Sgipiwch i’r prif gynnwys
Home

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
  • English
Fy ngwlad:

Main Menu

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
Fy ngwlad:

Search

Close

Breadcrumb

  • English

Rhannwch y dudalen hon
  • Twitter
  • Facebook
  • LinkedIn

Athro o Brifysgol Bangor yn darganfod sgript ffilm ‘golledig’ Kubrick

Mae'r Athro Nathan Abrams o Brifysgol Bangor, sy’n arbenigwr ar Stanley Kubrick, wedi ailddarganfod sgript ffilm a luniwyd gan y cyfarwyddwr yn 1956 ac y credid oedd wedi mynd ar goll.

Ei theitl oedd Burning Secret, sef addasiad o nofel fer o’r un enw a gyhoeddwyd yn 1913 gan Stefan Zweig, y nofelydd o Fienna.

Fe wnaeth Nathan Abrams o Ysgol Cerddoriaeth a’r Cyfryngau ym Mhrifysgol Bangor, ddarganfod y sgript ffilm wrth ymchwilio i’w lyfr nesaf ar ffilm olaf Kubrick, Eyes Wide Shut.

“Am amser maith roedd y sgript ar goll,” meddai Nathan Abrams, a gyhoeddodd yn ddiweddar Stanley Kubrick: New York Jewish Intellectual gyda Rutgers University Press.  “Doedd neb yn gwybod a oedd hyd yn oed wedi ei chwblhau.”

“Fe syrthiodd ar fy nglin tra oeddwn yn ymchwilio ar gyfer fy llyfr nesaf, Eyes Wide Shut: Stanley Kubrick and the Making of His Final Film, sydd i’w gyhoeddi gan Oxford University Press y flwyddyn nesaf.  Fedrwn i ddim credu’r peth.  Doedd yr un ysgolhaig na beirniad wedi gweld y sgript yma am dros drigain mlynedd.  Mae mor gyffrous.

“O’r hyn rydw i wedi’i weld mae’r sgript ffilm i weld yn ddilys.  Mae’r dyddiad 24 Hydref 1956 arni, ynghyd â stamp Adran Sgript MGM.  Roedd i fod i gael ei chynhyrchu gan James B. Harris, ei chyfarwyddo gan Kubrick ac wedi’i hysgrifennu gan Kubrick a Willingham.

Dwi’n tybio bod y sgôr i gael ei lunio gan y cyfansoddwr Gerald Fried, a oedd eisoes wedi llunio sgôr rhai o ffilmiau cynharaf Kubrick.

Nofel fer a adroddir o safbwynt bachgen Iddewig deuddeg oed yw Burning Secret.  Mae barwn llyfn ei dafod a sgut am ferched yn cyfeillachu efo’r bachgen mewn spa wyliau yn Awstria er mwyn ceisio cael ei ffordd efo’i fam briod.

Mae’r plentyn yn ei ddiniweidrwydd yn gweithredu fel math o gyfryngwr rhwng ei fam a’r dyn yma sydd â’i lygad arni fel cariad, ac mae’n stori ddigon brawychus gyda themâu rhywioldeb a cham-drin plant yn corddi o dan yr wyneb.

Nôl yn 1956 roedd y Stanley Kubrick ifanc yn dal yn gymharol anadnabyddus, ac newydd gwblhau ei ffilm The Killing.

Gyda’i bartner cynhyrchu, James B. Harris, roedd yn chwilio am broject newydd i roi hwb pellach i’w enw da.  Cynigiodd MGM y cynnig cyntaf ar unrhyw eiddo i’r pâr.

Yr un a ddaliodd ei lygad yn wirioneddol oedd Burning Secret . “Roedd Kubrick yn daer iawn am y gwaith,” meddai Harris. “Dwi’n credu bod ganddo lawer iawn o feddwl o Stefan Zweig fel awdur.”

Fe gomisiynodd Kubrick y nofelydd o Greenwich Village, Calder Willingham, i ysgrifennu sgript ar gyfer y ffilm. Byddai Willingham yn mynd ymlaen yn ddiweddarach i weithio ar y sgript ffilm i Paths of Glory yn 1957.

Bu Kubrick yn gweithio ar yr addasiad gyda Willingham ac, yn ôl Harris, “fe gymerodd gryn amser i ddatblygu sgript y Burning Secret.”

“Mae sgript ffilm The Burning Secret yn rhoi golwg gynnar ar y ffordd y cyfieithodd Kubrick idiom fin-de-siècle Awstriadd i un Americanaidd cyfoes,” meddai Nathan Abrams.

“Wrth adleoli’r digwyddiadau i westy yn America mae’n rhagfynegi ei ffilmiau diweddarach, Lolita a The Shining.  Ond yr hyn mae’n ei wneud yn amlwg iawn yw rhoi’r templed i’w ffilm olaf, Eyes Wide Shut, yn arbennig o ran i chefndir Awstriaidd-Iddewig a’r sylw y mae’n ei roi i briodas, ffyddlondeb mewn priodas, godineb a rhywioldeb.

“Mae’r barwn suave, sy’n dod yn Americanwr sy’n gwerthu yswiriant, yn sicr yn fodel cynnar i Victor Ziegler a Sandor Szavost yn Eyes Wide Shut.”

Wnaeth y project erioed gael ei wireddu gan i MGM, y stiwdio yr oedd Kubrick yn gweithio iddi ar y pryd, ei ganslo.  Byddai fersiwn o’r nofelig, ond wedi’i seilio ar sgript ffilm wahanol, yn cael ei gwneud drachefn gan Andrew Birkin, cynorthwywr Kubrick, yn 1988.

Dyddiad cyhoeddi: 16 Gorffennaf 2018

Hafan

  • Newyddion
    • Newyddion Cyfredol
    • Archif Newyddion
    • Digwyddiadau
Hafan

Dilynwch Ni

  • Twitter
  • Facebook
  • Instagram
  • Youtube
  • LinkedIn

Prifysgol Bangor

Bangor, Gwynedd, LL57 2DG, UK

+44 (0)1248 351151

Cysylltwch â Ni

Ymweld â’r Brifysgol

Mapiau a Chyfarwyddiadau Teithio

Polisi

  • Cydymffurfiaeth Gyfreithiol
  • Datganiad Deddf Caethwasiaeth Modern 2015
  • Datganiad Hygyrchedd Prifysgol Bangor
  • Polisi Iaith Gymraeg
  • Preifatrwydd a Chwcis
Map

Mae Prifysgol Bangor yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565

© 2020 Prifysgol Bangor