Sgipiwch i’r prif gynnwys
Home

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
  • English
Fy ngwlad:

Main Menu

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
Fy ngwlad:

Search

Close

Breadcrumb

  • English

Rhannwch y dudalen hon
  • Twitter
  • Facebook
  • LinkedIn

Camelot Arthur – ydy’r chwilio wedi dod i ben o’r diwedd?

Mae'r ymdrech i ddod o hyd i Camelot y Brenin Arthur wedi peri penbleth ac wedi ennyn chwilfrydedd ysgolheigion a selogion ers mil o flynyddoedd. Bellach, mae'n bosib bod y chwilio ar ben o’r diwedd.

Mae Peter Field, Athro Emeritws mewn Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Bangor, wedi darganfod  yr hyn y mae'n credu yw safle Camelot Arthur.  Mewn darganfyddiad a fydd o ddiddordeb i archeolegwyr, haneswyr, ysgolheigion llenyddol, a selogion Arthuraidd o gwmpas y byd, bydd yr Athro Field yn datgelu safle Camelot yn ystod ei ddarlith Shankland, ‘Searching for Camelot', ym Mhrifysgol Bangor ar 14 Rhagfyr.

Mae'r Athro Field yn arbenigwr byd-enwog ar lenyddiaeth Arthuraidd: ‘Os oedd yna Frenin Arthur go iawn, byddai wedi byw tua AD500, er bod y cyfeiriad cyntaf ato yn Camelot i’w weld mewn cerdd Ffrangeg o ranbarth Champagne yn Ffrainc o 1180.

Nid oes dim sôn am Camelot yn y cyfnod rhwng y dyddiadau hynny, a elwir yn Oesoedd Tywyll yn Saesneg , pan oedd y wlad yn rhyfela, a fawr ddim wedi ei gofnodi. Yn y bwlch hwn, roedd pobl yn trosglwyddo gwybodaeth, a llawer ohoni’n mynd ar goll wrth ei throsglwyddo. Gallai  pobl fod wedi creu ffeithiau dychmygol neu ddim ond wedi cymysgu gwybodaeth hysbys.

Gyda'r wybodaeth orau sydd ar gael, a’r dyfaliadau gorau y gellid eu gwneud, y gred ers talwm yw y  gallai Camelot fod wedi ei leoli mewn lleoedd fel Caerllion, yn Ne Cymru, Winchester neu Gastell Cadbury.”

Ond mae dod o hyd i wir safle Camelot wedi bod yn dasg rwystredig ac anodd. Mae’r pwnc wedi bod yn destun diddordeb ysol i’r Athro Field, a ddaeth i Brifysgol Bangor yn 1964 ac  a ymddeolodd yn 2004, ac mae wedi treulio’r 18 mis diwethaf yn ymchwilio i safle Camelot.

 “Rwyf wrth fy modd yn gwneud hyn," meddai, "ond lwc mul oedd hi fy mod i’n edrych ar rai mapiau, ac yn sydyn  iawn dyma’r holl ddarnau’n disgyn i’w lle”. “Rwy'n credu efallai fy mod wedi datrys dirgelwch 1400 oed.!

Yn ôl yr Athro Raluca Radulescu, sy’n Athro Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Bangor ac yn olygydd  y Journal of the International Arthurian Society, "mae disgwyl mawr am ddarganfyddiadau diweddaraf yr Athro PJC Field ynghylch safle’r Camelot Arthuraidd gan aelodau o'r International Arthurian Society. Mae ei waith yn parhau traddodiad Prifysgol Bangor mewn astudiaethau Arthuraidd a Cheltaidd ers sefydlu’r brifysgol yn 1884.

Am y tro, mae’r Athro Field yw cadw'r lleoliad yn gyfrinach: “Bydd yn rhaid i bobl ddod i’r ddarlith i ddarganfod yn union lle mae Camelot, a chredaf y byddant yn synnu!"

Yng ngeiriau Nancy Edwards, Athro Archaeoleg yr Oesoedd Canol ym Mhrifysgol Bangor, "Roedd Arthur yn ffigwr arwrol mytholegol hynod bwysig ym Mhrydain yn y cyfnod canoloesol cynnar. Mae chwedlau amdano hefyd wedi gadael eu hôl ar dirwedd archeolegol Cymru. Felly, yr wyf yn edrych ymlaen at ddarlith yr Athro Field ar leoliad Camelot Arthur ".

Mae'r cyhoeddiad am ddarganfyddiad yr Athro Field yn amserol, gan ei fod yn digwydd wrth i Gymru ymbaratoi i ddathlu 'Blwyddyn Chwedlau'. Yn ystod 2017, bydd digwyddiadau yn cael eu cynnal mewn safleoedd hanesyddol ar hyd a lled Cymru i ddathlu ei diwylliant a'i threftadaeth gyfoethog.

Bydd darganfyddiad yr Athro Field yn cael ei ddatgelu yn Narlith Shankland olaf y flwyddyn hon, a gynhelir yng Nghanolfan newydd Stephen Colclough ar gyfer Hanes a Diwylliant y Llyfr, ym Mhrifysgol Bangor. 

Pryd?  5pm, Dydd Mercher 14 Rhagfyr, 2016  

Ble?  Ystafell Teras 3, Prif Adeilad y Celfyddydau, Prifysgol Bangor, LL57 2DG

I gael rhagor o fanylion am y digwyddiad ac am waith y Ganolfan, ewch i http://colclough.bangor.ac.uk/

Dyddiad cyhoeddi: 14 Rhagfyr 2016

Hafan

  • Newyddion
    • Newyddion Cyfredol
    • Archif Newyddion
    • Digwyddiadau
Hafan

Dilynwch Ni

  • Twitter
  • Facebook
  • Instagram
  • Youtube
  • LinkedIn

Prifysgol Bangor

Bangor, Gwynedd, LL57 2DG, UK

+44 (0)1248 351151

Cysylltwch â Ni

Ymweld â’r Brifysgol

Mapiau a Chyfarwyddiadau Teithio

Polisi

  • Cydymffurfiaeth Gyfreithiol
  • Datganiad Deddf Caethwasiaeth Modern 2015
  • Datganiad Hygyrchedd Prifysgol Bangor
  • Polisi Iaith Gymraeg
  • Preifatrwydd a Chwcis
Map

Mae Prifysgol Bangor yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565

© 2020 Prifysgol Bangor