Sgipiwch i’r prif gynnwys
Home

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
  • English
Fy ngwlad:

Main Menu

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau Ar-lein
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Prospectws

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn Ysgolion/Colegau Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adolygiad Blynyddol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa’r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda’r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a’r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Cyllid ar gyfer Cydweithio, Ymchwil a Datblygu ac Arloesi
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ymgynghoriaeth, Arbenigedd a Gwybodaeth Arbenigol
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Lleoliadau Myfyrwyr ac Interniaethau Mewn Busnes a Menter
      • Hyfforddiant a Datblygiad Proffesiynol Parhaus
      • Prentisiaethau Gradd
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Cysylltiadau
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Cysylltwch â Ni
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau Ar-lein
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Prospectws

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn Ysgolion/Colegau Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adolygiad Blynyddol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa’r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda’r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a’r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Cyllid ar gyfer Cydweithio, Ymchwil a Datblygu ac Arloesi
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ymgynghoriaeth, Arbenigedd a Gwybodaeth Arbenigol
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Lleoliadau Myfyrwyr ac Interniaethau Mewn Busnes a Menter
      • Hyfforddiant a Datblygiad Proffesiynol Parhaus
      • Prentisiaethau Gradd
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Cysylltiadau
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Cysylltwch â Ni
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
Fy ngwlad:

Search

Close

Breadcrumb

  • English

Rhannwch y dudalen hon
  • Twitter
  • Facebook
  • LinkedIn

Ffynonellau ynni a all gyfrannu at gynaliadwyedd ffermydd

Gallai rhannau o’r diwydiant amaeth Prydeinig  gynhyrchu eu hynni eu hunain, o adnodd sydd yn llythrennol dan eu trwynau,  a gwneud cyfraniad gwerthfawr i’r gymdeithas ehangach yn y fargen.

Dyna yw canlyniad  ymchwil doethuriaeth gan John Walsh, myfyriwr ym Mhrifysgol Bangor, ar y cyd â Fre-energy Ltd, cwmni sydd a’i bencadlys ger Wrecsam.

Gall prosesu biswail gwartheg trwy systemau treuliad anaerobig  ddatrys nid yn unig broblem rheoli gwastraff ar y fferm, ond hefyd gall leihau ôl-troed carbon y fferm a darparu ffynhonnell pŵer i’w defnyddio neu ei gwerthu i’r grid cenedlaethol.  Yn ogystal, gellir gwasgaru'r gweddillion a gynhyrchir yn sgil y broses ar y tir fel  gwrtaith hynod effeithiol, fel na fydd angen prynu cymaint o wrtaith cemegol.

Er hynny, roedd ymchwil Dr Walsh, a wnaed o dan arweiniad arbenigol Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth Prifysgol Bangor yn seiliedig ar asesu cost 'go iawn’  buddiannau sefydlu system o'r fath ar fferm – buddiannau sydd i raddau helaeth yn anweledig.   Nid yn unig y ffermwr sy’n elwa ond y gymdeithas ehangach a’r economi gyfan, oherwydd ffactorau fel llai o allyriadau CO2, defnyddio gwastraff  a fyddai, fel arall yn mynd i safle tirlenwi, lleihau aroglau drwg yn y cyffiniau, dyfrffyrdd glanach, ac ati.

Anodd amcangyfrifo gwerth y buddiannau hyn, yn enwedig eu gwerth ariannol. Tasg Dr Walsh oedd eu prisio’n ariannol, ar sail elfennau megis prisiau masnachu carbon a chost  safleoedd tirlenwi i Lywodraeth y DU.  Casgliad yr ymchwil oedd bod y system treuliad anaerobig  yn cael ei thanbrisio mewn  cynlluniau taliadau presennol gan ei bod yn  creu llawer mwy o fuddiannau na ffurfiau eraill o ynni adnewyddadwy. 

