Sgipiwch i’r prif gynnwys
Home

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
  • English
Fy ngwlad:

Main Menu

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
Fy ngwlad:

Search

Close

Breadcrumb

  • English

Rhannwch y dudalen hon
  • Twitter
  • Facebook
  • LinkedIn

Bangor yn fuddugol yn yr Eisteddfod Rhyng-Golegol

Rhai o gystadleuwyr Bangor ar lwyfan yn ystod yr Eisteddfod Rhyng GolegolRhai o gystadleuwyr Bangor ar lwyfan yn ystod yr Eisteddfod Rhyng GolegolBu myfyrwyr Cymraeg o brifysgolion Cymru’n mwynhau penwythnos o gystadlu a chymdeithasu yn yr Eisteddfod Rhyng-Golegol a gynhaliwyd ym Mangor dros y penwythnos ( 17-19 Chwefror).

Roedd y penwythnos yn llwyddiant ysgubol gyda’r Cyngerdd nos Sadwrn yn gwerthu allan a myfyrwyr Bangor yn fuddugol yn yr Ŵyl.

Llwyddodd myfyrwyr Bangor i ennill  yr Eisteddfod gan ennill 843 o farciau rhwng y cystadlaethau Gwaith Cartref a Llwyfan, gyda Phrifysgol Aberystwyth yn dod yn ail efo 482 o farciau.

Meddai Mair Rowlands, Llywydd UMCB: “Wedi'r holl waith caled yn paratoi at yr Eisteddfod mi roedd yn llwyddiant ysgubol, gyda Bangor yn dod i’r brig, a'r gig Cymraeg yn gwerthu allan. Roedd yr awyrgylch yn Neuadd PJ yn wefreiddiol ac mi wnaeth pawb fwynhau yn fawr. Diolch yn fawr iawn i bawb wnaeth helpu a chefnogi!”

“Roedd nifer o uchafbwyntiau i'r Eisteddfod, ond y rhai sy'n sefyll allan yn bennaf ydi Lois Eifion yn cael cyntaf ac ail yng ngwobr Tlws y Cerddor, mae hi'n ferch dalentog iawn ac mae diolch mawr iddi am arwain y corau a cystadlu yn ddiflino yn y cystadlaethau llwyfan. Uchafbwynt arall oedd Huw Ynyr yn ennill y rhuban glas lleisiol, roedd ei berfformiad yn wych, ac fe gododd y beirniaid a'r gynulleidfa ar eu traed i'w gymeradwyo, mae ganddo lais arbennig! Wrth gwrs mi roedd ennill yr Eisteddfod yn uchafbwynt hefyd, a braf oedd gweld myfyrwyr Bangor yn eu crysau cochion yn dathlu!”

Meddai Wyn Thomas, Dirprwy Is- Ganghellor y Brifysgol, “Roedd hi'n fraint aruthrol cael bod yn bresennol yn yr Eisteddfod Ryng-golegol yn Neuadd Prichard Jones ddydd Sadwrn diwethaf a chael tystiolaeth ddiamheuol o ddawn a gallu arbennig myfyrwyr Prifysgol Bangor. Lloriwyd y sefydliadau eraill yn llwyr a braint myfyrwyr Cymraeg y sefydliad hwn oedd cael cipio'r darian - a hynny'n gwbl haeddiannol. Ein gobaith ni fydd gweld dylanwad yr unigolion ifanc hyn fu mor frwd ac eiddgar i gystadlu (dan faner Y Coleg ar y Bryn) yn yr ymrysonau llenyddol a cherddorol, yn cyfrannu at gyfoethogi cymunedau ledled Cymru yn y dyfodol.”

Caiff yr Eisteddfod Ryng-golegol ei hystyried fel un o brif ddigwyddiadau cymdeithasol a diwylliannol ar galendr unrhyw fyfyriwr Cymraeg neu ddysgwr sy’n astudio yng Nghymru a hefyd i rai o’r cymdeithasau Cymraeg sydd wedi’u ffurfio tu allan i Gymru.

Yn ogystal â’r cystadlu ar y llwyfan a’r Gwaith Cartref, cynhaliwyd Gala Chwaraeon rhyng-golegol, oedd yn cynnwys Rygbi, Pêl droed  a chystadleuaeth Pêl rwyd 7 bob ochr. Roedd y Gig mawreddog ar nos Sadwrn, gyda nifer o fandiau Cymraeg - Helyntion Jo’s y Ficar, Sŵnami, Creision Hud, Al Lewis Band, Y Bandana a Chowbois Rhos Botwnnog yn llwyddiant, gyda’r tocynnau’n gwerthu allan.

“Rhaid diolch i bawb sydd wedi bod ynglŷn â’r trefniadau ac i’r holl sefydliadau  sydd wedi cytuno i noddi’r Eisteddfod mewn unrhyw ffordd; i Pontio am fod yn brif noddwr i’r Eisteddfod yn ogystal ag Undeb Myfyrwyr Bangor, Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol am noddi’r Gadair a'r Goron. Rhaid diolch yn ogystal i’r Glôb, Patrick’s Bar, C2, y Brifysgol a Teejak.  Ac i’r unigolion  a gynigiodd eu cefnogaeth, ac a enwyd yn rhestr destunau’r dydd,”  Meddai Mair Rowlands.

Mae’r Eisteddfod dros y blynyddoedd wedi sicrhau llwyfan i hybu doniau a thalentau nifer helaeth o fyfyrwyr ac mae’n siŵr y bydd y traddodiad hwn yn parhau yn y dyfodol. 

Dyddiad cyhoeddi: 20 Chwefror 2012

Hafan

  • Newyddion
    • Newyddion Cyfredol
    • Archif Newyddion
    • Digwyddiadau
Hafan

Dilynwch Ni

  • Twitter
  • Facebook
  • Instagram
  • Youtube
  • LinkedIn

Prifysgol Bangor

Bangor, Gwynedd, LL57 2DG, UK

+44 (0)1248 351151

Cysylltwch â Ni

Ymweld â’r Brifysgol

Mapiau a Chyfarwyddiadau Teithio

Polisi

  • Cydymffurfiaeth Gyfreithiol
  • Datganiad Deddf Caethwasiaeth Modern 2015
  • Datganiad Hygyrchedd Prifysgol Bangor
  • Polisi Iaith Gymraeg
  • Preifatrwydd a Chwcis
Map

Mae Prifysgol Bangor yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565

© 2020 Prifysgol Bangor