Sgipiwch i’r prif gynnwys
Home

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
  • English
Fy ngwlad:

Main Menu

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
Fy ngwlad:

Search

Close

Breadcrumb

  • English

Rhannwch y dudalen hon
  • Twitter
  • Facebook
  • LinkedIn

Dyfarnu Ysgoloriaethau Cydraddoldeb ac Amrywiaeth 2020/21

Dyfarnwyd tair 'Ysgoloriaeth Gydraddoldeb ac Amrywiaeth' i raddedigion eithriadol 2020 Prifysgol Bangor - Georgina Sidley-Brooks, Olaitan Olawande ac Abi Cousins. Bydd yr ysgoloriaethau, sy'n talu ffioedd llawn y cyrsiau, yn galluogi'r myfyrwyr dawnus a brwdfrydig hyn i barhau â'u hastudiaethau ac maent bellach wedi cofrestru ar gyrsiau  ôl-radd ym Mangor.

Mae Georgina Sidley-Brooks, 21, o Foelfre, Ynys Môn, yn astudio am MSc mewn Dylunio Arloesi Cymhwysol yn yr Ysgol Addysg a Datblygiad Dynol, a dywedodd: “Rwy’n falch iawn ac yn ddiolchgar iawn fy mod wedi ennill yr Ysgoloriaeth Gydraddoldeb ac Amrywiaeth. Bydd yr ysgoloriaeth yn fy helpu i ddatblygu gyrfa ym maes dylunio diwydiannol. Dynion sy'n llenwi'r diwydiant dylunio diwydiannol, a dim ond tua 5% o'r gweithlu yw merched. Yn ychwanegol, anaml iawn y gwelir merched mewn swyddi rheoli. Rwy’n benderfynol o ddilyn fy ngyrfa, i sbarduno newid yn y diwydiant ac i gyrraedd y brig ym maes busnes.”

Mae Olaitan Olawande, 21, o Lundain, yn astudio am MSc mewn Dadansoddi Ymddygiad Cymhwysol yn yr Ysgol Seicoleg. Dywedodd Olaitan: “Mae cydraddoldeb ac amrywiaeth yn bwysig i mi fel merch o gymuned ddu ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig.  Mae yna ddiffyg difrifol o bobl sy'n edrych fel fi ym maes Seicoleg ac felly nid oedd yn ymddangos fel maes oedd yn agored imi nac yn un y buaswn yn 'addas ar ei gyfer'. Mae hefyd yn bwysig cael pobl sy'n edrych fel chi ac sy'n deall cefndir eich diwylliant a'ch hil er mwyn datblygu gwell dealltwriaeth o amgylcheddau sy'n effeithio ar ein hiechyd meddwl. Mae'r ysgoloriaeth hon wedi bod yn help enfawr ac wedi caniatáu imi ganolbwyntio ar fy astudiaethau. Oherwydd COVID, nid oeddwn yn gallu gweithio dros yr haf. Roeddwn yn meddwl y byddai'n rhaid i mi gymryd blwyddyn allan a gweithio er mwyn talu i astudio am fy ngradd Meistr, ond gyda chymorth yr ysgoloriaeth, rwyf wedi gallu parhau â'm hastudiaethau."

Mae Abi Cousins, 21, o Swydd Hertford yn astudio am MScRes mewn Gwyddoniaeth Fiolegol yn yr Ysgol Gwyddorau Naturiol a dywedodd: " Mae'n anrhydedd ennill yr Ysgoloriaeth Gydraddoldeb ac Amrywiaeth. Rwy'n credu bydd yr ysgoloriaeth hon yn agor llawer o ddrysau imi, ac yn caniatáu imi ganolbwyntio ar fy ngyrfa yn y diwydiant yn y dyfodol. Fel mae'r Gymdeithas Frenhinol Bioleg wedi ei ddweud, mae angen mwy o ferched arnom mewn swyddi pwysig ym maes gwyddoniaeth fiolegol a byddwn wrth fy modd yn cael bod yn rhan o hynny yn fy ngyrfa. Mae mor bwysig annog cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein meysydd ac rwy'n ddiolchgar iawn am y gefnogaeth gan grŵp Athena SWAN y brifysgol. "

Mae Prifysgol Bangor yn aelod o siarter Cydraddoldeb Rhwng y Rhywiau Athena SWAN ac felly wedi ymrwymo i amrywiaeth a chydraddoldeb rhwng y rhywiau, ac i greu a hyrwyddo diwylliant cynhwysol i staff a myfyrwyr ar bob lefel.  Diben Ysgoloriaethau Cydraddoldeb ac Amrywiaeth y brifysgol yw cefnogi myfyrwyr sy'n graddio i barhau â'u hastudiaethau ym Mangor - yn enwedig mewn meysydd sydd â thangynrychiolaeth o grwpiau penodol ar lefel ôl-radd a/neu ferched yn troi eu cefnau ar y meysydd oherwydd diffyg cyfle. 

Dywedodd yr Athro Morag McDonald, Deon Coleg Gwyddorau'r Amgylchedd a Pheirianneg a chadeirydd Grŵp Athena SWAN y brifysgol: 

“Rwy’n falch iawn ein bod wedi dyfarnu’r ysgoloriaethau hyn i dair myfyrwraig ifanc rhagorol. Mae'n hanfodol darparu amgylchedd cefnogol i fyfyrwyr fel Abi, Olaitan a Georgina sydd ar ddechrau eu gyrfa. Mae'r Ysgoloriaethau Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn fenter wych ac yn agored i holl israddedigion Bangor sy'n dymuno parhau â'u hastudiaethau ym Mangor. Byddem yn annog pob darpar fyfyriwr ôl-radd i gadw llygad am y cyfleoedd hyn a'r holl staff i'w hyrwyddo i fyfyrwyr, fel y gallwn barhau i weithio gyda'n gilydd i gefnogi ein cymuned gynhwysol ym Mhrifysgol Bangor.”

Dyddiad cyhoeddi: 7 Tachwedd 2020

Hafan

  • Newyddion
    • Newyddion Cyfredol
    • Archif Newyddion
    • Digwyddiadau
Hafan

Dilynwch Ni

  • Twitter
  • Facebook
  • Instagram
  • Youtube
  • LinkedIn

Prifysgol Bangor

Bangor, Gwynedd, LL57 2DG, UK

+44 (0)1248 351151

Cysylltwch â Ni

Ymweld â’r Brifysgol

Mapiau a Chyfarwyddiadau Teithio

Polisi

  • Cydymffurfiaeth Gyfreithiol
  • Datganiad Deddf Caethwasiaeth Modern 2015
  • Datganiad Hygyrchedd Prifysgol Bangor
  • Polisi Iaith Gymraeg
  • Preifatrwydd a Chwcis
Map

Mae Prifysgol Bangor yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565

© 2020 Prifysgol Bangor