Sgipiwch i’r prif gynnwys
Home

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
  • English
Fy ngwlad:

Main Menu

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
Fy ngwlad:

Search

Close

Breadcrumb

  • English

Rhannwch y dudalen hon
  • Twitter
  • Facebook
  • LinkedIn

Marciau llawn i athrawon Cymru, meddai'r Gweinidog Addysg Kirsty Williams

Mae'r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, wedi bod yn teithio ar draws Cymru dros yr wythnosau diwethaf, gan glywed gan athrawon dan hyfforddiant beth oedd yn eu denu i yrfa o flaen y dosbarth. Yn ddiweddar, bu’n ymweld â Phrifysgol Bangor, gan gyfarfod staff a myfyrwyr yr Ysgol Addysg a Datblygiad Dynol a chynnal sesiwn holi ac ateb ar ymgyrch recriwtio ddiweddaraf Llywodraeth Cymru, Addysgu Cymru.Y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, gyda staff a myfyrwyr yr Ysgol Addysg a Datblygiad DynolY Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, gyda staff a myfyrwyr yr Ysgol Addysg a Datblygiad Dynol

Mae'r ymgyrch ddigidol yn targedu’r graddedigion sydd fwyaf tebygol o fynd i addysgu, gan gynnwys cynorthwywyr addysgu, pobl sy'n ystyried newid gyrfa ac israddedigion sy'n siarad Cymraeg ac yn astudio pynciau blaenoriaeth. 

Mae un o’r astudiaethau achos sy’n ymddangos fel rhan o’r ymgyrch yn canolbwyntio ar brofiadau Vicky Williams, myfyrwraig sy’n dilyn cwrs ôl-radd PGCE Bioleg yn yr Ysgol Addysg a Datblygiad Dynol ym Mhrifysgol Bangor. Yn wreiddiol o Durham ac yn aelod o gymuned y teithwyr, mae bellach yn siarad Cymraeg yn hyderus ac yn edrych ymlaen at sefyll o flaen dosbarth o ddisgyblion.

Meddai Vicky:

“Fe ddes i i Fangor yn wreiddiol i astudio Chwaraeon, Iechyd ac Addysg Gorfforol. Nid yw'n arferol i aelodau o deuluoedd sy'n deithwyr ddilyn gyrfa academaidd, felly mae'n debyg fy mod yn hollol unigryw yn yr ystyr fy mod wedi dod mor bell â hyn, ond rwy'n ei fwynhau gymaint.

Ar ôl i mi raddio, doeddwn i ddim yn rhy siŵr beth roeddwn i eisiau ei wneud nesaf. Gweithiais am gyfnod fel ymgynghorydd colli pwysau yn rhan amser, a roddodd fwy o hyder imi gan fod rhaid imi sefyll o flaen pobl a chyflwyno gwybodaeth a'u helpu. Rwy'n credu bod hynny wedi fy helpu i benderfynu bod yn athro, achos roeddwn wrth fy modd yn defnyddio'r sgiliau hynny.

Es i nôl i'r brifysgol, ond y tro hwn i wneud cwrs TAR. Rwy'n ffodus i allu gwneud fy nghwrs hyfforddi ym Mhrifysgol Bangor am fy mod eisoes wedi syrthio mewn cariad gyda'r ardal fel myfyriwr y tro cyntaf, felly roeddwn yn gwybod mai dyna lle byddwn am ddechrau fy ngyrfa fel athro.

Rwy'n teimlo'n gryf y dylai plant a phobl ifanc gael y profiad gorau posibl yn yr ysgol, i'w helpu nhw yn nes ymlaen yn eu bywydau, ac rwyf am drosglwyddo fy angerdd dros fy mhwnc iddyn nhw, yn enwedig myfyrwyr benywaidd eraill. Mae ymchwil yn dangos bod cysylltiad rhwng plant sy'n astudio pynciau gwyddonol ac aelwydydd lle mae'r fam yn ymddiddori mewn gwyddoniaeth. Ac mae gen i ddyhead i annog teuluoedd i gymryd rhan mewn gwyddoniaeth er mwyn i’r peth ddod yn fwy o ddatblygiad naturiol i bobl ifanc, yn lle bod yn bwnc 'brawychus'.”

Wrth siarad gyda staff a myfyrwyr Prifysgol Bangor yn ystod ei hymweliad, meddai’r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams:

"Rwy'n falch i ddod i Fangor a chwrdd â rhai o'r genhedlaeth nesaf o athrawon sy'n gwneud eu Haddysg Gychwynnol Athrawon yn y Brifysgol – mae eu brwdfrydedd yn bleser i'w weld!  Fel y Gweinidog Addysg, mae hefyd yn werthfawr iawn i mi glywed gan athrawon dan hyfforddiant yn uniongyrchol a deall beth wnaeth eu denu i'r proffesiwn.

"Mae'n gyfnod cyffrous i fod yn athro yng Nghymru. ’Rwy’n annog unrhyw un sy'n ystyried gyrfa mewn addysgu i edrych ar y cyfleoedd sydd ar gael, i weld a oes gennych yr hyn sydd ei angen i lwyddo yn yr yrfa yma sy’n dod â chymaint o foddhad.”

Gyda chymhellion ariannol yn cael eu cynnig gan Lywodraeth Cymru a lleoedd ar gael gan ddarparwyr addysg athrawon ledled Cymru, mae amser o hyd i ystyried hyfforddiant athrawon yng Ngogledd Cymru eleni, sy’n cael ei ddarparu gan bartneriaeth arloesol CaBan.

Dyddiad cyhoeddi: 7 Mehefin 2019

Hafan

  • Newyddion
    • Newyddion Cyfredol
    • Archif Newyddion
    • Digwyddiadau
Hafan

Dilynwch Ni

  • Twitter
  • Facebook
  • Instagram
  • Youtube
  • LinkedIn

Prifysgol Bangor

Bangor, Gwynedd, LL57 2DG, UK

+44 (0)1248 351151

Cysylltwch â Ni

Ymweld â’r Brifysgol

Mapiau a Chyfarwyddiadau Teithio

Polisi

  • Cydymffurfiaeth Gyfreithiol
  • Datganiad Deddf Caethwasiaeth Modern 2015
  • Datganiad Hygyrchedd Prifysgol Bangor
  • Polisi Iaith Gymraeg
  • Preifatrwydd a Chwcis
Map

Mae Prifysgol Bangor yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565

© 2020 Prifysgol Bangor