Sgipiwch i’r prif gynnwys
Home

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
  • English
Fy ngwlad:

Main Menu

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
Fy ngwlad:

Search

Close

Breadcrumb

  • English

Rhannwch y dudalen hon
  • Twitter
  • Facebook
  • LinkedIn

Myfyriwr a enillodd lu o wobrau yn graddio

Mae myfyriwr lleol wedi llwyddo i  ennill  cyfanswm trawiadol o chwe gwobr yn ystod ei gyfnod ym Mhrifysgol Bangor dros y pedair blynedd diwethaf.

Graddiodd cyn-ddisgybl o Ysgol David Hughes, Daniel Congrave, 22, o Fiwmares, Ynys Môn yr wythnos hon gyda gradd Meistr mewn Cemeg (MChem).

Dyfarnwyd gwobr Dr John Robert Jones i Daniel. Rhoddir  y wobr hon i dri o'r graddedigion gorau ar draws pob pwnc yn y Brifysgol, a derbyniodd wobr o £800. Enillodd hefyd y wobr AMRI MChem o £250, sy’n wobr flynyddol  i’r  myfyriwr blwyddyn olaf gorau ar y cwrs MChem.

Yn ôl yn 2010, enillodd Daniel Ysgoloriaeth Rhagoriaeth Prifysgol Bangor o £3,500;  gwobr flynyddol a gyflwynir i fyfyrwyr blwyddyn gyntaf a gafodd y graddau Lefel A gorau. Dilynwyd hyn yn fuan gyda  Gwobr Cyflawniad  yr Ysgol Gemeg o £500 yn 2011. Cyflwynir  y wobr yma i'r myfyriwr blwyddyn gyntaf  sydd wedi  cael y canlyniadau arholiad gorau yn ystod y semester cyntaf. Ar ddiwedd ei flwyddyn gyntaf, fe enillodd  Wobr Canmlwyddiant Arthur Morris o £50, a ddyfernir i'r myfyriwr cemeg gorau yn y flwyddyn gyntaf. Ar ddiwedd ei ail flwyddyn, enillodd Daniel Wobr Evan Roberts o £100, gwobr flynyddol a gyflwynir i'r myfyriwr cemeg gorau yn yr ail flwyddyn.

Meddai  Daniel, a oedd yn teimlo cryn ryddhad wrth raddio: "Mae wedi bod yn bedair blynedd hir gan fy mod wedi cymryd rhan mewn interniaeth  haf yn yr Ysgol Gemeg ar ddiwedd  fy ail a thrydedd flwyddyn. Drwy gyfuno hyn â gofynion adolygu dros y Pasg a'r Nadolig, nid wyf wedi cael cyfle i ymlacio yn iawn ers tro. Mae'n braf cael egwyl cyn i mi ddechrau fy PhD ym mis Hydref, er ​​y byddaf yn gobeithio cael cyfle i wneud rhywfaint o ymchwil wirfoddol yn yr Ysgol ym mis Awst.

"Tra yn yr ysgol  roedd gennyf ddiddordeb mewn gwneud pethau,  ac roeddwn yn sicr y byddwn  eisiau bod yn beiriannydd wedi i mi fynd yn hŷn. Fodd bynnag, roeddwn yn gwneud yn dda mewn mathemateg a'r gwyddorau, felly penderfynais  astudio cemeg yn y brifysgol. Dwi wrth fy modd efo’r pwnc am ei fod yn ymwneud â pheirianneg , ond ar lefel foleciwlaidd.

"Dewisais Bangor oherwydd bod maint y dosbarthiadau yn eithaf bach o’i chymharu â phrifysgolion eraill.  Fe wnaeth y dosbarthiadau bach fy ngalluogi i ddatblygu perthynas fwy personol gyda'r staff a rhoi mwy o gyfle i ofyn cwestiynau ac ymestyn fy ngwybodaeth.

"Roeddwn yn gweithio dros yr haf yn ystod fy ail a'r drydedd flwyddyn yn y Brifysgol i gael profiad ymchwil. Credaf fod hyn yn amhrisiadwy, ac roedd yn braf iawn cael fy nhalu am rywbeth rwyf yn ei fwynhau. Ar ddechrau fy mhedwaredd flwyddyn roeddwn hefyd yn helpu myfyrwyr o’r drydedd flwyddyn yn y labordy yn ystod fy amser rhydd.

"Yn ystod haf yr ail flwyddyn, enillais ysgoloriaeth haf cronfa ymddiriedolaeth cemeg dadansoddol. Fe wnes i wneud rhywfaint o ymchwil cemeg amgylcheddol diddorol i geisio datblygu synhwyrydd electrogemegol i fesur crynodiad ffosffad mewn samplau dŵr.

"Dechreuais fy mhroject ymchwil bedwaredd flwyddyn yr haf diwethaf, a oedd yn cynnwys y synthesis o ddeunyddiau organig  i’w defnyddio  mewn electroneg;  er enghraifft, transistorau, arddangosfeydd, goleuadau fel OLEDs a ffotofoltäig organig neu baneli solar. Roeddwn wrth fy modd gyda’r ymchwil yma a byddaf yn parhau ar hyd llwybr tebyg yn  fy ngwaith PhD ym Mhrifysgol Durham ym mis Hydref.

"Uchafbwynt fy nghwrs oedd y flwyddyn neu well ddiwethaf  pan gefais gyfle i wneud  ymchwil i electroneg organig.  Hwn yn sicr yw’r maes cemeg sydd fwyaf wrth fy modd ac 

rwyf yn edrych ymlaen at y cyfle i barhau fy ngwaith o fewn y ddisgyblaeth yn ystod fy PhD.

"Rwy'n teimlo na fyddwn wedi gallu cyfrannu at yr ymchwil na llwyddo i'r fath raddau heb gefnogaeth y staff academaidd drwy gydol fy nghwrs. Roeddent   yn gefnogol iawn ac yn awyddus i drosglwyddo eu gwybodaeth."

Yn dilyn ei enwebu gan  oruchwyliwr ei  broject pedwaredd flwyddyn, mae Daniel wedi cael cynnig  mynd i  Gynhadledd y Byd Gwyddoniaeth - Israel (WSCI) yn Jerwsalem ddiwedd mis Awst. Mae'r gystadleuaeth am lefydd yn uchel iawn  ac mae’n gyfle i wyddonwyr ifanc gael darlithoedd gan dros 20 sydd wedi ennill Gwobr Heddwch Nobel. Dim ond 13 myfyriwr o wledydd Prydain i gyd fydd yn mynd yno, yn cynrychioli’r holl ddisgyblaethau gwyddonol.

Dyddiad cyhoeddi: 10 Gorffennaf 2014

Hafan

  • Newyddion
    • Newyddion Cyfredol
    • Archif Newyddion
    • Digwyddiadau
Hafan

Dilynwch Ni

  • Twitter
  • Facebook
  • Instagram
  • Youtube
  • LinkedIn

Prifysgol Bangor

Bangor, Gwynedd, LL57 2DG, UK

+44 (0)1248 351151

Cysylltwch â Ni

Ymweld â’r Brifysgol

Mapiau a Chyfarwyddiadau Teithio

Polisi

  • Cydymffurfiaeth Gyfreithiol
  • Datganiad Deddf Caethwasiaeth Modern 2015
  • Datganiad Hygyrchedd Prifysgol Bangor
  • Polisi Iaith Gymraeg
  • Preifatrwydd a Chwcis
Map

Mae Prifysgol Bangor yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565

© 2020 Prifysgol Bangor