Sgipiwch i’r prif gynnwys
Home

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
  • English
Fy ngwlad:

Main Menu

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
Fy ngwlad:

Search

Close

Breadcrumb

  • English

Rhannwch y dudalen hon
  • Twitter
  • Facebook
  • LinkedIn

Gofalu am Rieni Maeth fel y gallant ofalu am y plant yn well

Mae cymysgfa o fwynhad a straen wrth fagu plant, ond wrth i wledydd Prydain wynebu argyfwng o ran nifer rhieni maeth sydd ar gael, mae un brifysgol yn canfod ffyrdd i wella lles personol a lleihau lefelau straen rhai sy’n cyflawni’r gwaith hwnnw ar hyn o bryd.

Nod ymchwil ym Mhrifysgol Bangor yn y pen draw yw gwella gofal plant drwy sicrhau bod rhieni maeth eu hunain yn gallu ymdopi’n well â gofynion y gwaith magu plant y maent yn ei wneud.  Dylai hyn, yn ei dro, gyfrannu at gynnal neu gynyddu niferoedd presennol gofalwyr maeth.  

Gan ddefnyddio Ymwybyddiaeth Ofalgar, dull gweithredu meddwl-corff integredig sy’n helpu pobl i newid y ffordd y maent yn meddwl a theimlo ynghylch eu profiadau, mae’r Ganolfan Ymwybyddiaeth Ofalgar mewn Ymchwil ac Ymarfer yn y Brifysgol yn ymchwilio pa mor effeithiol yw rhaglen benodol i wella lles rhieni maeth.  

Mae diddordeb mewn ymwybyddiaeth ofalgar yn tyfu’n rhyngwladol ac mae wedi cael ei ddefnyddio mewn ystod eang o leoliadau clinigol a sefyllfaoedd eraill.  Mae Prifysgol Bangor yn credu mai hwn yw’r tro cyntaf iddo gael ei addasu’n benodol ar gyfer rhieni maeth, gan ymchwilio i’w effeithiau hefyd.

Ar hyn o bryd mae deuddeg o rieni maeth o awdurdodau lleol ac asiantaethau ar draws Gogledd Cymru’n dilyn y cyntaf o gyrsiau wyth wythnos Ymwybyddiaeth Ofalgar i Rieni Maeth.  Eisoes mae’r rhieni hyn yn dweud bod y cwrs o fudd iddynt hwy a’r plant sydd yn eu gofal.

Wrth egluro eu ffordd o weithredu, meddai Eluned Gold o’r Ganolfan Ymwybyddiaeth Ofalgar ym Mhrifysgol Bangor:  “Mae’r ffordd rydym ni’n ymdrin ag ymwybyddiaeth ofalgar i Rieni Maeth yn debyg i’r cyngor ynghylch masgiau ocsigen a roddir i deithwyr mewn awyrennau sydd â phlant efo nhw – rhowch y masg ocsigen am eich wyneb eich hun yn gyntaf cyn helpu plentyn.  Yr un ffordd, nod y rhaglenni yw helpu rhieni maeth i ymdopi â gofynion y gwaith a’u lefelau straen eu hunain, fel eu bod yn gallu magu’r plant sydd yn eu gofal yn well.”  

Meddai ymhellach: “Mae ymwybyddiaeth ofalgar yn annog rhai sy’n cymryd rhan i ganolbwyntio ar eu meddyliau a’u teimladau heb feirniadaeth.  Mae pobl yn defnyddio ymwybyddiaeth ofalgar yn eu bywydau bob dydd drwy dreulio cyfnodau byr yn myfyrio a dod ag ymwybyddiaeth gynyddol i brofiadau bob dydd.   

“Rydym eisiau asesu effeithiau Ymwybyddiaeth Ofalgar ar lefelau straen y rhieni eu hunain ac ar eu strategaethau ymdopi.  Mae gennym ddiddordeb gweld hefyd sut bydd gwelliannau yn lles rhieni yn effeithio ar blant sydd dan eu gofal.”  

Bydd yr ymchwil ansoddol yn defnyddio amrywiaeth o wahanol fesurau i fonitro newidiadau yn y ffordd mae rhieni’n ystyried eu lles neu lefelau straen eu hunain a sut maent yn gweld y plant.

Cyllidwyd yr ymchwil, sydd yn ei chamau cynnar ar hyn o bryd,  gan Brifysgol Bangor a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac mae’n un o nifer o brojectau ymchwil bychain sy’n edrych ar Ymwybyddiaeth Ofalgar a magu plant.  Os bydd y canlyniadau’n ffafriol, bydd y grŵp ymchwil yn ceisio cyllid ar gyfer astudiaeth fwy o’r effeithiolrwydd ac i rannu eu darganfyddiadau ag asiantaethau eraill.

Meddai rhieni maeth ar y cwrs:

“Byddai bywyd yn well pe bai pawb yn ei wneud”

“Dydi o ddim yn hawdd ond mae’n bwysig rhoi amser i ymlacio”

“Mae’n gyfle i gerdded ac edrych i fyny yn hytrach na rhedeg”

“Tawelwch ynghanol rhuthr bywyd”

“Mae plant yn dysgu oddi wrth yr hyn rydym yn ei wneud, nid beth rydym yn ei ddweud; felly os rydym ni’n peidio â chynhyrfu, mae gobaith iddynt hwythau fod felly hefyd.”

“Edrych ar ôl eich hun a dysgu dweud na”

Dyma un agwedd ar ymchwil i ymwybyddiaeth ofalgar yng Nghanolfan Ymwybyddiaeth Ofalgar Prifysgol Bangor, sy’n cynnal cynhadledd bwysig ar Ymwybyddiaeth Ofalgar mewn Cymdeithas rhwng 23-25 Mawrth 2013. Mae mwy nag erioed yn dod i’r gynhadledd hon a bydd siaradwyr ac ymarferwyr rhyngwladol blaenllaw yn y maes yn cymryd rhan ynddi.

Dyddiad cyhoeddi: 21 Mawrth 2013

Hafan

  • Newyddion
    • Newyddion Cyfredol
    • Archif Newyddion
    • Digwyddiadau
Hafan

Dilynwch Ni

  • Twitter
  • Facebook
  • Instagram
  • Youtube
  • LinkedIn

Prifysgol Bangor

Bangor, Gwynedd, LL57 2DG, UK

+44 (0)1248 351151

Cysylltwch â Ni

Ymweld â’r Brifysgol

Mapiau a Chyfarwyddiadau Teithio

Polisi

  • Cydymffurfiaeth Gyfreithiol
  • Datganiad Deddf Caethwasiaeth Modern 2015
  • Datganiad Hygyrchedd Prifysgol Bangor
  • Polisi Iaith Gymraeg
  • Preifatrwydd a Chwcis
Map

Mae Prifysgol Bangor yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565

© 2020 Prifysgol Bangor