Sgipiwch i’r prif gynnwys
Home

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
  • English
Fy ngwlad:

Main Menu

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
Fy ngwlad:

Search

Close

Breadcrumb

  • English

Rhannwch y dudalen hon
  • Twitter
  • Facebook
  • LinkedIn

Cyfreithiwr lleol yn graddio o Brifysgol Bangor

Mae cyfreithiwr lleol sydd â llawer iawn o brofiad ym maes y gyfraith a busnes wedi graddio gydag MBA o Brifysgol Bangor yr wythnos hon.
 
Cafodd Rhodri Ogwen Morgan, 31 oed o Gricieth, ragoriaeth yn ei gwrs ac enillodd radd MBA Rheoli Amgylcheddol o un o Ysgolion Busnes gorau yn y DU.
 
Ar ôl dilyn y llwybr addysg uwch traddodiadol, graddiodd Rhodri yn y Gyfraith o Brifysgol John Moores, Lerpwl ac yna dilynodd gwrs ymarfer cyfreithiol yng Nghaer cyn cymhwyso fel cyfreithiwr yn 2008. Yn ddiweddarach bu'n gweithio fel cyfreithiwr locwm ac ymgynghorydd annibynnol yn y sector preifat a'r sector cyhoeddus lle’r oedd yn arbenigo mewn projectau mawr a masnachol cyn dychwelyd i'r brifysgol yn 2012 i astudio cwrs MBA.
 
Enillodd Rhodri hefyd wobr Magnox gwerth £200 am y myfyriwr cyffredinol gorau ar y cwrs Rheolaeth Amgylcheddol MBA yn Ysgol Busnes Bangor. Dywedodd Dr Gareth Griffiths, Uwch Ddarlithydd yn yr Ysgol Busnes: "Roedd angerdd Rhodri am yr amgylchedd a busnes yn amlwg yn ystod ei MBA. Gwnaeth gyfraniad rhagorol i’r rhaglen ac roedd ei ddealltwriaeth a’i ddefnydd o’r ddealltwriaeth honno o'r radd flaenaf ".
 
Meddai Rhodri, a oedd yn falch iawn o’i gyflawniad: "Mae llawer o fy ffrindiau wedi graddio o Brifysgol Bangor dros y blynyddoedd diwethaf a gan mai’r Ysgol Fusnes yw’r orau yn y DU am ymchwil ym maes Cyfrifeg a Chyllid, roedd Bangor yn ddewis naturiol i mi.
 
"Dwi wastad wedi bod â diddordeb mewn busnes a gan i mi fod yn gysylltiedig â sefydlu a rhedeg cwmnïau amrywiol dros y blynyddoedd, roedd gennyf ddiddordeb yn y cymhwyster MBA mewn Rheolaeth Amgylcheddol gan fod y modiwlau mor berthnasol i’r byd busnes modern. Dros y blynyddoedd bûm yn ddigon ffodus i gael profiad o weithio gydag amrywiaeth o wahanol fusnesau a sectorau, yn amrywio o fusnesau teuluol bach i gwmnïau mawr rhyngwladol yn y DU a thramor yn yr UE a'r rhanbarthau Asia Pac. Credaf y bydd yr MBA o Brifysgol Bangor o fudd mawr i mi yn y dyfodol a byddwn yn ei argymell i fyfyrwyr eraill sy'n ystyried gwneud cymhwyster ôl-raddedig mewn busnes.
 
"Pan oeddwn yn astudio ym Mangor, roedd gennyf gyfrifoldebau eraill fel cyfarwyddwr cwmni a ddechreuais gyda ffrind nôl yn 2011. Mae'r cwmni'n arbenigo mewn cyflenwi a dosbarthu offer a pheiriannau trwm i gwmni Tsieineaidd rhyngwladol yn y DU. Bu’n anodd ar adegau, yn ceisio cadw cydbwysedd rhwng y cyfrifoldeb o redeg busnes a chwblhau projectau ac aseiniadau i’r cwrs, ond nid oedd yn rhy ddrwg.
 
