Sgipiwch i’r prif gynnwys
Home

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
  • English
Fy ngwlad:

Main Menu

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau Ar-lein
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Prospectws

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn Ysgolion/Colegau Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adolygiad Blynyddol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa’r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda’r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a’r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Cyllid ar gyfer Cydweithio, Ymchwil a Datblygu ac Arloesi
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ymgynghoriaeth, Arbenigedd a Gwybodaeth Arbenigol
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Lleoliadau Myfyrwyr ac Interniaethau Mewn Busnes a Menter
      • Hyfforddiant a Datblygiad Proffesiynol Parhaus
      • Prentisiaethau Gradd
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Cysylltiadau
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Cysylltwch â Ni
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau Ar-lein
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Prospectws

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn Ysgolion/Colegau Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adolygiad Blynyddol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa’r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda’r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a’r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Cyllid ar gyfer Cydweithio, Ymchwil a Datblygu ac Arloesi
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ymgynghoriaeth, Arbenigedd a Gwybodaeth Arbenigol
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Lleoliadau Myfyrwyr ac Interniaethau Mewn Busnes a Menter
      • Hyfforddiant a Datblygiad Proffesiynol Parhaus
      • Prentisiaethau Gradd
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Cysylltiadau
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Cysylltwch â Ni
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
Fy ngwlad:

Search

Close

Breadcrumb

  • English

Rhannwch y dudalen hon
  • Twitter
  • Facebook
  • LinkedIn

Mae aelod o staff Prifysgol Bangor yn y “the toughest foot race on earth”ym mis Ebrill

Mae aelod o staff Prifysgol Bangor yn paratoi i redeg dros 150 o filltiroedd yn y Sahara mewn ras sydd yn cael ei disgrifio fel “the toughest foot race on earth”.

Alan gyda'i ferch, Cara, ar ddiwedd Marathon Eryri eleniAlan gyda'i ferch, Cara, ar ddiwedd Marathon Eryri eleniPenderfynodd Alan Edwards o Gaernarfon, Pennaeth Gwasanaethau Myfyrwyr Rhyngwladol ym Mhrifysgol Bangor, fod yr amser wedi cyrraedd i ymosod ar yr Marathon Des Sables, ar ôl iddo ddarllen erthygl amdano nôl yn 2005. Bydd yn un o 900 o gystadleuwyr sy'n cymryd rhan yn yr her eithafol ym Mis Ebrill a bydd gofyn iddo redeg 156 o filltiroedd mewn 6 diwrnod, a hynny yn niffeithwch y Sahara ym Morocco - mewn tymheredd a all gyrraedd 45 gradd Celsius!

Dywedodd Alan, sydd yn wreiddiol o'r Bala: “Mae'n rhaid i ni fod yn hollol hunangynhaliol yn ystod y 6 diwrnod gan gario ein holl offer ar ein cefnau mewn rycsac. Mae hyn yn cynnwys bwyd, dŵr, offer coginio, offer cysgu, dillad a phecyn cymorth cyntaf (gan gynnwys pwmp 'anti-venom' rhag ofn i ni gael brathiad gan scorpionau neu nadroedd!) Yr unig gefnogaeth sydd ar gael yw bod y trefnwyr yn gosod pebyll ar ddiwedd pob dydd a bod gwasanaeth meddygol brys ar gael mewn argyfwng.”

Mi fydd Alan yn un o 250 o gystadleuwyr o Brydain a fydd yn hedfan i Foroco ddiwedd mis Mawrth ac mae’n bwriadu gwisgo draig goch ar ei het, gan obeithio denu cystadleuwr arall o Gymru. Mi fydd yn cychwyn y ras ar yr 2ail o Ebrill ac yn gorffen ar y 7fed, ac yn hedfan yn ôl i Gymru ar yr 11eg o Ebrill.

“Roeddwn â diddordeb cymryd rhan ers 2005, ond mae’n anodd sicrhau lle yn y ras gan mai nifer cyfyngedig o lefydd sydd ar gael. Ond ges i’r ‘dewrder’ i roi cais fewn yn 2008 a chael lle ar gyfer ras 2011” meddai Alan.

