Sgipiwch i’r prif gynnwys
Home

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
  • English
Fy ngwlad:

Main Menu

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau Ar-lein
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Prospectws

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn Ysgolion/Colegau Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adolygiad Blynyddol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa’r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda’r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a’r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Cyllid ar gyfer Cydweithio, Ymchwil a Datblygu ac Arloesi
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ymgynghoriaeth, Arbenigedd a Gwybodaeth Arbenigol
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Lleoliadau Myfyrwyr ac Interniaethau Mewn Busnes a Menter
      • Hyfforddiant a Datblygiad Proffesiynol Parhaus
      • Prentisiaethau Gradd
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Cysylltiadau
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Cysylltwch â Ni
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau Ar-lein
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Prospectws

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn Ysgolion/Colegau Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adolygiad Blynyddol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa’r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda’r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a’r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Cyllid ar gyfer Cydweithio, Ymchwil a Datblygu ac Arloesi
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ymgynghoriaeth, Arbenigedd a Gwybodaeth Arbenigol
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Lleoliadau Myfyrwyr ac Interniaethau Mewn Busnes a Menter
      • Hyfforddiant a Datblygiad Proffesiynol Parhaus
      • Prentisiaethau Gradd
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Cysylltiadau
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Cysylltwch â Ni
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
Fy ngwlad:

Search

Close

Breadcrumb

  • English

Rhannwch y dudalen hon
  • Twitter
  • Facebook
  • LinkedIn

Cyn-fyfyrwraig o Fangor yn Ennill Gwobr y Byd am Waith ar Fioleg Môr

Elizabeth Taylor Jay o Colombia, yn gwneud ymchwil ym Mawrisiws tra oedd hi’n gwneud ei MSc mewn Gwarchod Amgylchedd y MôrElizabeth Taylor Jay o Colombia, yn gwneud ymchwil ym Mawrisiws tra oedd hi’n gwneud ei MSc mewn Gwarchod Amgylchedd y MôrMae Elizabeth Taylor Jay, a gafodd MSc mewn Gwarchod Amgylchedd y Môr yn 1997/98 ar ôl astudio yn Ysgol Gwyddorau Eigion Bangor, wedi cael Gwobr y Byd am y Gweithrediad Gorau ar Amrywiaeth Fiolegol, 2010, yn ystod Uwchgynhadledd y Cenhedloedd Unedig ar y Cytundeb ar Amrywiaeth Fiolegol a gynhaliwyd yn Nagoya, Japán yr wythnos ddiwethaf. 

Mae Elizabeth yn gyfarwyddwr ar CORALINA, Asiantaeth Gadwraeth o eiddo Llywodraeth Colombia, sydd wedi’i lleoli yn Providencia, Colombia, y dechreuodd weithio iddi ar ôl graddio o Fangor. UCN (yr Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur) sy’n dyfarnu Gwobr y Byd dros Amrywiaeth Fiolegol, a nododd y cyfri’n ôl at darged 2010 ar gyfer gwarchod amrywiaeth fiolegol – targed a fethwyd o dipyn ar raddfa fyd-eang.

Dyfarnwyd y wobr hon am waith ar Ardal Warchod Forol y Blodau Môr – gwarchodfa 200,000 hectar yn y Caribî, sy’n darparu ar gyfer cymunedau pysgota, fel y gallant bysgota mewn modd cynaliadwy mewn rhai parthau, ochr yn ochr â pharthau ‘dim cymryd’, ‘dim mynediad’ a pharthau defnydd cyffredinol. Yn benodol, ceisiodd y project warchod cynefinoedd riffiau cwrel ac adfer poblogaethau o gregyn y frenhines sy’n bwysig i’r economi. Hedfanodd Elizabeth i Japán i gasglu’r wobr o flaen cynulleidfa ryngwladol yn y Gynhadledd bwysig hon ar Amrywiaeth Fiolegol, lle bu rhyw 18,000 o gyfranogwyr yn cynrychioli’r 193 o Bartïon i’r Cytundeb ar Amrywiaeth Fiolegol. Cytunodd y partïon 1) i haneru, o leiaf, y raddfa y collir cynefinoedd naturiol, yn cynnwys coedwigoedd, neu, lle bo’n ymarferol, i leihau’r raddfa honno i bron i sero; 2) i bennu targed o 17% o fannau daearol ac o ddŵr mewndirol, a 10% o ardaloedd morol ac arfordirol; 3) y bydd Llywodraethau, trwy gadwraeth a gwaith adferol, yn adfer o leiaf 15% o fannau sydd wedi dirywio; 4) y bydd Llywodraethau’n ymdrechu’n benodol i leihau’r pwysau a wynebir gan riffiau cwrel.

