Sgipiwch i’r prif gynnwys
Home

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Rhieni
  • Fy Mangor
  • Swyddi
  • English
Fy ngwlad:

Main Menu

    • Israddedig
      • Cyrsiau A–Y
      • Meysydd Pwnc
      • Sut i Wneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais
      • Gwybodaeth i Ymgeiswyr
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Ehangu Mynediad
      • Astudio Drwy'r Gymraeg
      • Astudio Rhan-Amser
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Prosbectws Poced
      • Calendr Academaidd
    • Ôl-radd Trwy Ddysgu
      • Cyrsiau A-Y
      • Meysydd Pwnc
      • Sut i Wneud Cais
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Addysg Weithredol
      • Cychwyn Mis Ionawr
      • Astudio Rhan-Amser
      • Cyrsiau Byr a DPP
      • Cyrsiau Byr a DPP A-Y
    • Ymchwil Ôl-radd
      • Cyrsiau A-Y
      • Meysydd Pwnc
      • Sut i Wneud Cais
      • Cyllid
      • Yr Ysgol Ddoethurol

    Dod o hyd i Gwrs

    Dyddiau Agored

    Digwyddiad Ôl-raddedig

    Gwybodaeth i Ymgeiswyr

    Taith Rhithiwr

    Archebu Prosbectws Poced

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Taith Rhithiwr
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid
      • Llysgenhadon Myfyrwyr

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Taith Rhithiwr

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Academi Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag

    Dathlu 140 mlynedd

    Darlithoedd Cyhoeddus

    • Dyddiau Agored 2025/26
      • Diwrnod Agored Bach - Ionawr 2026
      • Prif Ddyddiau Agored y Brifysgol
      • Newid / Canslo Ymweliad
    • Paratoi ar gyfer Diwrnod Agored
      • Rhaglen y Diwrnod Agored Bach
      • Sut i Gyrraedd y Diwrnod Agored
      • Parcio Diwrnod Agored
      • Opsiynau Llety
      • Astudio drwy'r Gymraeg
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Cwestiynau i'w Gofyn
      • Meysydd Pwnc Israddedig
      • Bwyd a Diod
      • Cwestiynau Cyffredin
      • Darganfod Bangor a'r Ardal
    • Digwyddiad Ôl-raddedig
      • Mwy o Wybodaeth

    Cofrestru ar Ddiwrnod Agored Bach - Ionawr 2026

    Taith Rithwir

    Map o'r campws

    • Israddedig
      • Cyrsiau A–Y
      • Meysydd Pwnc
      • Sut i Wneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais
      • Gwybodaeth i Ymgeiswyr
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Ehangu Mynediad
      • Astudio Drwy'r Gymraeg
      • Astudio Rhan-Amser
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Prosbectws Poced
      • Calendr Academaidd
    • Ôl-radd Trwy Ddysgu
      • Cyrsiau A-Y
      • Meysydd Pwnc
      • Sut i Wneud Cais
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Addysg Weithredol
      • Cychwyn Mis Ionawr
      • Astudio Rhan-Amser
      • Cyrsiau Byr a DPP
      • Cyrsiau Byr a DPP A-Y
    • Ymchwil Ôl-radd
      • Cyrsiau A-Y
      • Meysydd Pwnc
      • Sut i Wneud Cais
      • Cyllid
      • Yr Ysgol Ddoethurol

    Dod o hyd i Gwrs

    Dyddiau Agored

    Digwyddiad Ôl-raddedig

    Gwybodaeth i Ymgeiswyr

    Taith Rhithiwr

    Archebu Prosbectws Poced

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Taith Rhithiwr
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid
      • Llysgenhadon Myfyrwyr

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Taith Rhithiwr

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Academi Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag

    Dathlu 140 mlynedd

    Darlithoedd Cyhoeddus

    • Dyddiau Agored 2025/26
      • Diwrnod Agored Bach - Ionawr 2026
      • Prif Ddyddiau Agored y Brifysgol
      • Newid / Canslo Ymweliad
    • Paratoi ar gyfer Diwrnod Agored
      • Rhaglen y Diwrnod Agored Bach
      • Sut i Gyrraedd y Diwrnod Agored
      • Parcio Diwrnod Agored
      • Opsiynau Llety
      • Astudio drwy'r Gymraeg
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Cwestiynau i'w Gofyn
      • Meysydd Pwnc Israddedig
      • Bwyd a Diod
      • Cwestiynau Cyffredin
      • Darganfod Bangor a'r Ardal
    • Digwyddiad Ôl-raddedig
      • Mwy o Wybodaeth