"Pan oeddwn yn dilyn y cwrs MBA, llwyddais i a chyd-fyfyriwr i gael lleoliad gwaith am bedwar mis gyda Magnox Cyf i wneud ein traethodau hir ymchwil mewn projectau cysylltiedig â rheoli newid yn safle dad-gomisiynu niwclear Trawsfynydd. Hwn oedd uchafbwynt y flwyddyn i mi oherwydd cefais y cyfle i wneud ymchwil sylfaenol yn yr orsaf bŵer sydd yn ei hun yn ddiddorol ac rwy'n teimlo'n ffodus iawn fy mod wedi gweithio gydag unigolion medrus a thalentog. Roedd yn brofiad anhygoel.
 
"Uchafbwynt nodedig arall oedd cael y cyfle i weithio gydag unigolion hynod brofiadol a phroffesiynol o nifer o wahanol gefndiroedd. Yn ystod y flwyddyn cefais y cyfle i weithio a gwneud ffrindiau da gyda chyfreithiwr o Libya, arbenigwr TG o’r India, ffisegydd niwclear o Tsieina ac ymgynghorydd rheoli o’r UDA, heb sôn am yr holl bobl y bûm yn gweithio gyda nhw ym Magnox. Uchafbwynt arall oedd cael rhagoriaeth yn fy mhroject ymchwil a rhagoriaeth gyffredinol yn fy MBA.
 
"Yn union fel unrhyw radd meistr arall, mae rhwystrau i'w goresgyn yn ystod eich astudiaethau, fel pynciau newydd y mae’n rhaid eu dysgu’n gyflym ac yn hyderus, a chwblhau gwaith ar gyfer gwahanol ddyddiadau cau. Ond yn gyffredinol, credaf mai dyma yw pwrpas MBA,  dysgu sut i wynebu rhwystrau a heriau a dod o hyd i atebion ymarferol ac arloesol i'r problemau hyn yn unigol ac fel rhan o dîm. Ar ddiwedd y dydd, mae busnes a rheolaeth yn ymwneud â gweithio gyda phobl, goresgyn rhwystrau a datrys problemau, ac rwy'n teimlo bod yr MBA yn rhoi cyfle gwych i fyfyrwyr gael profiad o gyflawni hyn.
 
"Fy ngobeithion at y dyfodol yw datblygu ac ehangu fy mhrofiad a gwybodaeth am brojectau rheoli newid a thrawsnewid a hyrwyddo fy ngyrfa mewn ymgynghori."
 
Ychydig ddyddiau cyn graddio, llwyddodd Rhodri i gwblhau’r Her 15 Copa Eryri 3000 i gefnogi'r Gymdeithas Osteoporosis Genedlaethol, sef yr unig elusen yn y DU sy'n gweithio’n benodol i wella’r diagnosis o osteoporosis a thoriadau esgyrn brau a’u hatal a’u trin. Yr her 3000 oedd dringo pob un o'r 15  gopa dros 3000 troedfedd yn  Eryri mewn 24 awr. Mae'r llwybr cyfan oddeutu 30 milltir o ran hyd ac yn cynnwys dros 13,000 troedfedd o waith dringo.

Straeon cysylltiedig:

Myfyriwr Busnes i wynebu Her y 15 Copa

Dyddiad cyhoeddi: 10 Gorffennaf 2014

Hafan

  • Newyddion
    • Newyddion Cyfredol
    • Archif Newyddion
    • Digwyddiadau
Hafan

Dilynwch Ni

  • Twitter
  • Facebook
  • Instagram
  • Youtube
  • LinkedIn

Prifysgol Bangor

Bangor, Gwynedd, LL57 2DG, UK

+44 (0)1248 351151

Cysylltwch â Ni

Ymweld â’r Brifysgol

Mapiau a Chyfarwyddiadau Teithio

Polisi

  • Cydymffurfiaeth Gyfreithiol
  • Datganiad Deddf Caethwasiaeth Modern 2015
  • Datganiad Hygyrchedd Prifysgol Bangor
  • Polisi Iaith Gymraeg
  • Preifatrwydd a Chwcis
Map

Mae Prifysgol Bangor yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565

© 2020 Prifysgol Bangor