Cefnogwyd Elizabeth gan Adran y DU dros Ddatblygu Rhyngwladol, trwy’r Cyngor Prydeinig, i astudio ar gyfer yr MSc mewn Gwarchod Amgylchedd y Môr (MEP), a bu’n cynnal ei phroject ymchwil project ar fapio cynefinoedd ecosystemau cwrel ym morlynnoedd Mawrisiws, Cefnfor India, Dr John Turner a’r Athro Colin Jago o’r Ysgol Gwyddorau Eigion. 

Meddai John Turner, Cyfarwyddwr y Cwrs MEP:  “Mae hon yn gamp glodwiw gan Elizabeth a’i thîm yn CORALINA, ac mae’n bleser gennym ei llongyfarch ar broject neilltuol a gydnabyddir yn fyd-eang. Mae’n wych gweld ein graddedigion yn weithgar mewn mentrau cadwraeth penigamp sydd nid yn unig yn gwarchod ecosystemau riffiau cwrel biolegol amrywiol, ond hefyd yn fodd i bobl leol ennill bywoliaeth.”   

Mae staff Gwyddorau Eigion, myfyrwyr PhD a myfyrwyr MSC Amddiffyn Amgylchedd y Môr wrthi ar hyn o bryd yn ymwneud â nifer o raglenni sydd â’r  bwriad o warchod amrywiaeth fiolegol y môr mewn ecosystemau trofannol.  Mae’r rhain yn cynnwys projectau newydd ar Fannau Gwarchod Morol Cymunedol yn Nheyrnas Tonga, y Môr Tawel; project Menter Darwin i wella Mannau Gwarchod Morol Sefydledig yn Ynysoedd y Cayman, y Caribî; a phroject DelPHE/UNESCO-UNITWIN mewn bioamrywiaeth forol a datblygiad cynaliadwy yn Sansibar, Cefnfor India.  Gwnaeth 3 myfyriwr MSc eu projectau ymchwil yn Tonga, ochr yn ochr â’r  myfyriwr PhD Siola'a Mali Mali, gyda Dr John Turner a’r Athrawon Mike Kaiser a Gareth Edwards Jones (SENERGY); bu tri myfyriwr MSc yn gweithio yn Ynysoedd y Cayman yn 2009 a 2010, ochr yn ochr â’r myfyriwr PhD Croy McCoy a John Turner, a bydd dau fyfyriwr MSc yn cynnal projectau yn Sansibar yr haf hwn, gyda Dr Turner, DR LeVay a Dr Skov. 

Meddai Dr John Turner, “Mae’r rhaglenni hyn yn rhoi cyfleoedd gwerthfawr i’n myfyrwyr MSc wneud ymchwil gymhwysol i fioamrywiaeth y môr, gan weithio ar y cyd ag asiantaethau cadwraeth ac adrannau llywodraeth gwledydd tramor; trwy hyn, cânt brofiad gwych ar gyfer gyrfaoedd llwyddiannus a champau neilltuol o dda, fel a ddangoswyd gan Elizabeth Taylor Jay.”

Mwy o wybodaeth am wobr Elizabeth Taylor Jay

Mwy o wybodaeth am gyfarfod CBD 2010

Mwy o wybodaeth am broject Bangor ar gadwraeth forol:

 

Mwy o wybodaeth am y cwrs MSc mewn Gwarchod Amgylchedd y Môr:



 

 

Dyddiad cyhoeddi: 2 Tachwedd 2010

Hafan

  • Newyddion
    • Newyddion Cyfredol
    • Archif Newyddion
    • Digwyddiadau
Hafan

Dilynwch Ni

  • Twitter
  • Facebook
  • Instagram
  • Youtube
  • LinkedIn

Prifysgol Bangor

Bangor, Gwynedd, LL57 2DG, UK

+44 (0)1248 351151

Cysylltwch â Ni

Ymweld â’r Brifysgol

Mapiau a Chyfarwyddiadau Teithio

Polisi

  • Cydymffurfiaeth Gyfreithiol
  • Datganiad Deddf Caethwasiaeth Modern 2015
  • Datganiad Hygyrchedd Prifysgol Bangor
  • Polisi Iaith Gymraeg
  • Preifatrwydd a Chwcis
Map

Mae Prifysgol Bangor yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565

© 2020 Prifysgol Bangor