Sgipiwch i’r prif gynnwys
Home

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
  • English
Fy ngwlad:

Main Menu

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
Fy ngwlad:

Search

Close

Breadcrumb

  • English

Rhannwch y dudalen hon
  • Twitter
  • Facebook
  • LinkedIn

Bydd byd gwaith yn newid am byth oherwydd yr argyfwng coronafirws

Cyngor busnes Dr Edward Jones i oroesi'r pandemig

Dywed academydd blaenllaw y bydd y newid seismig yn y ffordd y mae cwmnïau'n gweithredu o ganlyniad i'r argyfwng coronafirws yn gweld llawer mwy o staff yn gweithio gartref yn y dyfodol yn hytrach nag mewn swyddfa.

Yn ôl yr arbenigwr economeg Dr Edward Jones, o Ysgol Busnes Prifysgol BangorDr Edward Jones, Ysgol Busnes Prifysgol BangorDr Edward Jones, Ysgol Busnes Prifysgol Bangor, mae'n annhebygol iawn y bydd y byd gwaith yr un peth pan ddaw'r pandemig i ben.

Ond nid yw hyn yn newyddion gwael i gyd i weithlu sy'n dod i arfer â gweithio gartref neu sydd wedi defnyddio eu hamser ar y cynllun absenoldeb seibiant i wella eu sgiliau.

Mae Dr Jones hefyd yn credu y bydd penaethiaid yn gweld bod llawer o fanteision o weithlu mwy hyblyg sy'n gallu gweithio shifft gartref neu yn y siop goffi.

Dywedodd: “Er bod pryderon iechyd sylweddol ar hyn o bryd, mae’n ddiddorol ein bod eisoes yn gweld llawer mwy o bobl yn defnyddio technoleg i weithio i ffwrdd o’r swyddfa.

“Rydym wedi clywed llawer am weithio gartref ond nid ydym erioed wedi cael cymaint o bobl yn ei wneud ac un o’r pethau cadarnhaol yw bod cymaint a ddywedodd na allent weithio gartref nawr yn gweld eu bod yn gallu gwneud hynny.

“Bydd yn cael sgil-effaith i gyflogwyr a all weld yn y dyfodol na fydd angen iddynt cael lle i 100 o bobl mewn swyddfa ond y gallant wneud tro gyda desgiau i 50 neu lai a fydd yn golygu arbedion mawr i'r cwmni. 

“Mae'r mathau hyn o arbedion yn debygol o fod yn hollbwysig mewn byd a fydd yn wynebu cyfnod anodd iawn o ran talu am y cyfnod cau dros dro a achoswyd gan y pandemig.”

Bu Dr Jones, sy'n gynghorydd arbenigol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, yn gweithio am naw mlynedd yn ymdrin ag agweddau heriol ar fusnes yn sector ariannol Dulyn ar ôl cwblhau ei PhD mewn Economeg ym Mhrifysgol Bangor.

Dychwelodd i Gymru ar ôl derbyn swydd fel darlithydd yn Ysgol Busnes Prifysgol Bangor, sydd wedi cael canmoliaeth uchel, bum mlynedd yn ôl ac ers hynny mae wedi gweithio gyda'r sector cyhoeddus a'r sector preifat ar amryw o brojectau economaidd a chyllid, ac mae'n gweld cyfleoedd yn yr argyfwng presennol.

Meddai Dr Jones:  “Dylai'r bobl sydd ar y cynllun absenoldeb seibiant weld hyn nid fel seibiant â thâl o'r gwaith ond fel cyfle i ddatblygu eu hunain fel eu bod yn barod pan fydd gwaith yn ailddechrau.

“Ffordd wych o ddefnyddio’r amser hwn yn ystod absenoldeb seibiant yw cael hyd i ffyrdd o gyflawni rhyw fath o ddatblygiad personol a ganiateir o dan delerau’r cynllun Cadw Swyddi.

“Dylai pobl wella eu sgiliau eu hunain, p'un a yw'n gwbl berthnasol i'w swydd o ddydd i ddydd ai peidio - dal i fyny gyda phrosesau a gweithdrefnau, neu ddysgu am newidiadau yn eu sector.  Efallai y bydd gwella eu sgiliau hyd yn oed yn symud eu gyrfa i gyfeiriad newydd.

