Sgipiwch i’r prif gynnwys
Home

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
  • English
Fy ngwlad:

Main Menu

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
Fy ngwlad:

Search

Close

Breadcrumb

  • English

Rhannwch y dudalen hon
  • Twitter
  • Facebook
  • LinkedIn

Mae costau cyfrifon cyfredol yn amrywio'n fawr - ond nid ar draul cwsmeriaid ar incwm isel

Yn ôl adroddiad newydd mae costau cyfrifon cyfredol i gwsmeriaid yn amrywio'n sylweddol, yn dibynnu ar y darparwr a math y cyfrif, ond nid oes unrhyw dystiolaeth bod cwsmeriaid ar incwm isel yn cario'r baich yn anghyfartal, fel yr honnwyd o'r blaen.

Yn How Much Does ‘Free Banking’ Cost? An assessment of the costs of using UK personal current accounts gan Dr John K. Ashton a'r Athro Robert Hudson, a gyllidwyd gan Friends Provident Foundation, defnyddiwyd 17 mlynedd o ddata i benderfynu beth oedd cyfanswm costau defnyddio cyfrif cyfredol i gwsmeriaid, ac a oedd unrhyw draws-sybsideiddio i'w weld rhwng cwsmeriaid gyda lefelau incwm gwahanol.    

Gwelwyd bod cost defnyddio gwasanaethau cyfrif cyfredol yn amrywio'n fawr iawn, gydag ystod eang rhwng y cyfrifon drutaf a'r rhai rhataf.  Roedd costau'n amrywio nid yn unig rhwng darparwyr, ond rhwng gwahanol fathau o gyfrifon.  Yn ogystal, dangosodd yr adroddiad bod costau defnyddio cyfrifon cyfredol wedi codi dros amser ac mai defnyddwyr gorddrafftiau sydd wedi wynebu'r cynnydd mwyaf yn ddiweddar.

Meddai'r Dr John K Ashton, darllenydd mewn bancio ym Mhrifysgol Bangor ac un o awduron yr adroddiad:  "Mae'r dulliau a ddefnyddir i bennu prisiau cyfrifon cyfredol personol wedi cael eu beirniadu'n aml yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac felly roeddem eisiau edrych faint yn union mae cyfrifon cyfredol yn ei gostio i gwsmeriaid ac a oes tystiolaeth bod yna draws-sybsideiddio dosbarthiadol rhwng cwsmeriaid ar incwm isel a chwsmeriaid eraill.

"Dangosodd ein gwaith tra bod costau cyfrifon cyfredol yn amrywio'n fawr, nad oes unrhyw dystiolaeth o draws-sybsideiddio er anfantais i bobl ar incymau is."

Banciau'r stryd fawr oedd y darparwyr drutaf drwodd a thro, er bod eu cyfrifon cyfredol yn cynnig mwy o wasanaethau talu ac roedd modd mynd atynt drwy fwy o sianelau dosbarthu.  Cymdeithasau adeiladu a chyfeillgar oedd y darparwyr rhataf.  Gwelwyd mai'r mathau drutaf o gyfrifon cyfredol personol oedd cyfrifon cyfredol lle codir ffi am y pecyn cyfan, a hefyd cyfrifon cyfredol a elwir yn rhai 'bancio am ddim'. 

Am y tro cyntaf yn y wlad hon fe wnaeth yr astudiaeth gyfrifo costau cyfrifon cyfredol gan ddefnyddio costau gweladwy, megis ffioedd, a chostau cudd, megis yr effaith ariannol ar gwsmeriaid o ganlyniad i gael ychydig neu ddim llog ar eu hadneuon, a chodi cyfraddau uwch am orddrafftiau nag y mae'r banciau'n ei godi ar eu darpariaethau benthyca eraill.

O ran y pwnc llosg a oes yna draws-sybsideiddio rhwng cwsmeriaid gyda gwahanol incymau, gwelwyd bod hynny'n fater o sut yr amcangyfrifir costau.   Mewn achosion lle mai dim ond y gorddrafft a ffioedd cyfrifon cyfredol a bwysleisiwyd, roedd tystiolaeth o draws-sybsideiddio o gwsmeriaid incwm is i gwsmeriaid eraill.  Fodd bynnag, pan bwysleisiwyd 'cost' lefelau gwael o log a delir ar adneuon mewn cyfrifon cyfredol, nid oedd unrhyw draws-sybsideiddio o'r fath i'w weld, gan mai grwpiau ar incwm uwch sy'n dioddef waethaf o ganlyniad i'r mathau hyn o gostau.

Os oes traws-sybsideiddio'n bodoli o gwbl, mae'n ymddangos ei fod yn deillio o gwsmeriaid ar incwm isel yn cymryd benthyciadau gorddrafft mawr ac am gyfnodau hir, a chwsmeriaid diofal o bob lefel incwm yn crynhoi adneuon mawr yn eu cyfrifon cyfredol a defnyddio gorddrafftiau'n achlysurol.

Mae'r astudiaeth yn argymell mesurau i wneud y farchnad cyfrifon cyfredol personol yn fwy fforddiadwy ac eglur, yn cynnwys symleiddio a safoni costau cyfrifon cyfredol, gwneud cwsmeriaid yn fwy ymwybodol bod gorddrafftiau'n ffordd ddrud o fenthyca, a darparu mwy o wybodaeth am fanteision honedig gwasanaethau ychwanegol sydd i'w cael gyda chyfrifon cyfredol.

Mae'r adroddiad yn galw hefyd am ostyngiad yn nifer y cyfrifon a gynigir er mwyn helpu cwsmeriaid i wneud penderfyniadau, cyfleusterau i drosglwyddo arian yn awtomatig i gyfrifon cadw pan mae gormod yn y cyfrif cyfredol, a mwy o reoliadau cyffredinol ar y farchnad cyfrifon cyfredol.

Meddai Andrew Thompson, Rheolwr Grantiau yn Friends Provident Foundation:    "Mae'n newyddion da nad oes unrhyw dystiolaeth bod cwsmeriaid ar incwm isel yn sybsideiddio cwsmeriaid eraill pan ystyrir costau cudd defnyddio cyfrifon cyfredol.  Fodd bynnag, fel mae'r adroddiad yn ei argymell, mae angen gwneud mwy i wneud costau cyfrifon cyfredol personol yn glir a hawdd eu deall, fel y gall pawb wneud penderfyniadau doeth ynghylch pa gyfrif cyfredol ydi'r un iawn iddyn nhw."

Gellir lawrlwytho'r adroddiad o wefan Friends Provident Foundation:   

http://www.friendsprovidentfoundation.org/how-much-does-free-banking-cost-an-assessment-of-the-costs-of-using-uk-personal-current-accounts

Dyddiad cyhoeddi: 13 Chwefror 2014

Hafan

  • Newyddion
    • Newyddion Cyfredol
    • Archif Newyddion
    • Digwyddiadau
Hafan

Dilynwch Ni

  • Twitter
  • Facebook
  • Instagram
  • Youtube
  • LinkedIn

Prifysgol Bangor

Bangor, Gwynedd, LL57 2DG, UK

+44 (0)1248 351151

Cysylltwch â Ni

Ymweld â’r Brifysgol

Mapiau a Chyfarwyddiadau Teithio

Polisi

  • Cydymffurfiaeth Gyfreithiol
  • Datganiad Deddf Caethwasiaeth Modern 2015
  • Datganiad Hygyrchedd Prifysgol Bangor
  • Polisi Iaith Gymraeg
  • Preifatrwydd a Chwcis
Map

Mae Prifysgol Bangor yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565

© 2020 Prifysgol Bangor