Sgipiwch i’r prif gynnwys
Home

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
  • English
Fy ngwlad:

Main Menu

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
Fy ngwlad:

Search

Close

Breadcrumb

  • English

Rhannwch y dudalen hon
  • Twitter
  • Facebook
  • LinkedIn

Datblygu system siarad â chyfrifiaduron yn Gymraeg

Mae Uned Technolegau Iaith Prifysgol Bangor newydd gael grant gwerth £56,000 gan gronfa Technoleg a’r Gymraeg Lywodraeth Cymru a buddsoddiad gan gronfa ddigidol S4C i ddatblygu mwy ar adnabod lleferydd ar gyfer y Gymraeg.

Sgwrs gyda dyn dall mewn digwyddiad i lansio geiriadur termau anabledd arweiniodd yr Uned i weithio ar dechnoleg lleferydd yn y man cyntaf. Eglurodd Delyth Prys, pennaeth yr Uned: “Ar y dechrau, dim ond safoni termau oedden ni, ond wrth lansio ein Canllawiau Defnyddio Terminoleg Anabledd nôl yn 2001, fe ddywedodd un cyfaill dall fod angen mwy na thermau safonol arnyn nhw, ac mai’r hyn oedden nhw wir ei angen oedd cyfrifiadur i siarad Cymraeg. Aethon ni ati wedyn i chwilio am arian i wneud adnoddau testun i leferydd, lle mae’r cyfrifiadur yn darllen allan destun Cymraeg, ac roedd hynny’n llwyddiant mawr. Wedyn roedd pobl yn gofyn i ni am raglen iddyn nhw fedru siarad yn Gymraeg gyda’r cyfrifiadur, ond roedd hynny’n llawer mwy anodd. Bydd y grant yma yn help mawr i ni greu system rheoli â llais, a chorpws llafar mawr i helpu gwneud system fwy soffistigedig.”

Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol a Masnachol S4C, Elin Morris: “Mae technoleg adnabod llais yn y Gymraeg wedi’i drafod fel adnodd fyddai’n cynnig manteision sylweddol i ni fel darlledwyr mewn sawl ffordd dros y blynyddoedd diwethaf.  O ganlyniad roedd S4C Masnachol yn falch iawn o allu gweithio gyda Phrifysgol Bangor a buddsoddi yn y cynllun cyffrous yma.  Wrth i dechnoleg symud yn ei flaen yn gyflym ym maes darlledu, mae’n bwysig iawn inni adnabod cyfleoedd fydd yn golygu nad yw’r Gymraeg yn cael ei gadael ar ôl, nac yn cael ei disodli mewn aelwydydd Cymraeg eu hiaith.  Yn yr achos yma fe fydd gan y dechnoleg y potensial i agor drysau i’r Gymraeg ar blatfformau digidol, megis teledu clyfar, archifo cynnwys digidol a gwasanaethau ffôn cyfrifiadurol.  Rydym yn ddiolchgar iawn i Lywodraeth Cymru am eu cymorth ariannol i hwyluso’n gwaith ar y cyd â Phrifysgol Bangor.”  

Dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones,  “"I sicrhau bod yr iaith Gymraeg yn ffynnu yn yr 21ain ganrif rhaid i ni wneud yn siwr bod technoleg a chyfryngau digidol Cymraeg ar gael yn hawdd. Rwy’n falch iawn ein bod wedi gallu cefnogi’r datblygiad hwn, a fydd yn agor y drws ar fedru rheoli pob math o declynnau gyda geiriau Cymraeg. Mae gweld ymchwil fel hyn yn digwydd mewn prifysgol yng Nghymru, hefyd yn beth i’w groesawu’n fawr.”

Dywedodd John G. Hughes, Is-Ganghellor Prifysgol Bangor, “Mae’r newyddion am y grant newydd yn ffordd wych o ddathlu dros ugain mlynedd o ymchwil terminoleg a thechnoleg iaith ym Mhrifysgol Mangor. Mae’r gwaith wedi mynd o nerth i nerth yma, ac mae tîm yr Uned Technolegau Iaith i’w llongyfarch ar eu llwyddiant diweddaraf.” 

Y mis hwn mae’r gwaith Terminoleg ym Mhrifysgol Bangor yn dathlu 20 mlynedd yn y maes. Dechreuodd gyda chomisiwn i safoni termau ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol yn Rhagfyr 1993, pan sefydlwyd y Ganolfan Safoni Termau yn yr Ysgol Addysg. Yn 2001 daeth y ganolfan yn rhan o’r Uned Technolegau Iaith newydd yng Nghanolfan Bedwyr, a daeth yr Uned newydd hefyd yn gyfrifol am Cysill, rhaglen gwirio sillafu a gramadeg arloesol y Brifysgol, oedd wedi bod yn mynd ers dechrau’r 1990au. Erbyn hyn mae unarddeg o bobl yn gweithio yn yr Uned, yn gyfuniad unigryw o ieithwyr, terminolegwyr a datblygwyr meddalwedd. Mae’r Uned yn gwbl hunan gyllidol, ac yn dibynnu ar grantiau ymchwil, comisiynau ac arian trwyddedu meddalwedd i ariannu’r gwaith.

Dyddiad cyhoeddi: 31 Rhagfyr 2013

Hafan

  • Newyddion
    • Newyddion Cyfredol
    • Archif Newyddion
    • Digwyddiadau
Hafan

Dilynwch Ni

  • Twitter
  • Facebook
  • Instagram
  • Youtube
  • LinkedIn

Prifysgol Bangor

Bangor, Gwynedd, LL57 2DG, UK

+44 (0)1248 351151

Cysylltwch â Ni

Ymweld â’r Brifysgol

Mapiau a Chyfarwyddiadau Teithio

Polisi

  • Cydymffurfiaeth Gyfreithiol
  • Datganiad Deddf Caethwasiaeth Modern 2015
  • Datganiad Hygyrchedd Prifysgol Bangor
  • Polisi Iaith Gymraeg
  • Preifatrwydd a Chwcis
Map

Mae Prifysgol Bangor yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565

© 2020 Prifysgol Bangor