Sgipiwch i’r prif gynnwys
Home

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
  • English
Fy ngwlad:

Main Menu

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
Fy ngwlad:

Search

Close

Breadcrumb

  • English

Rhannwch y dudalen hon
  • Twitter
  • Facebook
  • LinkedIn

Helpu cwmni lleol sydd wedi datblygu ac ennill y farchnad ar gyfer cynnyrch awyr agored

Derek Ryden, Rheolwr Cyfarwyddwr Blizzard Protection Systems cyf.: Llun drwy garedigrwydd y Daily PostDerek Ryden, Rheolwr Cyfarwyddwr Blizzard Protection Systems cyf.: Llun drwy garedigrwydd y Daily Post

Rhyw ddegawd yn ôl, yr hyn oedd ar gael i fynyddwyr, pobol yn teithio i wledydd efo tywydd eithafol o oer, neu yn wir, unrhyw un a oedd yn ymgymryd â gweithgareddau awyr agored i’w ddefnyddio mewn argyfwng oedd bagiau ‘bivvy’ polythen neu 'flanced ofod'. Mae'r rhain, ar y gorau, yn darparu haen ychwanegol yn erbyn dŵr a gwynt.

Bellach, diolch i ddatblygiad Reflexcell ™,  mae cwmni Blizzard Protection Systems Cyf, sydd wedi’i leoli ym Methesda, yn arwain y farchnad mewn cynnyrch sy’n helpu pobol i oroesi yn yr awyr agored. Mae’r cwmni, sydd wedi ennill gwobrwyon, yn allforio o amgylch y byd. Ymhlith eu cwsmeriaid mae lluoedd arfog Yr Unol Daleithiau, Awstralia, Y Ffindir, Yr Almaen, Yr Iseldiroedd a Norwy, Yr Heddlu Norwyaidd, Timau Achub Mynydd RAF, Ambiwlans Awyr Y Swistir ac asiantaethau cymorth trychineb yn ogystal â'r farchnad hamdden awyr agored.

Mae'r cwmni wedi tyfu o fod yn 'ddiwydiant bwthyn' i arwain y byd yn ei farchnad, gyda phencadlys y cwmni ym Methesda bellach yn cyflogi 23 o bobl a throsiant o £2.5 miliwn eleni.

Roedd  Rheolwr Cyfarwyddwr y cwmni ac entrepreneur a ddyfeisydd, Derek Ryden,  yn ymwybodol fod ganddo gynnyrch da. Fodd bynnag, mae cydweithio efo arbenigwyr yn Ysgol Chwaraeon, Iechyd a Gwyddorau Ymarfer ym Mhrifysgol Bangor wedi ei alluogi i werthfawrogi’n union pa mor effeithlon ydy’r cynnyrch mewn gwirionedd. Mae’r wybodaeth wedi bod o fudd i’r cwmni marchnata’u cynnyrch yn fwy effeithiol.

Drwy gydweithio efo Dr Sam Oliver a Jenny Brierley, myfyrwraig PhD yng Ngrŵp  Ymchwil Eithafion yr Ysgol, mae Derek wedi comisiynu ymchwil sy'n mesur yn union pa mor effeithiol yw'r deunydd arloesol wrth gyfeirio gwres sy’n dianc o’r corff yn ôl at y corff, gan atal neu ohirio datblygiad hypothermia mewn tywydd eithafol.

"Mae rhaid i’n cynnyrch weithio dan amodau anrhagweladwy. Rydym wedi cael adroddiadau am ba mor dda maent wedi gweithio o dan amodau eithafol, ond nid yw'r rhain yn darparu data dilys. Drwy weithio'n agos efo gwyddonwyr y Brifysgol  rydym wedi cynllunio arbrofion i ddarparu data gwyddonol i ddilysu effeithiolrwydd ein cynnyrch," esboniodd Derek Ryden.