“Dylent ddatblygu arferion a fydd yn cael effaith gadarnhaol arnynt pan fyddant yn dychwelyd i'r gwaith.

“Os yw eu swydd yn achosi llawer o straen, gyda llwyth gwaith trwm ac maent fel rheol yn ei chael hi'n anodd i gael cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, dyma'r amser i newid pethau.

“Mae hwn yn gyfle oherwydd nid yn aml y cawn gyfle i gymryd cam yn ôl oddi wrth waith o ddydd i ddydd a dechrau meddwl am y darlun ehangach a gofyn y cwestiynau mawr i ni ein hunain am yr hyn rydym ei eisiau o fywyd.  Dyma'r adeg pan fo gennych amser i wneud rhywbeth amdano.

“Mae’n rhy gynnar i ddarogan yn hyderus gwrs y dirywiad economaidd sy’n ein hwynebu oherwydd y coronafirws ond mae dirwasgiad yn anochel.  Roedd economi Cymru eisoes yn fregus yn 2019.

“Nawr mae llywodraethau ledled y byd yn cau eu heconomïau i lawr yn fwriadol am o leiaf sawl mis mewn ymgais i atal lledaeniad y clefyd coronafirws.

“Bydd y gweithredoedd hyn yn cael effaith ar economi Cymru a pho fwyaf y gall pobl ei wneud i baratoi eu hunain, gorau oll fydd eu sefyllfa.”

Mae Dr Jones hyd yn oed wedi paratoi arweiniad ar gyfer goroesi’r pandemig gyda phedwar cam syml i'r gweithiwr cartref newydd:

• Peidiwch â dechrau gweithio ar eich gliniadur yn eich pyjamas.  Mae'n ddiwrnod arall yn y swyddfa, heb y swyddfa.

• Dylech gael lle gwaith pwrpasol i wneud eich gwaith.  Mae hynny'n ei gwneud hi'n fwy tebygol y byddwch yn llwyddo i gyflawni pethau pan fyddwch yn y lle gwaith hwnnw.

• Mae eistedd yn wael i'ch iechyd, ac yn ddiflas pan fyddwch yn syllu ar yr un wal neu ffenestr trwy'r dydd.  Symudwch o'ch desg yn aml a chael ychydig o awyr iach pan fo'n bosibl.

• Peidiwch â rhoi'r teledu ymlaen.  Os na fyddech yn ei wneud yn y swyddfa, peidiwch â'i wneud gartref pan rydych yn gweithio.

Ychwanegodd Dr Jones: “Bydd yr haint coronafirws yn cael effaith sylweddol ar economi Cymru ac mae’n debygol bod bygythiad y clefyd hwn, ei effaith ddinistriol ar iechyd a'r ffordd y mae'n tanseilio ein cymdeithas mewn ffordd gudd, yma i aros nes bod brechlyn wedi ei ddatblygu at ddefnydd y cyhoedd. 

“Mae pethau’n annhebygol o fod yn normal eto am amser hir iawn.  Mae proses hir a phoenus o'n blaenau ond bydd y pandemig coronafirws hwn yn dod i ben.

“Y gobaith yw y gall cymdeithas a’r economi godi ar eu traed mor gyflym â phosib oherwydd y camau a gymerir nawr.”

Dyddiad cyhoeddi: 29 Ebrill 2020

Hafan

  • Newyddion
    • Newyddion Cyfredol
    • Archif Newyddion
    • Digwyddiadau
Hafan

Dilynwch Ni

  • Twitter
  • Facebook
  • Instagram
  • Youtube
  • LinkedIn

Prifysgol Bangor

Bangor, Gwynedd, LL57 2DG, UK

+44 (0)1248 351151

Cysylltwch â Ni

Ymweld â’r Brifysgol

Mapiau a Chyfarwyddiadau Teithio

Polisi

  • Cydymffurfiaeth Gyfreithiol
  • Datganiad Deddf Caethwasiaeth Modern 2015
  • Datganiad Hygyrchedd Prifysgol Bangor
  • Polisi Iaith Gymraeg
  • Preifatrwydd a Chwcis
Map

Mae Prifysgol Bangor yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565

© 2020 Prifysgol Bangor