    Cofrestru ar Ddiwrnod Agored Bach - Ionawr 2026

    Taith Rithwir

    Map o'r campws

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Rhieni
  • Fy Mangor
  • Swyddi
Fy ngwlad:

Search

Close

Breadcrumb

  • English

Rhannwch y dudalen hon
  • Twitter
  • Facebook
  • LinkedIn

Mae gwres cefnforol yn drech na gwres yr atmosffêr o ran toddi rhew'r môr yn nwyrain Cefnfor yr Arctig

Mae ymchwil newydd yn dangos bod Cefnfor dwyrain yr Arctig wedi gweld lleihad deublyg a mwy yn nhwf rhew'r môr yn y gaeaf dros y degawd diwethaf a hynny oherwydd dylanwad cynyddol gwres o'r tu mewn i'r cefnfor.

Mae fflotiau melyn mawr sy'n gysylltiedig â nifer o synwyryddion gwyddonol yn cael eu gostwng dros ymyl llong yng Nghefnfor yr Arctig. : Llun o System Arsylwi Basnau Nansen ac AmundsenMae fflotiau melyn mawr sy'n gysylltiedig â nifer o synwyryddion gwyddonol yn cael eu gostwng dros ymyl llong yng Nghefnfor yr Arctig. : Llun o System Arsylwi Basnau Nansen ac AmundsenDaeth hynny i'r amlwg mewn astudiaeth ryngwladol, o dan arweiniad Prifysgol Alaska Fairbanks a Sefydliad Meteorolegol y Ffindir ynghyd â Phrifysgol Bangor ac eraill, a ddefnyddiai ddata a gasglwyd gan angorfeydd cefnforol ym Masn Ewrasiaidd Cefnfor yr Arctig o 2003-2018.

Bu'r angorfeydd yn mesur y gwres a ryddhawyd o'r tu mewn i'r cefnfor i ben uchaf y  cefnfor a rhew'r môr yn ystod y gaeaf. Yn 2016-2018 amcangyfrifwyd bod fflwcs y gwres yn 10 watt i bob metr sgwâr, sy'n ddigon i doddi 80-90 centimetr o rew'r môr bob blwyddyn. Mae hynny'n fwy na dwbl yr hyn a amcangyfrifid dros y gaeafau blaenorol.

“Yn y gorffennol, wrth bwyso a mesur cyfraniad yr atmosffêr a'r cefnfor i doddiad rhew'r môr ym Masn Ewrasia, yr atmosffêr oedd yn ben,” meddai’r prif awdur Igor Polyakov, eigionegydd yng Nghanolfan Ymchwil Arctig Ryngwladol UAF ac FMI. “Yn awr am y tro cyntaf mae'r cefnfor ar y blaen. Mae'n newid mawr.”

Ychwanegodd yr Athro Tom Rippeth o Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor, cyd-awdur, sylw pellach, “Mae'r canlyniadau newydd yma'n dangos dylanwad cynyddol ac ymledol gwres o ddŵr yr Iwerydd sy'n mynd i mewn i Gefnfor yr Arctig. Maent hefyd yn awgrymu bod mecanwaith adborth newydd yn cyfrannu at gyflymu colli rhew'r môr.”

Fel rheol, dros ran helaeth o'r Arctig mae haen drwchus o ddŵr oer ffres (haloclin) yn ynysu'r gwres sy'n dod o ddŵr yr Iwerydd oddi wrth wyneb y môr, ac oddi wrth rew'r môr.

Mae'r astudiaeth newydd yma'n dangos bod mewnlifiad annormal o ddŵr heli cynnes o Gefnfor yr Iwerydd yn gwanhau ac yn teneuo’r haloclin gan beri mwy o gymysgu. Yn ôl yr astudiaeth newydd, mae dŵr cynnes o'r Iwerydd bellach yn dod yn llawer agosach at yr wyneb.

“Roedd lleoliad arferol ffin uchaf y dŵr hwnnw yn y rhanbarth oddeutu 150 metr, ond nawr mae’r dŵr hwnnw ar 80 metr,” esboniodd Polyakov.

