Sgipiwch i’r prif gynnwys
Home

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
  • English
Fy ngwlad:

Main Menu

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
Fy ngwlad:

Search

Close

Breadcrumb

  • English

Rhannwch y dudalen hon
  • Twitter
  • Facebook
  • LinkedIn

Geiriadur Cymraeg ym mhobman! Lansio ap geiriaduron newydd a bysellfwrdd ffôn Cymraeg ar ben yr Wyddfa, 23 Hydref, 2012

Diolch i'r cynnydd mewn technoleg y blynyddoedd diwethaf, o heddiw ymlaen mi fydd hi'n bosib cario a defnyddio geiriadur Cymraeg i bobman. Bydd Ap Geiriaduron – sydd ar gael i’r iPhone, iPad ac Android – yn cael ei ddefnyddio am y tro cyntaf ar ben yr Wyddfa er mwyn dangos pa mor gryno a defnyddiol y mae fel geiriadur i ddysgwyr, rheini, plant ac athrawon ym mhobman.

Ar y dechrau, bydd dau eiriadur yn yr Ap Geiriaduron, sef geiriadur cyffredinol Cysgair, a geiriadur termau safonol Y Termiadur Addysg. Bydd yr ap yn cael ei ddosbarthu yn yr App Store a'r Google Play Store.

Meddai Patrick Robertson, aelod ieuengaf staff yr Uned Technolegau Iaith, sy’n ran o Ganolfan Bedwyr Prifysgol Bangor: “Fe ddewison ni lansio’r ap ar gopa’r Wyddfa er mwyn dangos gymaint yn haws ydi hi i gael geiriaduron ar ap yn hytrach nag ar ffurf geiriaduron papur. Roedden ni wedi meddwl cario ychydig o eiriaduron papur i fyny gyda ni hefyd, ond roedden nhw’n rhy drwm!” Wedi gorffen y project, bydd Patrick yw cychwyn ei gwmni meddalwedd ei hun. “Dwi'n gobeithio trafaelio'r byd a chodio ar draethau, mynyddoedd – lle bynnag fyddai!”

Ariannwyd swydd Patrick yn rhannol dan gynllun Go Wales, sy’n cynnig profiad gwaith i raddedigion ifanc. Er fod ei rieni’n ddi-Gymraeg, cafodd Patrick addysg uwchradd cyfrwng Cymraeg yn Ysgol Tryfan, Bangor, cyn graddio mewn Awyrennaeth ym Mhrifysgol Bryste. “Mi fuasai ap geiriaduron wedi bod yn help mawr i mi a'm rhieni wrth dysgu Cymraeg”. Dysgodd Patrick godio yn ei amser ei hun, cyn penderfynu ei fod eisiau defnyddio ei sgiliau i roi rhywbeth yn ôl i'r gymuned Gymraeg. Dywedodd Elinor Churchill, Cydlynydd Lleoliadau Go Wales: “Roedd yn bleser mawr cefnogi Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr a Patrick i ddatblygu’r ap arloesol hwn. Bydd yn ei gwneud hi’n haws i bobl ddefnyddio’r Gymraeg lle bynnag y maen nhw.”

Goruchwyliwyd y gwaith ar yr ap newydd gan Dewi Bryn Jones a David Chan, peirianwyr meddalwedd yr Uned Technolegau Iaith. Meddai David “Mae ein geiriaduron electronig yn medru gwneud llawer mwy na’r hen eiriaduron papur, er eu bod yn cymryd llai o le. Mae’r ap Geiriaduron yn medru dad-dreiglo a rhedeg berfau, ac mae hyn yn help mawr i ddysgwyr fel fi i adnabod geiriau Cymraeg sydd ddim wastad yn hawdd eu ffeindio mewn geiriadur traddodiadol.”

Hefyd yn cael ei lansio ar gopa’r Wyddfa bydd bysellfwrdd ffôn Cymraeg newydd sy’n gymorth tecstio’n Gymraeg a Saesneg. Gwaith llawrydd gan David ei hun yw’r ddyfais hon, ond mae’n defnyddio data geiriadurol yr Uned Technolegau Iaith.

Bydd cael bysellfwrdd a geiriadur gyda dros 100,000 o eiriau mewn dyfais mor fach â ffôn neu tabled yn caniatáu i unrhyw un ddefnyddio geiriadur yn unrhyw le. Bydd criw o ddysgwyr Gymraeg, rhieni di-Gymraeg a Chymry Cymraeg yn crwydro i ben yr Wyddfa i lansio'r ap iOS ac Android yn fyw ddydd Mawrth y 23ain o Hydref. Wedi hyn bydd unrhyw un yn medru llwytho’r ap i’w iPhone, iPad neu dyfais Android yn rhad ac am ddim trwy'r Apple App Store, y Google Play Store a’r Amazon App Store.

Dyddiad cyhoeddi: 22 Hydref 2012

Hafan

  • Newyddion
    • Newyddion Cyfredol
    • Archif Newyddion
    • Digwyddiadau
Hafan

Dilynwch Ni

  • Twitter
  • Facebook
  • Instagram
  • Youtube
  • LinkedIn

Prifysgol Bangor

Bangor, Gwynedd, LL57 2DG, UK

+44 (0)1248 351151

Cysylltwch â Ni

Ymweld â’r Brifysgol

Mapiau a Chyfarwyddiadau Teithio

Polisi

  • Cydymffurfiaeth Gyfreithiol
  • Datganiad Deddf Caethwasiaeth Modern 2015
  • Datganiad Hygyrchedd Prifysgol Bangor
  • Polisi Iaith Gymraeg
  • Preifatrwydd a Chwcis
Map

Mae Prifysgol Bangor yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565

© 2020 Prifysgol Bangor