"Mae ymchwilwyr y Brifysgol yn gallu dylunio pethau'n llawer mwy gwyddonol- unwaith mae’r ymchwil wedi’i gyhoeddi, mae ar gael i eraill, ac i gwmnïau eraill mesur eu cynnyrch eu hunain yn ei herbyn," ychwanegodd.

Jenny Brierley yn cyflwyno'i gwaith ymchwil ar ffurf poster mewn cynhadleddJenny Brierley yn cyflwyno'i gwaith ymchwil ar ffurf poster mewn cynhadleddPenodwyd Jenny Brierley myfyriwr ôl-raddedig i brosiect arbennig PhD, lle mae'n cynnal ymchwil a gynlluniwyd gan y cwmni a'r Brifysgol. Mae darn mawr o waith ymchwil a gwblhawyd yn ddiweddar wedi dangos bod manteision i gynnyrch Blizzard Protection Survival Products dros fagiau polythen traddodiadol.

"Roedd yn hen bryd gwneud yr ymchwil. Mae pobl wedi bod yn holi ni am fanylion -ac mae  cael y wybodaeth wedi bod o gymorth mawr gyda'n marchnata a gwerthiannau. Heb gael at arbenigedd o fewn y Brifysgol drwy'r rhaglen KESS, ni fyddem wedi gallu fforddio'r costau llawn ymchwil o'r fath," meddai Derek Ryden.

Cynhaliwyd yr ymchwil gyda Phrifysgol Bangor o dan  raglen KESS (Sgiliau ar gyfer yr Economi Wybodaeth). Nod KESS yw darparu i ddiwydiannau’r cymorth maent eu hangen i dyfu. Mae'r rhaglen hefyd yn darparu hyfforddiant ymchwil ac addysg ôl-raddedig mewn maes arbenigol i fyfyriwr, sydd wedyn wedi sgiliau gwerthfawr a gwybodaeth.

Graddiodd Jenny Brierley gyda gradd mewn Gwyddorau Chwaraeon o Brifysgol Bangor yn 2009, ac enillodd Ysgoloriaeth PhD KESS.
"Rwyf wedi cael cyfleoedd gwych drwy’r Ysgoloriaeth, nid yn unig i gynnal ymchwil, ond hefyd rwyf wedi cael cyswllt un i un gyda Rheolwr Gyfarwyddwr cwmni byd-eang a chyfleoedd megis siarad am yr ymchwil mewn cynadleddau rhyngwladol. Mae'r ymchwil ei hun hefyd yn rhoi cyfleoedd ymchwil pellach i fyfyrwyr israddedig a MSc ym Mangor.

"Allai’m dweud be dwi eisio gwneud nesaf, a phwy a ŵyr pa gyfleoedd arall fydd yn codi. Mae ’na gymaint o feysydd mae gen i ddiddordeb ynddynt, ond byddwn yn sicr yn hoffi gwneud mwy o waith profi cynnyrch a’u heffaith ar berfformiad.

Dyddiad cyhoeddi: 9 Tachwedd 2011

Hafan

  • Newyddion
    • Newyddion Cyfredol
    • Archif Newyddion
    • Digwyddiadau
Hafan

Dilynwch Ni

  • Twitter
  • Facebook
  • Instagram
  • Youtube
  • LinkedIn

Prifysgol Bangor

Bangor, Gwynedd, LL57 2DG, UK

+44 (0)1248 351151

Cysylltwch â Ni

Ymweld â’r Brifysgol

Mapiau a Chyfarwyddiadau Teithio

Polisi

  • Cydymffurfiaeth Gyfreithiol
  • Datganiad Deddf Caethwasiaeth Modern 2015
  • Datganiad Hygyrchedd Prifysgol Bangor
  • Polisi Iaith Gymraeg
  • Preifatrwydd a Chwcis
Map

Mae Prifysgol Bangor yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565

© 2020 Prifysgol Bangor