Sgipiwch i’r prif gynnwys
Home

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
  • English
Fy ngwlad:

Main Menu

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
Fy ngwlad:

Search

Close

Breadcrumb

  • English

Rhannwch y dudalen hon
  • Twitter
  • Facebook
  • LinkedIn

Myfyriwr y gyfraith am feicio ar draws yr Iseldiroedd i gasglu arian at elusen

Mae myfyriwr o Brifysgol Bangor sy'n dioddef oddi wrth gyflwr genetig prin am wneud taith feicio galed 182 milltir at elusen.

Mae Christian Bolton-Edenborough, o Potters Bar yn Swydd Hertford, yn dioddef oddi wrth Lawrence Moon Bardet Biedl Syndrome, sy'n effeithio ar ei olwg ac a fydd yn ei wneud yn ddall yn y diwedd. 

Mae'r cyflwr yn effeithio ar un babi ym mhob 100,000 a gall achosi symptomau eraill hefyd megis gordewdra, abnormaledd difrifol o'r arennau ac organau eraill, problemau gyda chlywed ac arogli, bysedd a bodiau ychwanegol ar y dwylo a'r traed, ac anawsterau dysgu a achosir gan ddatblygiad corfforol hwyr.

I godi ymwybyddiaeth o'r syndrom prin hwn, sy'n cael ei etifeddu, bydd y myfyriwr y Gyfraith yn ymuno â 4 o feicwyr eraill ar Ddydd Llun, 27 Gorffennaf, i feicio 182 milltir ar draws yr Iseldiroedd mewn tri diwrnod.Bydd Christian Bolton-Edenborough yn beicio 182 milltir ar gyfer elusen sy'n agos at ei galonBydd Christian Bolton-Edenborough yn beicio 182 milltir ar gyfer elusen sy'n agos at ei galon

"Dwi'n teimlo'n gyffrous iawn ynghylch cymryd rhan yn y daith a gwneud cyfraniad o bwys i godi ymwybyddiaeth ynghylch y cyflwr yma a chasglu arian tuag at ganfod gwellhad iddo yn y dyfodol," meddai Christian, sy'n 21 oed ac a fydd yn beicio er budd y Laurence-Moon-Bardet-Biedl Society. "Dechreuais ymarfer ddechrau Tachwedd gyda'r bwriad o wella fy stamina i fedru beicio am bellterau hirach yn gyflymach. Dwi wedi llwyddo i wneud hynny drwy feicio pellterau rhwng 40 a 70 milltir a rhedeg tair i bum milltir."

Fel myfyriwr ar gwrs gradd LLB ym Mangor, mae Christian wedi wynebu rhai sialensiau o ganlyniad i'r cyflwr. "Mae methu â gweld llythrennau a geiriau'n glir oni bai eu bod yn agos iawn wedi gwneud astudio am gyfnodau hir yn anodd iawn ar brydiau, ac mae gwynder y papur mewn gwerslyfrau yn codi cur pen i mi'n aml," eglurodd Christian. "Arholiadau a rheoli amser yw'r brif sialens arall. Gyda fy ngolwg yn dirywio'n araf, mae gallu darllen a dehongli'r geiriau a senarios cwestiynau problem mewn arholiadau wedi bod yn gryn her." 

Mae Uned Anabledd y Brifysgol wedi bod yn allweddol yn helpu Christian i ddod dros yr anawsterau hyn, drwy drefnu amser ychwanegol iddo mewn arholiadau, ei alluogi i fenthyca llyfrau am gyfnodau hirach a darparu papurau arholiad gyda'r testun wedi'i chwyddo. Mae hefyd yn cydnabod y gefnogaeth y mae wedi'i chael gan ei ddarlithwyr yn y gyfraith: "Mae dau aelod staff wedi bod yn arbennig o gefnogol.  Y cyntaf yw Dr Yvonne McDermott-Rees a fu'n goruchwylio fy nhraethawd hir eleni. Tra oeddwn yn ysgrifennu'r traethawd hir, rhoddodd gefnogaeth a chanllawiau gwych i mi o ran fframwaith y gwaith, ond yn ogystal rhoddodd anogaeth i mi hefyd wrth i mi frwydro gyda fy nghyflwr.

