Beth mae dinasyddiaeth yn ei olygu yn Ewrop?
Mewn cydweithrediad cyffrous rhwng Ysgol y Gyfraith Prifysgol Bangor ac Ysgol Ewropeaidd y Gyfraith (ym Mhrifysgol Toulouse), cynhelir gweithdy PhD ar thema eang 'Dinasyddiaeth' ym Mangor ddydd Iau a dydd Gwener, 3 a 4 Mai 2018. Mae'r gweithdy eleni'n adeiladu ar weithdai PhD Ysgol Ewropeaidd y Gyfraith a gynhaliwyd yn Toulouse yn 2016 a Barcelona yn 2017.
Yn y gweithdy eleni bydd tua 25 o ymgeiswyr PhD yn siarad ar amrywiaeth o feysydd cyfreithiol, yn cynnwys: Cyfraith Ffoaduriaid; Cyfraith Lafur Ewropeaidd; Dinasyddiaeth a Chyfraith Gyfansoddiadol yr Eidal; Y syniad o 'Ddinasyddiaeth Ewropeaidd', wedi'i dadansoddi yng nghyd-destun cyfraith achos CJEU; Cyfraith Ryngwladol Breifat; Cyfraith yr UE ar Warchod Data ac, yn amserol iawn, Y Syniad o Ddinasyddiaeth ym Mhrydain wedi Brexit.
Mae llawer o'r myfyrwyr PhD hyn wedi'u lleoli mewn prifysgolion sy'n rhan o'r Rhwydwaith Ysgolion y Gyfraith Ewropeaidd. Mae'r rhwydwaith pwysig hwn yn cynnwys 16 o brifysgolion o Ewrop yn bennaf, ond hefyd rai yng Ngogledd America, Rwsia a Lebanon. Mae Ysgol y Gyfraith Bangor yn aelod balch o'r rhwydwaith academaidd dylanwadol hwn ac, fel yr aelodau eraill, mae'n cynnal rhaglen radd ddwbl gyda Phrifysgol Toulouse. Mae Gradd Ddwbl (Ddeuol) Ysgol y Gyfraith Bangor mewn Cyfraith Lloegr a Chyfraith Ffrengig wedi bod yn boblogaidd iawn ac yn flynyddol mae'r Ysgol yn croesawu tua 25 o fyfyrwyr newydd o Gyfadran y Gyfraith Prifysgol Toulouse.
Mae digwyddiadau cymdeithasol y gweithdy PhD yn cynnwys: swper y gweithdy (ar nos Iau 03/05) ac ymweliadau i fannau lleol o bwysigrwydd hanesyddol/diwylliannol, yn cynnwys Eglwys Gadeiriol Bangor, Castell Penrhyn a Chastell Caernarfon.
Mae'r Athro Dermot Cahill, Pennaeth Ysgol y Gyfraith Prifysgol Bangor, a'i staff academaidd yn edrych ymlaen at gyfarfod â phawb fydd yn cymryd rhan yn y gweithdy, a'u cynghorwyr academaidd, yng Ngweithdy PhD Bangor ddechrau Mai.
Am ragor o wybodaeth am y gweithdy PhD, cysylltwch â'r trefnwyr:
Dr Mark Hyland: m.hyland@bangor.ac.uk
Ms Mirian Mbah: m.mbah@bangor.ac.uk
Dyddiad cyhoeddi: 13 Ebrill 2018