oer, ac wedi rhoi prawf ar ei berfformiad at ddibenion newydd a gwerthfawr.

Mae cwmni Woolcool yn Swydd yr Amwythig yn arwain y farchnad sy’n arbenigo mewn pecynnu wedi’i insiwleiddio a gynhyrchir o ddeunyddiau naturiol. Gofynnodd y cwmni i’r Ganolfan BioGyfansoddion ymchwilio ymhellach i briodweddau gwlân yn rheoli tymheredd a byffro lleithder fel rhan o broject ymchwil a datblygiad a ariannwyd gan Innovate UK i ddatblygu deunydd pecynnu arloesol a chynaliadwy i’w ddefnyddio i gludo meddyginiaethau sydd angen eu cadw ar dymheredd sefydlog, yn enwedig brechlynnau, o gwmpas y byd.

Mae dod i ddeall sut mae gwlân yn ymateb i’r amgylchedd a sut mae’n gweithio yn gwarchod tymheredd a lleithder wedi galluogi Woolcool i ddatblygu deunyddiau pecynnu arloesol a chynaliadwy newydd ar gyfer dosbarthu bwyd, deunyddiau fferyllol a chynhyrchion eraill sydd angen cael eu cadw’n oer wrth gael eu cludo. Mae hefyd yn gweithredu’n well na deunyddiau insiwleiddio gwneud fel polystyren.

Keith Spillsbury ac Angela Morris o Woolcool efo Graham Ormondroyd o’r Ganolfan BioGyfansoddion a’r Is-ganghellor, yr Athro John G Hughes, ar achlysur y Noson Wobrwyo Effaith ac Arloesi. Cyrhaeddodd y project restr fer y Wobr Arloesi Gorau mewn Busnes.Keith Spillsbury ac Angela Morris o Woolcool efo Graham Ormondroyd o’r Ganolfan BioGyfansoddion a’r Is-ganghellor, yr Athro John G Hughes, ar achlysur y Noson Wobrwyo Effaith ac Arloesi. Cyrhaeddodd y project restr fer y Wobr Arloesi Gorau mewn Busnes.Mae Woolcool yn defnyddio gwlân 100% pur yn eu deunyddiau a chynhyrchion pecynnu ecogyfeillgar. Datblygwyd eu pecynnu wedi’i insiwleiddio i’w ddefnyddio yn y diwydiant bwyd ffres a’r diwydiant fferyllol, sy’n dibynnu ar sicrwydd bod eu cynnyrch yn cael ei gadw ar dymheredd sefydlog wrth gael ei gludo.

Trwy weithio gyda gwyddonwyr yn y Ganolfan BioGyfansoddion, mae Woolcool wedi dod i ddealltwriaeth dechnolegol o sut yn union mae eu hinsiwleiddio gwlân yn gweithio a chael cadarnhad gwyddonol bod eu cynnyrch yn cadw’r cynhwysion ar y tymheredd sefydlog gofynnol am gyfnodau hirach na phecynnu arferol, ac yn cwrdd â’r safonau pecynnu Ewropeaidd neu’n gwella arnynt.

Meddai Angela Morris, Prif Weithredwr Woolcool:

“Mae gwlân yn un o’r ffibrau mwyaf clyfar ac anhygoel ym myd natur gyda strwythur cymhleth a phriodweddau naturiol sy’n ymdopi ag eithafion oerfel a gwres.”

“Mae ffibrau gwlân yn hydrosgopig, sy’n golygu eu bod yn amsugno a gollwng lleithder, gan weithredu fel thermostat naturiol sy’n cynnal tymheredd sefydlog. Roeddem yn awyddus i fanteisio ar yr adnodd adnewyddadwy anhygoel hwn.”

Meddai Graham Ormondroyd,  a arweiniodd y gwaith yn y Ganolfan BioGyfansoddion:

“Mae ein harbrofion wedi rhoi prawf ar berfformiad gwlân fel deunydd pacio ac wedi galluogi’r cwmni i ehangu. Maent erbyn hyn yn cyflogi 40 o bobol yn eu ffatri newydd. Mae’r deunydd yma wedi sefydlu enw da iddo’i hun yn gyflym iawn mewn marchnad arbenigol o bwys.”

“Diben y Ganolfan BioGyfansoddion yw ymchwilio i ddeunyddiau adnewyddadwy y gall cwmnïau masnachol eu datblygu ar gyfer y farchnad. Rydym bob amser wrth ein bodd pan fydd deunydd adnewyddadwy yn cael ei fabwysiadu i’w ddefnyddio yn lle deunyddiau anadnewyddadwy.”

Cyrhaeddodd gwaith y Ganolfan BioGyfansoddion yn ymchwilio i’r defnydd o wlân ar gyfer pecynnu bwydydd a meddyginiaethau restr fer y Wobr Arloesi Gorau mewn Busnes (a noddwyd gan Siemens Healthcare Diagnostics)  yn nhrydedd Noson Wobrwyo Effaith ac Arloesi Prifysgol Bangor 2015.

Dyddiad cyhoeddi: 18 Ionawr 2016

Hafan

  • Newyddion
    • Newyddion Cyfredol
    • Archif Newyddion
    • Digwyddiadau
Hafan

Dilynwch Ni

  • Twitter
  • Facebook
  • Instagram
  • Youtube
  • LinkedIn

Prifysgol Bangor

Bangor, Gwynedd, LL57 2DG, UK

+44 (0)1248 351151

Cysylltwch â Ni

Ymweld â’r Brifysgol

Mapiau a Chyfarwyddiadau Teithio

Polisi

  • Cydymffurfiaeth Gyfreithiol
  • Datganiad Deddf Caethwasiaeth Modern 2015
  • Datganiad Hygyrchedd Prifysgol Bangor
  • Polisi Iaith Gymraeg
  • Preifatrwydd a Chwcis
Map

Mae Prifysgol Bangor yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565

© 2020 Prifysgol Bangor