Sgipiwch i’r prif gynnwys
Home

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
  • English
Fy ngwlad:

Main Menu

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
Fy ngwlad:

Search

Close

Breadcrumb

  • English

Rhannwch y dudalen hon
  • Twitter
  • Facebook
  • LinkedIn

Cytundeb prifysgolion dros ddatblygu cynaliadwy cyfandiroedd

Mae arbenigwyr o Brifysgol Bangor ar eu ffordd i Brifysgol Makerere, Kampala, Uganda (MUK) yr wythnos hon (Chwefror 14-19) i lofnodi cytundeb pum mlynedd i gydweithio ar ddatblygu cynaliadwy.  Bydd Prifysgol Bangor yn cyfrannu arbenigedd rhoi datblygu cynaliadwy ar waith.

Bydd y Memorandwm o Gyd-Ddealltwriaeth (MODd) rhwng Prifysgolion Bangor a Makerere yn darparu llwyfan cydweithredu o dan raglenni Cymuned Ewrop a gomisiynwyd yn ddiweddar ar Gyd-Ymchwil Affrica ac Ewrop ac Agenda Arloesi Rheoli Gwastraff, er mwyn hybu ymchwil ac arloesi cydweithredol.  Gall y bartneriaeth hefyd ddenu myfyrwyr o Uganda ac o ddwyrain Affrica sy’n dod i'r DU am astudio ac ymchwil estynedig, i ddewis Bangor.

Bydd yr ymweliad yn ystyried ffyrdd i gydweithio ar gymorth technegol i Brifysgol Makerere a rhwydwaith ehangach y Rhaglen Clysterau Systemau Arloesi, (rhan o Fforymau Cystadleurwydd Ledled Affrica y Cyfandir a Dwyrain yr Affrica) weithredu effeithlonrwydd adnoddau.  Hefyd, mae Prifysgol Makerere yn bwriadu gweithio gyda Phrifysgol Bangor i ymgorffori cynaliadwyedd yn ei holl waith, mewn addysg, ymchwil a datblygu atebion ymarferol i fusnesau yn Uganda.

Dywedodd arweinydd tîm yr ymwelwyr, Dr Einir Young, Cyfarwyddwr Cynaliadwyedd Prifysgol Bangor, "Mae cynaliadwyedd a'r amgylchedd yn symud i frig yr agenda rhyngwladol, ac mae ein harbenigedd fel Prifysgol yn ein galluogi ni i gynnig y wybodaeth a’r technegau i fusnesau a sefydliadau i fabwysiadu dulliau cynaliadwy amgenach, gan eu helpu i leihau costau, cynyddu cynhyrchiant ac ymestyn cyfrifoldeb amgylcheddol a cymdeithasol."

Bydd y trafodaethau rhwng y prifysgolion yn canolbwyntio ar:

  • ymgorffori egwyddorion datblygu cynaliadwy, gan ganolbwyntio'n arbennig ar arbed ynni ac effeithlonrwydd adnoddau;
  • rhannu profiadau ac arferion gorau cydweithio rhwng sefydliadau academaidd a busnes, gan anelu at ddatblygu clwstwr arloesi ar ddeunyddiau amgen;
  • canfod prosiectau cydweithredol i’r dyfodol.

Pwrpas arall i’r ymweliad yw gosod sylfeini ar gyfer codi cyfleoedd masnachol i fentrau cymdeithasol yng Nghymru sydd yn chwilio am bartneriaid busnesau bach a chanolig (BbaCh) tebyg yn Affrica.  Y bwriad yw bod y berthynas â Phrifysgol Makerere a'i rwydwaith o brifysgolion ar draws dwyrain Affrica yn agor drysau newydd ar gyfer busnesau datblygu cynaliadwy yng Nghymru.

