Sgipiwch i’r prif gynnwys
Home

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
  • English
Fy ngwlad:

Main Menu

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
Fy ngwlad:

Search

Close

Breadcrumb

  • English

Rhannwch y dudalen hon
  • Twitter
  • Facebook
  • LinkedIn

Hanner canrif ers Sgt Pepper ac ymweliad y Beatles â Bangor

Y plac a ddadorchuddiwyd i goffáu 35ain pen-blwydd ymweliad y Beatles â BangorY plac a ddadorchuddiwyd i goffáu 35ain pen-blwydd ymweliad y Beatles â BangorMae’n hanner canrif ers i Sgt Pepper ddysgu ei fand i chwarae, gyda rhyddhad albwm, Sgt Pepper’s Lonely Hearts Club Band; sydd yn aml wedi ei ddisgrifio fel yr ‘albwm cysyniadol’ o bwys cyntaf, ac a ystyrir yn gyffredinol fel un a dorrodd gŵys newydd. Gellir dadlau iddo hefyd cael ei ystyried yn un o’r ‘adegau’ yna a newidiodd ffurf newydd ar gelfyddyd (ac efallai a esgorodd ar hynny).  

Mae hefyd yn hanner canrif (25-27 Awst 1967) ers i’r Beatles ymweld â Bangor, ymweliad a brofodd i fod yn drobwynt yn hanes y grŵp.

Gwahoddwyd y ‘Fab Four’ (neu’r ‘Pedwar Penigamp’!) i’r Coleg Normal (bellach yn rhan o Brifysgol Bangor) gan Maharishi Mahesh Yogi. Roedd Maharishi wedi ail becynnu ymarferiadau myfyrio hynafol dwyreiniol ar gyfer cynulleidfaoedd gorllewinol o dan drefn Transcendental Meditation. Roedd y mudiad ‘Transcendental Meditation’, a elwir hefyd yn Fudiad Adfywiad Ysbrydol, wedi bod yn cynnal eu cynhadledd flynyddol Brydeinig yn y Coleg Normal ers nifer o flynyddoedd.

Roedd gan y Beatles eisoes ddiddordeb mewn crefyddau dwyreiniol pan ddaeth Maharishi i Lundain fis Awst 1967.  Gwraig George Harrison, Pattie oedd yr un a welodd y taflenni hysbysebu yn dweud fod Maharishi Mahesh Yogi am fod yn bresennol mewn cyfarfod yn Llundain, a hi a berswadiodd George a’r gweddill i fynychu. Yno, gwahoddodd Maharishi y grŵp i’r gynhadledd a chwrs ym Mangor (a hyn heb i’r trefnwyr ym Mangor wybod dim amdano), ac fe benderfynodd y pedwar ymuno â’r gynhadledd, a oedd eisoes wedi cychwyn.

Yma ym Mangor, clywodd Mr Iorwerth Roberts, gohebydd y Daily Post am yr ymweliad, a rhoddodd wybod i Mr Gwyn Thomas, Bwrsar y Coleg Normal fod y Beatles ar eu ffordd, ynghyd a’u ffrindiau Marianne Faithfull a Mick Jagger.  Trefnodd Mr Thomas i groesawu’r gwesteion enwog yn fflatiau’r wardeiniaid, ac i ymdopi â’r  llu o newyddiadurwyr a chefnogwyr a fyddai’n siŵr o’u dilyn.

Roedd blwyddyn wedi mynd heibio ers cyngerdd byw olaf y Beatles yn San Francisco ac roedd  ymddangosiadau cyhoeddus ganddynt yn mynd yn gynyddol brin. Felly, pan ledaenodd y newyddion, roedd gorsaf Euston dan ei sang gyda chefnogwyr ar gyfer ymadawiad y trên y disgrifiodd y Daily Mail fel y ‘Mystical Special’, ond a oedd yn fwy anniddorol ar yr amserlen fel y trên 3.15 i Gaergybi. Cymaint oedd nifer y cefnogwyr yno, fe gamgymerwyd Cynthia Lennon fel cefnogwr gan un plismon ac ni chafodd ymuno â’r trên!

Roedd croeso'r un mor wresog a niferus yn eu disgwyl ym Mangor ar y nos Wener.

