Sgipiwch i’r prif gynnwys
Home

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
  • English
Fy ngwlad:

Main Menu

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
Fy ngwlad:

Search

Close

Breadcrumb

  • English

Rhannwch y dudalen hon
  • Twitter
  • Facebook
  • LinkedIn

Bangor’s Students Union nominated for seven Awards

Mae Undeb y Myfyrwyr gweithgar Prifysgol Bangor wedi ei enwebu am ddim llai na saith Gwobr yng Ngwobrau Blynyddol Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru (UCM Cymru)

Bu panel o feirniaid annibynnol yn cwtogi’r rhestr hir o dros 80 o enwebiadau  i lawr i’r rhestr fer ar gyfer Gwobrau eleni.

Mae’r Undeb ei hun ym Mangor ar restr fer ‘Undeb Myfyrwyr Addysg Uwch y Flwyddyn’ a Rhys Dart, Rheolwr yr Undeb, ar restr fer Gwobr Simpson-King i Aelod Staff y Flwyddyn mewn Undeb Myfyrwyr. Ac yntau’n Gadeirydd y Gymdeithas Ddaearyddol, sydd wedi’i henwebu  am Wobr Clwb neu Gymdeithas y Flwyddyn, mae Chris Bibby yntau wedi’i enwebu am wobr Myfyriwr y Flwyddyn Endersleigh. Mae dau o Fangor ymhlith pedwar enwebiad am Gynrychiolydd Cwrs y Flwyddyn: Martyn Curzey, o Ysgol Gemeg y Brifysgol a Marta Napodano, sy’n cynrychioli ei chyd fyfyrwyr yn Ysgol y Saesneg. Mae Katherine Young, sydd yn ysgrifennu i  bapur Cymraeg y Brifysgol, Y Llef, ar restr fer gwobr  Myfyriwr Newyddiadurol y Flwyddyn.

Meddai Antony Butcher, Llywydd Undeb y Myfyrwyr: “Mae’n wirioneddol wych gweld bod UCM Cymru’n cydnabod ein bod yn Undeb sy’n gweithio’n galed dros ein haelodau a chyda chymaint o fyfyrwyr a staff ymroddedig a dawnus. Fel yr ydym yn symud ymlaen tuag at ein cartref newydd yn Pontio, mae’n bwysig ein bod yn parhau i weithio’n galed  i ddatblygu’r profiad  a gaiff myfyrwyr a chael  effaith bositif ar ein myfyrwyr. Rydym wedi’n plesio’n fawr ein bod yn un o bedwar enillydd posib Undeb Myfyrwyr AU y Flwyddyn ac yn edrych ymlaen at y noson wobrwyo yng Nghasnewydd - gan obeithio dod â rhai o’r gwobrau’n ôl i’r Gogledd.”

O ganlyniad i’w swydd fel Cadeirydd y Gymdeithas Ddaearyddol, mae Chris Bibby  ar restr fer am wobr bersonol. Meddai, ar ran y Gymdeithas “Rwy’n falch iawn ein bod wedi dod cyn belled, a thu hwnt i ddisgwyliadau’r pwyllgor. Ni fyddai’n bosib cyflawni cymaint heb waith arbennig ein pwyllgor ac ymdrech yr holl aelodau a’r staff, a fu'n mwynhau’r cyfan. Mae cael ein henwebu’n gryn gamp a byddai ennill yn golygu llawer i’r adran ym Mangor, y staff a’r myfyrwyr fel ei gilydd.”

Enillodd y Gymdeithas Ddaearyddol wobr ‘Cymdeithas y Flwyddyn’ a ‘Gwobr Amgylcheddol’ Undeb Myfyrwyr Bangor am eu hymdrechion diflino dros Fasnach Deg a’r ‘Wythnos Ewch yn Wyrdd’. Yn yr un Gwobrau, enillodd Chris Bibby Wobr Aur a’r Is-gadeirydd, Charlie Wild, Wobr Arian am eu cyfraniadau clodwiw i’w hundeb myfyrwyr.

Meddai Marta Napodano, sydd ar restr fer am Wobr Cynrychiolydd Cwrs y flwyddyn: “Mae cael gwasanaethu fel  Cynrychiolydd Cwrs Ysgol y Saesneg yn brofiad gwych. Fel myfyrwraig ryngwladol, roeddwn yn gweld yr un pryderon a chwestiynau a oedd gen i fy hun yn codi ymysg eraill, a chafodd bod o gymorth i fyfyrwyr yn ystod eu dyddiau dryslyd cyntaf yma gryn effaith arnaf. Roedd medru ateb hyd yn oed yr ymholiad lleiaf a rhoi gwên ar wyneb rhywun yn fwy na digon o  wobr!”

Caiff yr enillwyr eu cyhoeddi ar ôl cinio mawreddog yng Ngwesty’r Hilton, Casnewydd, nos Fercher 13 Mawrth. Y panel annibynnol o feirniaid a fydd yn dewis yr enillwyr yw: Cyn Lywydd UCMC Vaughan Gething AC; Gareth Evans, Gohebydd Addysg y Western Mail a Jean McLean, Pennaeth Ymgyrchoedd Mudiad Achub y Plant.

Dyddiad cyhoeddi: 8 Mawrth 2013

Hafan

  • Newyddion
    • Newyddion Cyfredol
    • Archif Newyddion
    • Digwyddiadau
Hafan

Dilynwch Ni

  • Twitter
  • Facebook
  • Instagram
  • Youtube
  • LinkedIn

Prifysgol Bangor

Bangor, Gwynedd, LL57 2DG, UK

+44 (0)1248 351151

Cysylltwch â Ni

Ymweld â’r Brifysgol

Mapiau a Chyfarwyddiadau Teithio

Polisi

  • Cydymffurfiaeth Gyfreithiol
  • Datganiad Deddf Caethwasiaeth Modern 2015
  • Datganiad Hygyrchedd Prifysgol Bangor
  • Polisi Iaith Gymraeg
  • Preifatrwydd a Chwcis
Map

Mae Prifysgol Bangor yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565

© 2020 Prifysgol Bangor