Sgipiwch i’r prif gynnwys
Home

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
  • English
Fy ngwlad:

Main Menu

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
Fy ngwlad:

Search

Close

Breadcrumb

  • English

Rhannwch y dudalen hon
  • Twitter
  • Facebook
  • LinkedIn

Dathlu Llenyddiaeth Arthuraidd ym Mhrifysgol Bangor

Roedd Arthur Rackham yn ddarluniwr poblogaidd yn ystod blynyddoedd cynnar yr 20ed ganrif. Roedd Arthur Rackham yn ddarluniwr poblogaidd yn ystod blynyddoedd cynnar yr 20ed ganrif. Mae Llyfrgell Prifysgol Bangor bellach yn gartref i’r casgliad mwyaf o lyfrau’n ymwneud â llenyddiaeth Arthur yng Nghymru a gogledd Lloegr, yn dilyn cytundeb rhwng y Brifysgol a Gwasanaeth Llyfrgelloedd Sir y Fflint, sydd wedi rhoi eu casgliad Arthuraidd i’r Brifysgol.

Mae’r casgliad wedi cael cartref addas, gan fod gan y Brifysgol dros hanner canrif o gyfraniad neilltuol i astudiaeth llenyddiaeth Arthuraidd. Mae gan Dr Raluca Radulescu, sy’n arwain y cyrsiau Arthuraidd yn Ysgol y Saesneg, enw da yn rhyngwladol am ei gwaith yn llunio maes astudiaethau Arthuraidd drwy ei golygyddiaeth o gylchgrawn ysgolheigaidd yr International Arthurian Society a chyhoeddiad llyfryddiaeth flynyddol y Gymdeithas. Mae hi hefyd yn cyfrannu’n rheolaidd at raglenni radio a theledu gan drafod astudiaethau canoloesol, a chafodd ei chyfweld yn ddiweddar ar y pwnc ar radio cenedlaethol ABC yn Awstralia.

Yn ogystal â darparu adnodd gwerthfawr i fyfyrwyr sy’n astudio’r modiwlau gradd poblogaidd ar Arthur, neu’r cwrs gradd MA ar Lenyddiaeth Arthuraidd, yr unig un o’i fath yn y byd, bydd y casgliad hefyd o ddiddordeb i unrhyw un sydd â diddordeb cyffredinol mewn astudiaethau Arthuraidd. Er enghraifft, rhai sydd â diddordeb mewn canfod sut mae’r chwedlau wedi eu hail-ddweud a’u hail-ddefnyddio mewn gwahanol ffyrdd dros y canrifoedd.

Meddai Dr Raluca Radulescu:

“Boed ar gyfer astudiaeth academaidd neu er mwyn adrodd chwedlau, ar ffurf llyfr, ffilm neu gylchgrawn, mae pobol dros y canrifoedd wedi eu swyno gan y traddodiad Arthuraidd. Rydym yn bwriadu defnyddio’r rhodd hwn i greu cynlluniau newydd efo partneriaid lleol a rhyngwladol, a denu mwy o ddiddordeb academaidd mewn llenyddiaeth Arthuraidd i Fangor. Rydym yn bwriadu ymestyn allan i’r gymuned leol hefyd drwy gynnal gweithgareddau megis darllen straeon gyda thema Arthuraidd, a sgyrsiau mewn ysgolion, sy’n cael eu cynllunio ar gyfer mis Mehefin.”

Wynebddarlun o gopi o La Mort D'Arthur a gyhoeddwyd yn 1816.Wynebddarlun o gopi o La Mort D'Arthur a gyhoeddwyd yn 1816.Meddai Sue Hodges:  Cyfarwyddwr Llyfrgelloedd ac Archifau, Prifysgol Bangor:

“Mae hwn yn gasgliad gwych a fydd yn atgyfnerthu ymchwil, dysgu ac addysgu Astudiaethau Arthuraidd ym Mhrifysgol Bangor ac yn rhyngwladol, mae’n  ychwanegu at ein casgliad presennol. Rydym yn ddiolchgar dros ben i lyfrgelloedd Sir y Fflint amdanynt.  Gan weithio’n agos efo Dr Radulescu,  byddwn yn rheoli, cadw, hybu a digideiddio rhannau o’r casgliad, fel bod modd iddo fod ar gael i’r cyhoedd a chymunedau yng Nghymru.  Mae croeso i’r cyhoedd drefnu i ddod i weld y casgliad a byddwn yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau i hybu’r casgliad.