"Yr ail aelod staff yw Mr Stephen Clear, fy nhiwtor personol. Ers i mi gael y diagnosis yma fis Hydref, mae wedi bod yn hynod gefnogol, gan ei gwneud yn bosibl i mi fynd i apwyntiadau gydag arbenigwr yn Llundain a gohirio arholiadau pan oedd angen."

Mae Christian wedi gwneud y gorau o'i gyfnod ym Mhrifysgol Bangor, gan gymryd rhan mewn gweithgareddau allgwricwlaidd megis project 'Cyfraith y Stryd' Ysgol y Gyfraith, a chynrychioli'r brifysgol ym Mhencampwriaeth Agored Pŵl a Snwcer Prifysgolion Cymru yn gynharach eleni, fel rhan o'r tîm cyntaf o Fangor i gyrraedd y rownd derfynol. Dywed bod y cydbwysedd hwn rhwng astudio academaidd a gweithgareddau cymdeithasol wedi ei drawsnewid i'r cyfreithiwr ifanc hyderus a welir heddiw: "Dwi wedi dod ymlaen yn rhyfeddol o ran fy hyder, gan gyflawni pethau nad oeddwn yn teimlo fyddai'n bosibl a gwneud ffrindiau oes."

Gymaint yw ei ymdeimlad newydd o hyder fel ei fod yn bwriadu dilyn cwrs Meistr yng Nghyfraith y Môr, gyda'r bwriad o fynd yn gyfreithiwr neu efallai fynd ymlaen i yrfa yn y byd academaidd.

Ei her fawr nesaf yw'r daith feicio a chyda dim ond wythnos i fynd, mae eisoes wedi mynd heibio ei darged o £300.  Ond mae Christian eisiau codi pob ceiniog bosibl i LMBBS. "Bydd yr arian a godir yn cael ei ddefnyddio i helpu'r elusen yma, sy'n cael ei chyllido o ffynonellau annibynnol, i barhau i ddarparu rhwydwaith anhygoel o gefnogaeth i ddioddefwyr. Mae hyn yn cynnwys eu clinigau blynyddol ym Mirmingham a Llundain, lle mae arbenigwyr o bob maes meddygol sy'n gysylltiedig â'r cyflwr yn dod at ei gilydd i roi gofal a sylw meddygol o ansawdd uchel i ddioddefwyr.

"Mae arnynt angen adnoddau hefyd i wneud ymchwil. Ar hyn o bryd nid oes unrhyw driniaeth i'r cyflwr, ond mae yna arwyddion y gellir cynhyrchu cyffur posibl wedi ei seilio ar therapi genynnau a fydd yn ei arafu."

Mae her Christian yn dechrau 27 Gorffennaf. I ddarllen mwy am ei ymgyrch neu i gyfrannu, ewch i http://www.justgiving.com/Christian-Bolton-Edenborough

Dyddiad cyhoeddi: 21 Gorffennaf 2015

Hafan

  • Newyddion
    • Newyddion Cyfredol
    • Archif Newyddion
    • Digwyddiadau
Hafan

Dilynwch Ni

  • Twitter
  • Facebook
  • Instagram
  • Youtube
  • LinkedIn

Prifysgol Bangor

Bangor, Gwynedd, LL57 2DG, UK

+44 (0)1248 351151

Cysylltwch â Ni

Ymweld â’r Brifysgol

Mapiau a Chyfarwyddiadau Teithio

Polisi

  • Cydymffurfiaeth Gyfreithiol
  • Datganiad Deddf Caethwasiaeth Modern 2015
  • Datganiad Hygyrchedd Prifysgol Bangor
  • Polisi Iaith Gymraeg
  • Preifatrwydd a Chwcis
Map

Mae Prifysgol Bangor yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565

© 2020 Prifysgol Bangor