Ychwanegodd: “Yr ysbrydoliaeth oedd gweld os allwn gwblhau’r fath sialens a gwneud hynny fy hun, yn hytrach na bod yn rhan o dîm, a gweld os oedd gennyf y cryfder meddyliol i ysgogi fy hun i ymarfer cymaint â gorffen y ras.”

Gyda’i ferch, Cara, ddim ond yn 4 mis oed, mae cael amser i ymarfer cyn y ras wedi bod yn her yn ei hunain, esboniodd Alan.

“Rwyf wedi bod yn ymarfer go iawn ers mis Ionawr, hynny yw rhedeg rhwng 50 i 80 milltir yr wythnos. Dwi wedi bod yn ymarfer rhedeg gyda rucsac ar fy nghefn (yn pwyso tua 10kg), rhedeg i gwaith ac yn ôl rhedeg ar dwyni tywod traeth Llanddwyn yn Ynys Môn, a rhedeg oddeutu 50 milltir pob penwythnos.

“Mae hi wedi bod yn anodd iawn cael yr amser i redeg gymaint – yn enwedig gyda boreau a nosweithiau tywyll – a’r tywydd gaeafol/eira ym mis Ionawr! Yn ogystal, mae fy ngwraig a finnau newydd gael hogan fach – y cyntaf –Cara, ac mae hyn wedi gwneud hi’n anodd mynd i redeg am oriau ar ôl gwaith ac ar y penwythnosau – dwi’n teimlo fy mod yn esgeuluso fy nyletswyddau fel tad -er bod Bethan yn gefnogol o’r holl fenter… ac yn meddwl mod i’n wirion!”

Un o’r sialensiau mwyaf yn ystod y ras bydd ymdopi a’r gwres, a all gyrraedd 40 gradd. O fis Mawrth ymlaen, mi fydd Alan yn dechrau ymfarfer mewn Siamber Wres sydd ar gael o fewn yrYsgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer. Mae arbenigwyr o fewn y Brifysgol wedi ei gynghori i ymarfer ychydig wythnosau cyn y ras i’w gorff gael cynefino gyda gwres uchel fel a fydd ym Moroco yn ystod y ras.

Her arall yw ceisio sicrhau nad ydw i’n cael swigod yn y tywod a all gael mewn i’r esgidiau a bod fel ‘sandpaper’ yn rhwbio yn erbyn croen y traed. Swigod yw un o’r prif resymau pam mae cystadleuwyr yn gorfod tynnu allan.

Ond y rhan anoddaf yw rheoli’r bwyta ac yfed yn ystod y ras. Dywedodd Alan: “Mae’n hanfodol  mod i’n bwyta digon o galorïau i adennill yr hyn ‘rwy’n ei golli wrth redeg – er mwyn gwneud yn siŵr bod gennai ddigon o egni i barhau. Mae hwn yn gamp anodd ei gael yn iawn – rhaid cael digon o fwyd a diod addas, ond y mwya’ mae rhywun yn ei gario, y tryma’ yw’r rucsac…a felly mae’n anoddach i redeg!”

Ar ôl dod yn ôl, mae Alan yn edrych ymlaen at wario mwy o amser gyda Cara a Bethan a rhoi ei draed fyny… tan yr her nesaf!

Mi fydd Alan yn codi arian ar gyfer elusen Mencap a gallwch  ei noddi drwy ymweld â’i wefan,  neu trwy e-bostio alanbala37@hotmail.com

Dyddiad cyhoeddi: 22 Chwefror 2011

Hafan

  • Newyddion
    • Newyddion Cyfredol
    • Archif Newyddion
    • Digwyddiadau
Hafan

Dilynwch Ni

  • Twitter
  • Facebook
  • Instagram
  • Youtube
  • LinkedIn

Prifysgol Bangor

Bangor, Gwynedd, LL57 2DG, UK

+44 (0)1248 351151

Cysylltwch â Ni

Ymweld â’r Brifysgol

Mapiau a Chyfarwyddiadau Teithio

Polisi

  • Cydymffurfiaeth Gyfreithiol
  • Datganiad Deddf Caethwasiaeth Modern 2015
  • Datganiad Hygyrchedd Prifysgol Bangor
  • Polisi Iaith Gymraeg
  • Preifatrwydd a Chwcis
Map

Mae Prifysgol Bangor yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565

© 2020 Prifysgol Bangor