Sgipiwch i’r prif gynnwys
Home

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
  • English
Fy ngwlad:

Main Menu

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau Ar-lein
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Prospectws

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn Ysgolion/Colegau Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adolygiad Blynyddol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa’r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda’r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a’r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Cyllid ar gyfer Cydweithio, Ymchwil a Datblygu ac Arloesi
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ymgynghoriaeth, Arbenigedd a Gwybodaeth Arbenigol
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Lleoliadau Myfyrwyr ac Interniaethau Mewn Busnes a Menter
      • Hyfforddiant a Datblygiad Proffesiynol Parhaus
      • Prentisiaethau Gradd
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Cysylltiadau
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Cysylltwch â Ni
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau Ar-lein
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Prospectws

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn Ysgolion/Colegau Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adolygiad Blynyddol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa’r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda’r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a’r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Cyllid ar gyfer Cydweithio, Ymchwil a Datblygu ac Arloesi
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ymgynghoriaeth, Arbenigedd a Gwybodaeth Arbenigol
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Lleoliadau Myfyrwyr ac Interniaethau Mewn Busnes a Menter
      • Hyfforddiant a Datblygiad Proffesiynol Parhaus
      • Prentisiaethau Gradd
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Cysylltiadau
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Cysylltwch â Ni
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
Fy ngwlad:

Search

Close

Breadcrumb

  • English

Rhannwch y dudalen hon
  • Twitter
  • Facebook
  • LinkedIn

Bath poeth wedi ymarfer corff yn gwella perfformiad mewn gwres

Mae ymchwil newydd gan Brifysgol Bangor yn dangos bod cael bath poeth wedi ymarfer corff am chwe diwrnod yn olynol yn gostwng tymheredd y corff wrth orffwys ac wrth ymarfer ac yn gwella perfformiad wrth redeg mewn gwres. Meddai’r Athro Walsh, sy’n arwain y tîm a arweiniodd y gwaith:  “I berfformwyr athletaidd sy’n cystadlu mewn gwres, mae strategaeth ‘ymarfer claer, ymdrochi poeth’ yn cynnig ffordd i ymdopi â gwres.”

Yn aml, mae gofyn i athletwyr, ac eraill mewn swyddi sy’n rhoi llawer o bwys ar y corff, fel milwyr a diffoddwyr tân, gyflawni eu gwaith  mewn gwres uchel. Nid yw’n bosibl ymarfer cystal mewn gwres oherwydd y cynnydd yn nhymheredd y corff. Hefyd, wrth ymarfer mewn gwres, mae risg uwch o lewygu oherwydd salwch gwres a’r cyflwr llawer mwy difrifol, sef trawiad gwres, a all fod yn farwol.

Er mwyn dod dros hyn, mae athletwyr fel rheol yn ymarfer mewn gwres am 10-14 diwrnod er mwyn i’w cyrff gynefino â’r gwres. Mae hynny’n golygu symud i wlad boeth i ymarfer neu, i’r ychydig ffodus, ymarfer yn ddyddiol mewn siambr amgylcheddol sy’n efelychu hinsawdd gwlad boeth.  Nid yw’r ddau ddewis hyn naill ai’n rhad nac ymarferol.

Mae’r gwaith unigryw hwn gan dîm yr Athro Walsh yn Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer Prifysgol Bangor, yn dangos bod cael bath poeth mewn dŵr 40°C  wedi ymarfer am chwe diwrnod ar ôl ei gilydd yn galluogi’r corff i gynefino â gwres. Dangoswyd hyn mewn tymheredd corff is wrth orffwys ac wrth ymarfer a chafwyd gwell perfformiad o ran amser rhedeg am 5km ar felin draed yn y gwres. 

“Mae buddiannau therapiwtig dŵr poeth yn hysbys ers amser maith ─ fel y bydd unrhyw un sydd wedi gorffwys ei esgyrn a chymalau blinedig mewn baddon Rhufeinig yn gwybod!  Yn wir, croniclwyd hynny’n gofiadwy iawn gan y bardd  Sylvia Plath yn The Bell Jar, ‘I am sure there are things that can’t be cured by a good bath but I can’t think of one,’” eglurodd yr Athro Walsh.

Mae’r ymchwilwyr hefyd yn tynnu sylw at fanteision eraill posibl o  fynd i fath poeth wedi ymarfer, heblaw’r profiad pleserus o socian cyhyrau blinedig mewn dŵr poeth. Er enghraifft, mae ymchwil ddiweddar ym Mhrifysgol Tokyo yn dangos y gall mynd i le poeth ar ôl ymarfer wella ffitrwydd ar lefel celloedd y cyhyrau. Credir bod y newidiadau hyn yn y cyhyrau yn cyfrannu at wella ffitrwydd. Awgrymodd yr awduron y gall dod i gysylltiad â gwres fod yn driniaeth ddefnyddiol i bobl na allant wneud llawer o ymarfer, megis yr oedrannus ac athletwyr sydd wedi brifo.

Mae’r tîm ym Mangor yn credu hefyd y gall bath poeth ysgogi’r system imiwnedd. Gall hyn fod yn ddefnyddiol i athletwyr gan fod ymarfer caled yn gwanhau’r system imiwnedd am gyfnod a thrwy hynny gynyddu’r risg o heintiau fel annwyd.

Maent  yn cydnabod hefyd bod y strategaeth wahanol yma o gael y corff i gynefino â gwres yn groes i ddulliau presennol athletwyr o weithredu, sydd yn cynnwys mynd i fath rhew wedi ymarfer, arfer a elwir yn  ‘cryotherapi’. Ond, mae’r Athro Walsh  yn pwysleisio bod cwestiynau wedi codi’n ddiweddar ynghylch manteision honedig cryotherapi i adfer y corff ar ôl ymarfer.

“Er bod y rhai a gymerodd ran yn ein hastudiaeth ni wedi ymdrochi am hyd at 40 munud mewn dŵr 40°C wedi ymarfer, efallai y gellir cael budd o  ymdrochi am cyn lleied ag 20 munud. Rydym yn argymell gweithredu mewn ffordd synhwyrol a diogel wrth ymgynefino â gwres,” meddai’r Athro Walsh. 

Dyddiad cyhoeddi: 11 Rhagfyr 2015

Hafan

  • Newyddion
    • Newyddion Cyfredol
    • Archif Newyddion
    • Digwyddiadau
Hafan

Dilynwch Ni

  • Twitter
  • Facebook
  • Instagram
  • Youtube
  • LinkedIn

Prifysgol Bangor

Bangor, Gwynedd, LL57 2DG, UK

+44 (0)1248 351151

Cysylltwch â Ni

Ymweld â’r Brifysgol

Mapiau a Chyfarwyddiadau Teithio

Polisi

  • Cydymffurfiaeth Gyfreithiol
  • Datganiad Deddf Caethwasiaeth Modern 2015
  • Datganiad Hygyrchedd Prifysgol Bangor
  • Polisi Iaith Gymraeg
  • Preifatrwydd a Chwcis
Map

Mae Prifysgol Bangor yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565

© 2020 Prifysgol Bangor