Graddedig o Fangor yn cael swydd fel paragyfreithwraig yn Swydd Gaer
Keira HandMae myfyrwraig o Brifysgol Bangor yn hapus iawn i raddio ar ôl tair blynedd anhygoel yn y Brifysgol.
Bydd y cyn-fyfyrwraig Coleg Iâl, Keira Jayne Hand, 21, o Rhosllannerchrugog, Wrecsam, yn graddio gyda gradd LLB dosbarth cyntaf yn y Gyfraith. Mae Keira wedi dangos ymrwymiadau anhgoel i wirfoddoli tra yn y Brifysgol a dyfarnwyd gwobr Uchel-siryf unigol iddi fel cydnabyddiaeth am ei hymrwymiad fel cyfarwyddwr ‘Street Law’. Enwebwyd Keira gan ei thîm am eu bod yn credu ei bod yn anhygoel o drefnus, brwdfrydig ac ymrwymedig i'r grŵp ac yn ei chanmol mai hi sy'n gyfrifol am dwf y grŵp.
Keira a ddywedodd: "Tra’n astudio ym Mangor cymerais ran mewn nifer o weithgareddau allgyrsiol. Cymerais ran cystadlaethau ffug lys sy'n gweld myfyrwyr yn paratoi a chyflwyno achos gerbron barnwr. Enillais tri cystadleuaeth ym Mangor ac fe gymerais ran yn ffug lys cenedlaethol Gwasg Prifysgol Rhydychen. Hefyd, cymerais ran yn Uned Gwaith Achos Diniweidrwydd yr Ysgol sydd wedi fy ngalluogi i weithio ar achosion troseddol go iawn. Tra ym Mangor, rydwyf wedi cwblhau nifer o interniaethau a gwaith lleoliadau gan gynnwys disgybledd bychan gyda siambr bargyfreithiwr, cysgodi bargyfreithiwr yn y Llys Sirol a gwaith mewn cwmnïau cyfreithwyr. Taflais fy hun i mewn i unrhyw weithgaredd a oedd yn adlewyrchu fy angerdd dros y gyfraith, ac mae hyn wedi profi'n hynod o werthfawr.
"Mae Ysgol y Gyfraith wedi bod mor galonogol ac wedi mynd tu hwnt i’r gofynion i sicrhau ein bod yn cael y mwyaf allan o'n hamser fel myfyrwyr y gyfraith. Yr wyf wedi cael tair blynedd o'r fath rhyfeddol ym Mangor.
"Y diwrnod ar ôl fy arholiad terfynol, cefais gynnig y cyfle i ymuno â chyfreithwyr Freeman Jones fel rhan o'u rhaglen cyfreithiwr dan hyfforddiant. Rwyf wedi gweithio yn Freeman Jones fel paragyfreithiol ers dechrau mis Mehefin, rwy’n gweithio'n bennaf ar ewyllysiau a phrofiant, cyfraith teulu ac ymgyfreitha. Rwyf yn bwriadu parhau i wneud hyn ac ennill mwy a mwy o brofiad nes byddaf wedi cwblhau’r cwrs ymarfer cyfreithiol a fyddaf yn dechrau astudio ar benwythnosau ym mis Medi cyn cymhwyso fel cyfreithiwr gyda nhw. Rydwyf wedi cael cyfle anhygoel ac ni fyswn wedi gallu gwneud hyn heb y cymorth a'r gefnogaeth a gefais gan Ysgol y Gyfraith a'm nheulu."
Straeon Perthnasol:
https://www.bangor.ac.uk/studentlife/newyddionmyfyrwyr/cyfraith-y-stryd-yn-cipio-dwy-o-wobrau-r-uchel-siryf-am-waith-cymunedol-27151
Dyddiad cyhoeddi: 11 Gorffennaf 2016