Sgipiwch i’r prif gynnwys
Home

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
  • English
Fy ngwlad:

Main Menu

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau Ar-lein
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Prospectws

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn Ysgolion/Colegau Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adolygiad Blynyddol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa’r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda’r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a’r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Cyllid ar gyfer Cydweithio, Ymchwil a Datblygu ac Arloesi
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ymgynghoriaeth, Arbenigedd a Gwybodaeth Arbenigol
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Lleoliadau Myfyrwyr ac Interniaethau Mewn Busnes a Menter
      • Hyfforddiant a Datblygiad Proffesiynol Parhaus
      • Prentisiaethau Gradd
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Cysylltiadau
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Cysylltwch â Ni
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau Ar-lein
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Prospectws

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn Ysgolion/Colegau Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adolygiad Blynyddol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa’r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda’r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a’r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Cyllid ar gyfer Cydweithio, Ymchwil a Datblygu ac Arloesi
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ymgynghoriaeth, Arbenigedd a Gwybodaeth Arbenigol
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Lleoliadau Myfyrwyr ac Interniaethau Mewn Busnes a Menter
      • Hyfforddiant a Datblygiad Proffesiynol Parhaus
      • Prentisiaethau Gradd
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Cysylltiadau
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Cysylltwch â Ni
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
Fy ngwlad:

Search

Close

Breadcrumb

  • English

Rhannwch y dudalen hon
  • Twitter
  • Facebook
  • LinkedIn

Bangor yn derbyn yr UK Challenge

Yn nechrau Gorffennaf, cynhaliwyd yr UK Challenge (https://www.ukchallenge.co.uk) yng Ngogledd Cymru a chroesawyd y timau gan Brifysgol Bangor. Ystyrir yr her hon fel 'digwyddiad gorau'r byd ym maes adeiladu timau corfforaethol'. Cymerodd 100 o dimau o bob rhan wledydd Prydain a thu hwnt ran yn yr achlysur, pob un â thîm o chwech, gan gynnwys eu bws mini eu hunain a set o bedwar beic. Arhosodd y timau yn y neuaddau ym Mhentref Ffriddoedd a phencadlys y digwyddiad oedd Canolfan Brailsford, gyda chyfarfodydd briffio gan gapteiniaid y timau'n cael eu cynnal bob dydd yn y brif neuadd.   Fe wnaeth Prifysgol Bangor gystadlu gyda thîm am y tro cyntaf: Capten John Parkinson (Seicoleg), Sarah Nason (Y Gyfraith), Alan Owen (Brailsford), Ross Roberts (Gwyddor Chwaraeon), a'r myfyrwyr PhD Rhi Willmot (Seicoleg) a Will Hardy (Gwyddor Chwaraeon). 

Mae'r digwyddiad yn debyg i ryw raddau i The Crystal Maze ar steroidau ac roedd y timau'n wynebu saith cam dros dri diwrnod, gyda phob un o'r rhain yn cynnwys cyfuniad o elfennau corfforol, strategol a deallusol.  Er enghraifft, yn y cam cyntaf, a gynhaliwyd yng Nghaernarfon, roedd yn rhaid i'r timau redeg a beicio o amgylch y dref i wahanol leoliadau ar y map lle roedd yn rhaid iddynt ddatrys posau er mwyn ennill pwyntiau (a chasglu dreigiau!). Roedd yr ail gam, a gynhaliwyd ar ôl iddi dywyllu, yn cynnwys rhedeg mwy o amgylch Caernarfon, y tro hwn i ddatrys 'llofruddiaethau' drwy gasglu cliwiau a datrys matricsau tebyg i'r rhai a geir mewn cylchgronau posau er mwyn canfod y troseddwyr.  Cynhaliwyd camau pellach yn Llanberis, Dolgarrog, Bangor a Betws-y-coed. Gellir gwylio 3 munud o uchafbwyntiau ar YouTube yma: https://m.youtube.com/watch?v=KzCXPqYVttg Mae Tîm Bangor yn rhif 89 yn y gwisgoedd coch!