Meddai’r Cynghorydd Chris Bithell, o Wasanaeth Llyfrgelloedd Sir y Fflint: “Rydym yn falch iawn bod y casgliad unigryw o lenyddiaeth Arthuraidd wedi cael ei ail-leoli i Lyfrgell Prifysgol Bangor. Rheolir a gofalir am y casgliad yn gan Wasanaeth Lyfrgelloedd ac Archifau’r Brifysgol, sydd eisoes â chysylltiadau da gydag ysgolheigion Arthuraidd, a chyda chynlluniau i hybu’r casgliad yn eang. Bydd y casgliad ar gael i unrhyw un sydd am ddarllen neu astudio’r cynnwys. Bydd manylion ynghylch sut i drefnu i weld y casgliad ar wefan Llyfrgelloedd Sir y Fflint ar ôl 16 Ebrill.”

Rhoddwyd y casgliad gwreiddiol i Lyfrgelloedd Sir y Fflint gan E.R.Harries, cyn-lyfrgellydd y Sir ym 1952. Ymhelaethwyd ar y stoc gan Lyfrgelloedd Sir y Fflint a Chlwyd ac mae’r casgliad rŵan yn cwmpasu dros 2,000 o eitemau, gan gyfrannu ychwanegiad sylweddol at gasgliad Bangor, sydd eisoes o ddiddordeb o bwys i  ysgolheigion a darllenwyr cyffredinol fel ei gilydd.

Mae casgliad Harries Sir y Fflint hefyd yn cynnwys rhai llyfrau printiedig cynnar prin ac argraffiadau moethus o gyfnod Diwygiad y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Bydd y cyfan yn cael eu curadu, eu cadw a’u rheoli gan wasanaeth Llyfrgell ac Archif y Brifysgol.

I ddathlu derbyn y rhodd, mae Prifysgol Bangor yn cynnal darlith gyhoeddus ac arddangosfa o lyfrau prin. Cynhelir y ddarlith, ‘Arthur: the King that never left us' yn Narlithfa  2 Prif Adeilad y Brifysgol am 5.00 brynhawn Iau, 16 Ebrill. Mae croeso i bawb i'r ddarlith. I gyd-fynd â’r ddarlith, bydd arddangosfa hefyd yn cael ei gosod yng nghoridor Ystafell y Cyngor ym Mhrif Adeilad y Brifysgol, man sy’n agored i'r cyhoedd. Gellir gweld yr arddangosfa rhwng 13 a 27 Ebrill 2015.

Dyddiad cyhoeddi: 10 Ebrill 2015

Hafan

  • Newyddion
    • Newyddion Cyfredol
    • Archif Newyddion
    • Digwyddiadau
Hafan

Dilynwch Ni

  • Twitter
  • Facebook
  • Instagram
  • Youtube
  • LinkedIn

Prifysgol Bangor

Bangor, Gwynedd, LL57 2DG, UK

+44 (0)1248 351151

Cysylltwch â Ni

Ymweld â’r Brifysgol

Mapiau a Chyfarwyddiadau Teithio

Polisi

  • Cydymffurfiaeth Gyfreithiol
  • Datganiad Deddf Caethwasiaeth Modern 2015
  • Datganiad Hygyrchedd Prifysgol Bangor
  • Polisi Iaith Gymraeg
  • Preifatrwydd a Chwcis
Map

Mae Prifysgol Bangor yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565

© 2020 Prifysgol Bangor