Cyllidir  y Ddoethuriaeth dan Raglen Ysgoloriaethau Sgiliau’r Economi Wybodaeth (KESS). Mae rhaglen Ysgoloriaethau Sgiliau’r Economi Wybodaeth (KESS) yn rhaglen gydgyfeiriant Ewropeaidd  sy’n cael ei harwain gan Brifysgol Bangor ar ran y sector AU yng Nghymru. Gan fanteisio ar Gronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF), mae KESS yn cefnogi projectau ymchwil ar y cyd (graddau Meistr Ymchwil a PhD) gyda phartneriaid allanol wedi eu lleoli yn ardal Cydgyfeiriant Cymru (Gorllewin Cymru a’r Cymoedd).  Mae’r elfennau Meistr ymchwil a PhD wedi eu cyfuno â rhaglen hyfforddi sgiliau lefel uchel, sy’n arwain at Gymhwyster Datblygu Sgiliau Ôl-radd. Bydd  KESS yn rhedeg tan 2014, a bydd yn darparu dros  400 o leoedd PhD a Meistr.

Dywedodd John Walsh bod y profiad o weithio’n agos efo busnes wedi bod yn un buddiol:  “Rydw i o blaid partneriaethau rhwng ysgolheictod a diwydiant. Treuliais dri mis efo’r cwmni, cyfrannais at eu llawlyfr  a theimlaf  fod gen i sgiliau llawer cryfach i’w gynnig oherwydd hynny, ” meddai John.  Mae’n ymfudo i Awstralia lle mae’n gobeithio gweithio yn y diwydiant amgylcheddol. Mae dwy bennod o’i ddoethuriaeth eisoes wedi eu cyhoeddi fel papurau academaidd, felly mae’n ymddangos  bod astudio  treuliad biswail yn addo dyfodol llewyrchus i John.

 Meddai Dr Prysor Williams, un o oruchwylwyr academaidd John:

“Mae’n bwysig ein bod ni, fel academyddion, yn medru darparu tystiolaeth ddiduedd o fuddiannau ehangach a chostau camau mae ffermwyr yn eu cymryd i leihau eu  heffaith amgylcheddol a hefyd i roi buddiannau i gymdeithas yn fwy cyffredinol.  Mae’r ymchwil wedi dangos bod System Treuliad Anaerobig yn system lle mae pawb ar ei ennill.”

Meddai Richard Tomlinson, Rheolwr Gyfarwyddwr Fre-energy:

"Mae Fre-energy wedi bod yn falch o gefnogi  John  yn yr astudiaeth bwysig hon, sydd wedi adnabod gwerth economaidd ac amgylcheddol gweddillion, sef ffrwyth technoleg hynod effeithiol ac unigryw Fre-energy, a’r hyn y gall ei gynnig i ffermio cynaliadwy. Mae treuliad anaerobig yn dechnoleg wych sy’n helpu i ymateb i’r her y mae amaethyddiaeth yn ei wynebu wrth geisio bwydo poblogaeth  sydd yn cynyddu mewn modd mor effeithlon â phosib heb ddisbyddu’n hadnoddau ymhellach."

Mae’r stori hon yn cael ei hamlygu yn ystod ymgyrch Prifysgolion Cymru – Tanio Tyfiant a gynhelir rhwng y 10fed a'r 14eg o Fehefin 2013. Mae’r ymgyrch yn dathlu cryfder y sector yn ogystal ag archwilio a dod i gasgliadau ynglyn â’r prif ffyrdd y gallai addysg uwch gyfrannu ymhellach i greu swyddi, ymchwil arobryn a thyfiant yma yng Nghymru.

Dyddiad cyhoeddi: 7 Mehefin 2013

Hafan

  • Newyddion
    • Newyddion Cyfredol
    • Archif Newyddion
    • Digwyddiadau
Hafan

Dilynwch Ni

  • Twitter
  • Facebook
  • Instagram
  • Youtube
  • LinkedIn

Prifysgol Bangor

Bangor, Gwynedd, LL57 2DG, UK

+44 (0)1248 351151

Cysylltwch â Ni

Ymweld â’r Brifysgol

Mapiau a Chyfarwyddiadau Teithio

Polisi

  • Cydymffurfiaeth Gyfreithiol
  • Datganiad Deddf Caethwasiaeth Modern 2015
  • Datganiad Hygyrchedd Prifysgol Bangor
  • Polisi Iaith Gymraeg
  • Preifatrwydd a Chwcis
Map

Mae Prifysgol Bangor yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565

© 2020 Prifysgol Bangor