Mae gwyddonwyr yn paratoi i ddefnyddio angorfeydd cefnforol a ddefnyddir i ddeall dirywiad rhew'r môr yng Nghefnfor dwyrain yr Arctig. : Llun o System Arsylwi Basnau Nansen ac Amundsen.Mae gwyddonwyr yn paratoi i ddefnyddio angorfeydd cefnforol a ddefnyddir i ddeall dirywiad rhew'r môr yng Nghefnfor dwyrain yr Arctig. : Llun o System Arsylwi Basnau Nansen ac Amundsen.Mae proses aeafol naturiol yn cynyddu'r cymysgu hwnnw. Wrth i ddŵr y môr rewi, caiff yr halen ei fwrw allan o'r rhew i'r dŵr. Mae dŵr heli'n drymach ac mae'n suddo. Heb haloclin cryf, mae'r dŵr heli oer yn cymysgu'n llawer mwy effeithlon â dŵr cynnes, yr Iwerydd a hwnnw'n beisio. Yna caiff y gwres ei hel am i fyny, at waelod rhew'r môr, ac mae hynny'n cyfyngu ar faint o rew a all ffurfio yn ystod y gaeaf.

“Mae'r cymysgu sy'n digwydd yn y gaeaf sy’n gysylltiedig â ffurfio rhew'r môr yn lleihau cyfradd twf rhew'r môr yn ddirfawr,” pwysleisiai Polyakov. 

Damcaniaeth Polyakov a'i dîm yw bod gallu'r cefnforoedd i reoli cynnydd y rhew yn y gaeaf yn fecanwaith adborth newydd sy'n ymwneud â cholli rhew'r môr yn yr Arctig. Yn yr adborth hwn, mae dirywiad rhew'r môr a'r gwanhau ar atalfa'r haloclin yn achosi i'r tu mewn i'r cefnfor ryddhau gwres i'r wyneb gan arwain at golli mwy o rew'r môr. Mae'r mecanwaith yn ychwanegu at adborth adnabyddus rhew-albedo - sy'n digwydd pan fydd yr atmosffêr yn toddi rhew'r môr gan greu dŵr agored, sydd yn ei dro'n amsugno mwy o wres, ac yn toddi mwy o rew'r môr.

Pan fydd y ddau fecanwaith adborth yn cyfuno, maent yn cyflymu dirywiad rhew'r môr. Mae adborth gwres y cefnfor yn cyfyngu ar dwf rhew'r môr yn y gaeaf, ac mae'r adborth rhew-albedo'n toddi'r rhew (teneuach) yn rhwydd yn yr haf.

“Wrth iddyn nhw ddechrau gweithio gyda’i gilydd mae’r cyplu rhwng yr atmosffêr, y rhew a'r cefnfor yn mynd yn gryf iawn, yn gryfach o lawer nag y bu,” meddai Polyakov. “Gyda’i gilydd gallant gynnal cyfradd gyflym iawn o doddiad y rhew yn yr Arctig.”

Disgrifiwyd yr ymchwil hwn mewn papur gwyddonol a gyhoeddwyd yn y Journal of Climate.

Cefnogwyd cyfraniad y cyd-awduron Tom Rippeth (Prifysgol Bangor, Y Deyrnas Unedig) a Markus Janout (Sefydliad Alfred Wegener, Yr Almaen) trwy'r Rhaglen Newid Cefnfor yr Arctig (project PEANUTS) a ariennir ar y cyd gan UKRI NERC a'r BMBF.

Dyddiad cyhoeddi: 21 Awst 2020

Hafan

  • Newyddion
    • Newyddion Cyfredol
    • Archif Newyddion
    • Digwyddiadau
Hafan

Dilynwch Ni

  • Twitter
  • Facebook
  • Instagram
  • Youtube
  • LinkedIn

Prifysgol Bangor

Bangor, Gwynedd, LL57 2DG, UK

+44 (0)1248 351151

Cysylltwch â Ni

Ymweld â’r Brifysgol

Mapiau a Chyfarwyddiadau Teithio

Polisi

  • Cydymffurfiaeth Gyfreithiol
  • Datganiad Deddf Caethwasiaeth Modern 2015
  • Datganiad Hygyrchedd Prifysgol Bangor
  • Polisi Iaith Gymraeg
  • Preifatrwydd a Chwcis
Map

Mae Prifysgol Bangor yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565

© 2020 Prifysgol Bangor