Ychwanegodd Dr Young, "O ganlyniad i'n hymroddiad parhaus i gynaliadwyedd, mae Prifysgol Bangor yn awr ymhlith y 10% uchaf o Brifysgolion gwyrddaf yn y byd, yn ôl tabl cynghrair ryngwladol o sefydliadau sy'n llesol i'r amgylchedd.

"Rydym yn datblygu enw da’n rhyngwladol fel arbenigwyr mewn datblygu cynaliadwy, nid yn unig ar gyfer corfforaethau mawr a chyrff cyhoeddus ond hefyd ar gyfer busnesau bach lle mae arbed pob ceiniog yng ngheg y sach yn hanfodol. Rydym yn gobeithio y bydd y berthynas â Makerere yn ffynnu ac y bydd llawer o fyfyrwyr sy'n teithio i'r DU ar gyfer astudio ac ymchwil uwch yn dyfnhau’r cyswllt drwy ddewis dod i Fangor. "

Y ddirprwyaeth academaidd o Fangor sydd yn ymweld â Uganda i osod y sylfeini a darganfod y potensial i gydweithio yw grwpiau Synnwyr Busnes Business Sense (SBBS) a Bio-Gyfansoddion y Brifysgol.  Mae gan y ddau grŵp blynyddoedd o brofiad yn cefnogi busnesau yng Nghymru a'r DU i fabwysiadu dulliau economegol ac amgylcheddol newydd ac arloesol ymarferol, drwy gymhwyso ymchwil.

Dan arweiniad Dr Young, mae SBBS wedi arbenigo ar ymgorffori cynaliadwyedd o fewn sefydliadau ac wedi datblygu i fod yn ganolbwynt corfforaethol agenda cynaliadwyedd o fewn Prifysgol Bangor.  Mae Bio-Gyfansoddion yn defnyddio bioddeunyddiau, gan gynnwys gwastraff a phlanhigion, i lunio bio-gynnyrch ar gyfer diwydiant fel ffordd i leihau effeithiau negyddol ar yr amgylchedd.

Dywedodd yr Athro John Ddumba Ssentamu, Is-Ganghellor Prifysgol Makerere, "Bydd cydweithio â Phrifysgol Bangor yn ein galluogi i gynnig i'n myfyrwyr a’n partneriaid busnes fynediad at ei harbenigedd addysgol ac ymarferol. Maent yn bartneriaid delfrydol ar ein cyfer, ac ymhlith prifysgolion gorau’r byd ar gymhwyso atebion effeithiol i faterion fel effeithlonrwydd ynni, rheoli gwastraff, ailgylchu cynaliadwy ac ailddefnyddio deunyddiau. "

Bydd tîm Prifysgol Bangor yn ymroi gyda chydweithwyr ym Mhrifysgol Makerere i wreiddio ymarferion cynaliadwy ar draws y sefydliad, gan ymgorffori rhaglenni ymchwil ar waith i hyrwyddo defnydd effeithiol o adnoddau parod (gwastraff ac ati) a mabwysiadu strategaethau a dulliau newydd cynaliadwy sydd yn lleihau costau.

Dyddiad cyhoeddi: 17 Chwefror 2015

Hafan

  • Newyddion
    • Newyddion Cyfredol
    • Archif Newyddion
    • Digwyddiadau
Hafan

Dilynwch Ni

  • Twitter
  • Facebook
  • Instagram
  • Youtube
  • LinkedIn

Prifysgol Bangor

Bangor, Gwynedd, LL57 2DG, UK

+44 (0)1248 351151

Cysylltwch â Ni

Ymweld â’r Brifysgol

Mapiau a Chyfarwyddiadau Teithio

Polisi

  • Cydymffurfiaeth Gyfreithiol
  • Datganiad Deddf Caethwasiaeth Modern 2015
  • Datganiad Hygyrchedd Prifysgol Bangor
  • Polisi Iaith Gymraeg
  • Preifatrwydd a Chwcis
Map

Mae Prifysgol Bangor yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565

© 2020 Prifysgol Bangor