Sgipiwch i’r prif gynnwys
Home

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
  • English
Fy ngwlad:

Main Menu

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
Fy ngwlad:

Search

Close

Breadcrumb

  • English

Rhannwch y dudalen hon
  • Twitter
  • Facebook
  • LinkedIn

Mae myfyriwr ôl-radd ym Mhrifysgol Bangor wedi cael ei enwebu am wobr yng Ngŵyl Ffilmiau Bae Caerfyrddin.

Mae Lester Hughes, o Bwllheli, sy'n fyfyriwr hŷn ac yn dad i ddau o blant, newydd ddechrau astudio am ddoethuriaeth mewn ffilm. Mae ei ffilm fer 12 munud, "Waves, Taid & Time", wedi cael ei henwebu am wobr yn y categori arbrofol.  Cyhoeddir enwau’r enillwyr yn ystod yr ŵyl yn Llanelli rhwng 8 a 9 Ebrill.Dywedodd Lester: "Mae Gŵyl Ffilmiau Bae Caerfyrddin yn ŵyl ffilmiau weddol newydd ac mae'n ymfalchïo yn y ffaith ei bod yn annog a chefnogi ffilmiau annibynnol yng Nghymru, Prydain a thu hwnt.

Lester HughesLester Hughes"Pan gefais y neges e-bost yn dweud fy mod wedi cael fy enwebu, doeddwn i ddim yn siŵr sut oeddwn yn teimlo i ddweud y gwir - roeddwn yn llawn cyffro ac yn nerfus yr un pryd ac mae meddwl am bobl hollol ddiarth yn eistedd mewn sinema yn gwylio ffilm a grëwyd gen i yn deimlad hollol swrrealaidd.

"Darn arbrofol ydy'r ffilm ac mae'n canolbwyntio ar ddyn (taid) wrth iddo ddweud straeon am fywyd ei dad a'i daid. Yn ei hanfod, mae'r ffilm yn trafod y bywydau bach, cul sydd gennym i gyd. Mae'r ffilm yn defnyddio Ynys Enlli fel trosiad, gan fod llawer o bobl yn gallu gweld yr ynys o'u cartrefi er nad ydyn nhw erioed wedi bod ar yr ynys.

"Cafodd y ffilm ei gwneud fel rhan o'm gradd Meistr ac mae'n ffilm bersonol iawn. Fy nhaid a ysbrydolodd ffilm - bu'n byw ym Mhen Llŷn ar hyd ei oes yn edrych draw ar Ynys Enlli ond dim ond unwaith erioed y bu yno, pan oedd yn ei chwedegau.

"Pan fu farw, cefais hen gist fôr a oedd yn eiddo i'w dad a dreuliodd ei oes ar y môr. Roedd gennyf ddiddordeb yn y cyfosodiad rhwng tad (fy hen daid) a dreuliodd ei oes ar y môr a mab (fy nhaid) a dreuliodd ei oes ar y tir. Penderfynais dreulio wythnos ar Ynys Enlli a saethais dros 13 awr o ffilm yno.

"Rwy'n ddiolchgar i nifer o bobl yn yr adran am fy helpu - bu Joanna Wright a Mikey Murray yn fentoriaid i mi trwy gydol y broses o wneud y ffilm ac mae hynny wedi rhoi hwb mawr i'm hyder fel cynhyrchydd. Mae fy nyled i Huw Powell hefyd yn fawr iawn am ei gefnogaeth a'i gymorth cyson. Rhwng y tri ohonyn nhw, mae ganddyn nhw brofiad o weithio ar raglenni dogfen, operâu sebon a ffilmiau byr sydd wedi ennill gwobrau BAFTA ac mae hynny o gymorth mawr i'r myfyrwyr."

Ynglŷn â'r Ysgol Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau, dywedodd Lester: "Mae'n adran weddol fach, gydag amrywiaeth fawr o fyfyrwyr sy'n astudio pob math o bethau, yn theori ffilm, perfformio, ysgrifennu i'r sgrin, gwneud ffilmiau a newyddiaduraeth. Oherwydd bod yr adran yn fach, mae'r myfyrwyr yn helpu ei gilydd gyda chynyrchiadau yn y brifysgol a'u cynyrchiadau bach, personol eu hunain ac mae hynny'n golygu bod y myfyrwyr yn gallu defnyddio'r sgiliau maen nhw wedi eu dysgu ar nifer o ffilmiau gwahanol trwy gydol eu hamser yn yr ysgol.

Ynglŷn ag astudio ym Mangor, dywedodd: "Gadewais gartref pan oeddwn yn 18 ac es yn syth i weithio ac rwyf wedi cael llawer o swyddi gwahanol, yn cynnwys llenwi silffoedd mewn siop a rhedeg busnesau fy hun. Fi yw'r hynaf o saith plentyn a doedd mynd i'r brifysgol ddim yn ddewis posib i mi pan adewais yr ysgol. Ugain mlynedd yn ddiweddarach ar ôl priodi, penderfynais wneud cais am le i astudio am radd astudiaethau ffilm. Yn ystod tair blynedd y cwrs roeddwn yn jyglo gofynion y gwaith cwrs, sifftiau nos a babi newydd, a doedd hynny ddim yn hawdd! Ar ôl cael gradd 2.1, cefais gynnig lle ar gwrs MA ffilm ac roeddwn yn ffodus iawn i gael swydd ran-amser yn yr adran hefyd.

Ynglŷn â'r dyfodol, dywedodd Lester:  "Mae'n gyfnod cyffrous iawn yn yr Ysgol Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau. Pan ddechreuais astudio am fy ngradd gyntaf, doedd neb yn gwneud ffilmiau yma ond mae'r adran wedi mynd o nerth i nerth ac mae'r myfyrwyr yn gwneud ffilmiau o ansawdd da yn rheolaidd erbyn hyn.” Mae ôl-raddedigion yr adran wedi bod yn hynod o lwyddiannus eleni ac mae rhai yn eu mysg wedi ennill gwobr yng Ngŵyl Ffres a gwobr gan y "Royal Television Society". Rwy'n teimlo'n ffodus dros ben i weithio ac astudio yn yr adran ac rwy'n bwriadu gweithio'n ddygn ar fy noethuriaeth, parhau i ffilmio a mwynhau'r amgylchedd creadigol unigryw hwn am gyhyd â phosib."

Dyddiad cyhoeddi: 21 Mawrth 2013

Hafan

  • Newyddion
    • Newyddion Cyfredol
    • Archif Newyddion
    • Digwyddiadau
Hafan

Dilynwch Ni

  • Twitter
  • Facebook
  • Instagram
  • Youtube
  • LinkedIn

Prifysgol Bangor

Bangor, Gwynedd, LL57 2DG, UK

+44 (0)1248 351151

Cysylltwch â Ni

Ymweld â’r Brifysgol

Mapiau a Chyfarwyddiadau Teithio

Polisi

  • Cydymffurfiaeth Gyfreithiol
  • Datganiad Deddf Caethwasiaeth Modern 2015
  • Datganiad Hygyrchedd Prifysgol Bangor
  • Polisi Iaith Gymraeg
  • Preifatrwydd a Chwcis
Map

Mae Prifysgol Bangor yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565

© 2020 Prifysgol Bangor