Sgipiwch i’r prif gynnwys
Home

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
  • English
Fy ngwlad:

Main Menu

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
Fy ngwlad:

Search

Close

Breadcrumb

  • English

Rhannwch y dudalen hon
  • Twitter
  • Facebook
  • LinkedIn

Cyn fyfyrwraig Bangor yn cipio'r Fedal Ddrama

Ffion WilliamsFfion WilliamsFfion Williams, cyn-fyfyrwraig Prifysgol Bangor, sydd wedi ennill Y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Caerffili a’r Cylch 2015 mewn cystadleuaeth o safon uchel a blesiodd y beirniaid yn fawr.

Mae Ffion yn astudio gradd meistr mewn Astudiaethau Celtaidd, gan ganolbwyntio ar chwedloniaeth Gymraeg  yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen. Mae’n gyn-ddisgybl Ysgol Gynradd Llanychllwydog ac Ysgol y Preseli, ac fe raddiodd gyda gradd dosbarth cyntaf o Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor y llynedd.

Mae Ffion eisoes wedi profi llwyddiant ym maes y ddrama a llenyddiaeth. Fe enillodd y Fedal Ddrama yn yr Eisteddfod Rhyngolegol tra’n astudio ym Mangor, ac mae wedi ennill Cadair Cymdeithas Ffermwyr Ifanc Sir Benfro deirgwaith.

Tu hwnt i ysgrifennu dramâu a byw ymysg llên yr oesoedd a fu, mae Ffion yn gerddor medrus. Mae wedi bod yn aelod o Fand Pres Wdig am flynyddoedd maith ac wedi chwarae i Fandiau Pres Ieuenctid Cymru ac Ewrop. Mae wedi cystadlu ar lwyfan yr Urdd sawl tro, ac mae hi hefyd yn actores frwd.

Bwriad Ffion yw astudio doethuriaeth yn y Gymraeg, ond cyn hynny, mae’n awyddus i fyw yn y ‘byd go iawn’ am ychydig, gan weithio, os yn bosibl, ym maes y theatr a’r celfyddydau.

Mae’r Fedal Ddrama yn cael ei chyflwyno am gyfansoddi drama lwyfan un act sydd yn cymryd rhwng 40 – 60 munud i’w pherfformio. Fe gystadlodd Ffion o dan y ffug enw Liszt gyda darn o waith o’r enw Libersträume, sy’n archwilio perthynas garwriaethol rhwng athro piano a’i ddisgybl.

Yn ôl y beirniaid, Elen Bowman a Dafydd James, mae Ffion yn “ddramodydd aeddfed, theatraidd sy’n deall y grefft” ac yn “llwyr haeddu’r Fedal mewn cystadleuaeth dda.”

Meddai Dafydd James: “Dyma ddrama mwyaf cyflawn y gystadleuaeth. Mae Ffion yn deall beth yw hi i blethu naratif, cymeriadu, deialog, cerddoriaeth a ffurf i greu cyfanwaith sy'n argyhoeddi'n llwyr y medrid ei pherfformio ar lwyfan heddiw. Mae'n gwybod beth yw hi i ddatgelu gwybodaeth ddramatig mewn modd cynnil ac roeddem wedi ein cyfareddu'n llwyr gan amwysedd y berthynas ganolog. Braf hefyd oedd clywed tafodiaith y Gorllewin ac mae'r defnydd o'r gerddoriaeth a'r piano yn gelfydd.

“Mae yna ryw synnwyr bod y dramodydd yn chwarae gyda ffurf comedi, melodrama a thrasiedi; medrir gwthio hwn ymhellach.  Mae hon yn ddrama grefftus sy'n adeiladu at ddiweddglo hyfryd, melancolaidd a didwyll.”

Eleni, fe ddaeth 13 o gynigion i’r fei ac roedd y beirniaid yn hapus dros ben gyda safon y gystadleuaeth.

Ychwanega Elen Bowman: “Mae ffurf y ddrama yn beth cymhleth i'w meistroli ac nid yw dramodwyr fel arfer yn aeddfedu mor gyflym â llenorion a beirdd. Rhaid iddynt feddwl, ymysg pethau eraill, am gymeriadau aml-haenog, gwrthdaro, is-destun a chynilder, tyndra dramatig, strwythur storïol, datblygiad ac uchafbwynt, ac ar ben hyn rhaid bod y script yn diddanu cynulleidfa fyw!

“Yn sgîl y gystadleuaeth hon, rydym ein dau wedi ein cyffroi wrth feddwl am ddyfodol y ddrama Gymraeg.”

O blith y 13 o gystadleuwyr, fe ddaeth pump i’r brig. Fe ddaeth Miriam Elin Jones, Aelod Unigol o Gylch Aberystwyth, Rhanbarth Ceredigion a Rhian Davies, Aelod Unigol o Gylch Llandysul, Rhanbarth Ceredigion yn gydradd ail, gyda Lara Catrin, Aelod Unigol Rhanbarth Tu Allan i Gymru a Gareth Evans-Jones, Aelwyd Unigol Cylch Eilian Rhanbarth Môn yn gydradd drydydd.

Llongyfarchiadau gwresog hefyd i Gareth Evans-Jones, myfyriwr ymchwil yn Ysgol y Gymraeg, ar ddod yn drydydd yn yr un gystadleuaeth.

Mae gan fyfyrwyr Ysgol y Gymraeg record arbennig o dda yn y gystadleuaeth hon. Enillwyd hi yn 2012 gan Llyr Titus Hughes, yn 2011 gan Elin Gwyn ac yn 2010 a 2007 gan Manon Wyn Williams sydd bellach yn Ddarlithydd Sgriptio a Drama gyda'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn Ysgol y Gymraeg.

Dyddiad cyhoeddi: 28 Mai 2015

Hafan

  • Newyddion
    • Newyddion Cyfredol
    • Archif Newyddion
    • Digwyddiadau
Hafan

Dilynwch Ni

  • Twitter
  • Facebook
  • Instagram
  • Youtube
  • LinkedIn

Prifysgol Bangor

Bangor, Gwynedd, LL57 2DG, UK

+44 (0)1248 351151

Cysylltwch â Ni

Ymweld â’r Brifysgol

Mapiau a Chyfarwyddiadau Teithio

Polisi

  • Cydymffurfiaeth Gyfreithiol
  • Datganiad Deddf Caethwasiaeth Modern 2015
  • Datganiad Hygyrchedd Prifysgol Bangor
  • Polisi Iaith Gymraeg
  • Preifatrwydd a Chwcis
Map

Mae Prifysgol Bangor yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565

© 2020 Prifysgol Bangor