Dros dri diwrnod, rhedodd pob tîm tua 65km (40 milltir), a hefyd buont yn canŵio ar draws Llyn Padarn a beicio mynydd ger Betws-y-coed. Bob dydd roedd pob un o'r camau'n para tan tua hanner nos ac yn dechrau drachefn am 0600 y bore. Felly, roedd y digwyddiad nid yn unig yn brawf ar gyflymder a bywiogrwydd meddyliol yn ystod y camau, ond hefyd o wytnwch drwy gydol y profiad.  

Gorffennodd Tîm Bangor yn safle 35 drwodd a thro (ddim yn ddrwg o ystyried mai hwn oedd y tro cyntaf iddynt gystadlu). Yn ystod y cam gorau iddynt daethant i safle 13 ac yn 58fed ar y cam gwaethaf iddynt.  Daethant yn 8fed yn yr ornest Brenin y Stepiau (rhedeg i fyny'r bibell ddŵr yn Nolgarrog) ac yn 15fedyn Brenin y Sbrintiau (cyfres o sbrintiau ar ddechrau pob cam). Ymhlith yr uchafbwyntiau Tîm Bangor oedd y cyntaf i gyrraedd copa'r Wyddfa yn ystod Cam 4: Gêm y Llwythau, a hefyd fe wnaethant orffen fel y tîm prifysgol â'r sgôr uchaf.  A bu'r fflapjacs anhygoel gan adran arlwyo'r brifysgol o help mawr i sicrhau bod y tîm wedi dal ati i'r diwedd (os ydych yn meddwl bod ein brownis yn dda, wel blaswch y fflapjacs ...). 

Meddai John Parkinson: “Dwi'n hynod falch o’r tîm. Mae'n deg dweud bod y digwyddiad yn anoddach nag yr oeddem wedi'i ragweld, ond fe wnaeth pawb ymateb i'r her ac ymroi'n llwyr i'r gystadleuaeth.  Ac fe gawson ni lawer o hwyl hefyd mae'n rhaid dweud! ”

Mae'n bwysig dathlu ein llwyddiannau a gallwn nodi o leiaf ddau beth cadarnhaol a ddeillodd o'r digwyddiad.  Yn gyntaf, bod Tîm Bangor wedi perfformio'n rhagorol, nid yn unig yn y camau unigol, ond ar draws y digwyddiad cyfan. Buont yn cydweithio mewn ffordd gefnogol a chadarnhaol, bob amser yn awyddus i helpu ei gilydd a sicrhau ei fod yn brofiad gwych i bawb.

Ac yn ail, o safbwynt cynnal y digwyddiad, fe wnaeth tîm y brifysgol waith eithriadol wrth ddarparu gwasanaeth o'r safon uchaf.  Rhaid cofio bod yna tua 700 o bobl a oedd angen llety a gwasanaeth arlwyo, yn ogystal â chymorth ar rai o'r camau. Nid ar chwarae bach y mae delio â 100 o fysiau mini a 400 o feiciau.

Llongyfarchiadau mawr i bawb a gymerodd ran. Cafwyd atgofion melys a sioe wych gan Dîm Bangor!!

Os oes gennych ddiddordeb mewn trefnu eich digwyddiad adeiladu tîm eich hun, neu bod gennych gynhadledd i'w threfnu, neu os hoffech wybod mwy am gyfleusterau cynadledda'r brifysgol, cysylltwch â Nia Morgan n.wright-morgan@bangor.ac.uk

 

Dyddiad cyhoeddi: 16 Awst 2019

Hafan

  • Newyddion
    • Newyddion Cyfredol
    • Archif Newyddion
    • Digwyddiadau
Hafan

Dilynwch Ni

  • Twitter
  • Facebook
  • Instagram
  • Youtube
  • LinkedIn

Prifysgol Bangor

Bangor, Gwynedd, LL57 2DG, UK

+44 (0)1248 351151

Cysylltwch â Ni

Ymweld â’r Brifysgol

Mapiau a Chyfarwyddiadau Teithio

Polisi

  • Cydymffurfiaeth Gyfreithiol
  • Datganiad Deddf Caethwasiaeth Modern 2015
  • Datganiad Hygyrchedd Prifysgol Bangor
  • Polisi Iaith Gymraeg
  • Preifatrwydd a Chwcis
Map

Mae Prifysgol Bangor yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565

© 2020 Prifysgol Bangor