Ddydd Sadwrn fe drefnwyd cyfarfod cyhoeddus yn Neuadd John Phillips y Brifysgol, ynghyd â chynhadledd i’r wasg, lle llwyddodd dau fachgen ysgol mentrus i gael mynediad drwy gogio bod yn newyddiadurwyr!

Roedd Brian Epstein, rheolwr y Beatles wedi bod yn bresenoldeb cyson yn eu bywydau, ac roedd wedi bwriadu ymuno â hwy ddydd Llun.

Gellir dadlau mai’r digwydd a newidiodd ffawd y Beatles fel grŵp oedd marwolaeth Epstein. Unwaith y torrodd y newyddion am hyn, ar ddydd Sul y penwythnos hwnnw ym Mangor, yn amlwg, roedd mwy o ddiddordeb yn y Beatles a’u hymateb i’r newyddion.

Cafodd Epstein ei ddisgrifio gan Paul McCartney a’r cynhyrchydd George Martin fel y ‘pumed Beatle’ ac mae llawr o lwyddiant y grŵp yn cael ei briodoli iddo. Fe newidiodd delwedd y grŵp ac roedd yn gyfrifol am ennill contract recordio o bwys cyntaf y grŵp.  Roedd yn ymwneud yn agos â gweithgareddau’r grŵp, ac roedd yn teithio gyda nhw ar eu teithiau ar draws y byd, gan edrych ar ôl eu delwedd gyhoeddus a’u materion ariannol.

‘Gellir olrhain cychwyn diddymiad y grŵp i farwolaeth Epstein,’ esbonia’r Athro Chris Collins, Pennaeth Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Bangor. ‘Fel gŵr busnes profiadol a mentor artistig, ef oedd yr un a oedd wedi llywio’r Beatles trwy sawl storm. Hebddo, dechreuodd y Beatles golli eu pwrpas cyffredin ac, yn y pendraw, gwahanu i ddilyn eu diddordebau eu hunain.”

Yn ddiweddarach, datgelodd archwiliad post mortem bod Brian Epstein wedi marw o orddos o dabledi cysgu. Cofnodwyd y farwolaeth yn swyddogol fel un ddamweiniol.

Yn fuan wedi derbyn newyddion am farwolaeth Epstein, penderfynodd y Beatles dorri eu harhosiad ym Mangor yn fyr. Cyn gadael, rhoddodd y Beatles gyfweliad i Derek Bellis o gwmni teledu Harlech Television (bellach yn rhan o ITN), a ofynnodd iddynt am eu teimladau, ac am y cwnsela a roddwyd iddynt gan Maharishi.  Darlledwyd y cyfweliad o amgylch y byd, ond fe ddigwyddodd yma ym Mangor.

Yma, mae myfyrwyr cerdd yn cael eu cyflwyno i’r Beatles a’u cerddoriaeth o fewn cyd-destun cerddoriaeth yr ugeinfed ganrif, fel rhan o fodiwl craidd Astudiaeth Cerddoriaeth Blwyddyn 1 (WXM-1001 a WXM1002). Mae’r Athro Chris Collins a Dr John Cunningham hefyd yn dysgu modiwlau blwyddyn 2 a 3 ar y Beatles WXM2160 a WXM3160), lle maent yn astudio cerddoriaeth a recordiadau’r grŵp drwy archwilio cyd-destun y cynnwys hanesyddol a bywgraffiadol, yn ogystal â chynnig cyfres o fframweithiau beirniadol a dadansoddol er mwyn cynnig dealltwriaeth fwy manwl o’r caneuon.

Dyddiad cyhoeddi: 16 Awst 2017

Hafan

  • Newyddion
    • Newyddion Cyfredol
    • Archif Newyddion
    • Digwyddiadau
Hafan

Dilynwch Ni

  • Twitter
  • Facebook
  • Instagram
  • Youtube
  • LinkedIn

Prifysgol Bangor

Bangor, Gwynedd, LL57 2DG, UK

+44 (0)1248 351151

Cysylltwch â Ni

Ymweld â’r Brifysgol

Mapiau a Chyfarwyddiadau Teithio

Polisi

  • Cydymffurfiaeth Gyfreithiol
  • Datganiad Deddf Caethwasiaeth Modern 2015
  • Datganiad Hygyrchedd Prifysgol Bangor
  • Polisi Iaith Gymraeg
  • Preifatrwydd a Chwcis
Map

Mae Prifysgol Bangor yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565

© 2020 Prifysgol Bangor