Sgipiwch i’r prif gynnwys
Home

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
  • English
Fy ngwlad:

Main Menu

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau Ar-lein
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Prospectws

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn Ysgolion/Colegau Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adolygiad Blynyddol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa’r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda’r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a’r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Cyllid ar gyfer Cydweithio, Ymchwil a Datblygu ac Arloesi
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ymgynghoriaeth, Arbenigedd a Gwybodaeth Arbenigol
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Lleoliadau Myfyrwyr ac Interniaethau Mewn Busnes a Menter
      • Hyfforddiant a Datblygiad Proffesiynol Parhaus
      • Prentisiaethau Gradd
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Cysylltiadau
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Cysylltwch â Ni
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau Ar-lein
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Prospectws

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn Ysgolion/Colegau Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adolygiad Blynyddol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa’r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda’r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a’r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Cyllid ar gyfer Cydweithio, Ymchwil a Datblygu ac Arloesi
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ymgynghoriaeth, Arbenigedd a Gwybodaeth Arbenigol
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Lleoliadau Myfyrwyr ac Interniaethau Mewn Busnes a Menter
      • Hyfforddiant a Datblygiad Proffesiynol Parhaus
      • Prentisiaethau Gradd
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Cysylltiadau
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Cysylltwch â Ni
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
Fy ngwlad:

Search

Close

Breadcrumb

  • English

Rhannwch y dudalen hon
  • Twitter
  • Facebook
  • LinkedIn

Myfyriwr ym Mhrifysgol Bangor yn gwerthu hawliau ffilm ei lyfr llwyddiannus

Ashwin SanghiAshwin SanghiMae myfyriwr sy’n astudio ym Mhrifysgol Bangor newydd werthu’r hawliau ffilm i’w ail nofel. Bydd  llyfr Ashwin Sanghi Chanakya’s Chant yn cael ei addasu’n ffilm gan UTV Motion Pictures.

Disgrifir y llyfr fel llyfr hanesyddol a gwleidyddol cyffrous, ac o fewn pythefnos i’w ryddhau yn Ionawr 2011, roedd wedi saethu i blith y pum llyfr uchaf eu gwerthiant  yn India a daeth i frig rhestr y gwerthwyr gorau yn India-Today ym mis Ebrill. Mae’r nofel yn stori ddiddorol sydd yn symud yn gyflym ac yn seiliedig ar wleidyddiaeth mewn dau gyfnod hollol wahanol.

Ac yntau eisoes yn ŵr busnes llwyddiannus yn India ac yn awdur rhan-amser llwyddiannus, mae Ashwin hefyd yn astudio ar gyfer doethuriaeth mewn Ysgrifennu Beirniadol/ Creadigol drwy ddysgu o bell efo

 

Ysgol Diwydiannau Creadigol Prifysgol Bangor.Mae Ashwin newydd werthu hawliau ffilm ei ail nofel Mae Ashwin newydd werthu hawliau ffilm ei ail nofel Mae’r llyfr yn adrodd dwy stori wleidyddol gyfochrog, y naill yn disgrifio cyfnod 2,300 o flynyddoedd yn ôl a’r llall  wedi’i lleoli yn India gyfoes ôl-annibyniaeth. Mae’r stori hynafol yn hanesyddol gan mwyaf, ac yn olrhain y ffordd y daeth Chanakya- sy’n cael ei ddisgrifio fel Machiavelli India- i rym a’r tactegau clyfar a ddefnyddiwyd ganddo er mwyn gosod Chandragupta Maurya ar yr orsedd. Ffuglen yw’r stori gyfoes gan mwyaf ac mae’n adrodd stori Pandit Gangasagar Mishra o Kanpur, sy’n cael ei ysbrydoli gan y meistr strategydd Chanakya, ac yn defnyddio’i strategaethau mewn cyd-destun cyfoes i sicrhau bod un o’i bobol, Chandini Gupta yn cael ei benodi i’r swydd uchaf, sef prif weinidog India. Mae’r stori’n dangos bod y gwirionedd sydd wedi’i  gynnwys yn y llenyddiaeth draddodiadol  a briodolir i Chanakya yr un mor berthnasol heddiw a phan ysgrifennwyd yn wreiddiol.

 

Meddai Ashwin Saghal, awdur Chanakya’s Chant a myfyriwr ym Mhrifysgol Bangor:

“Mae’r ymateb i’r llyfr wedi bod yn eithriadol. Mae cenhedlaeth ifanc India ar  drywydd hanes India, ond mae’n rhaid ei becynnu ar eu cyfer mewn modd sy’n apelio at y chwaeth gyfoes. Rwy’n gobeithio y bydd y duedd yma’n parhau. Mae gan UTV dîm creadigol cryf ac rwy’n hyderus y byddant yn gwneud cyfiawnder â’r stori anhygoel sydd yn y nofel.”

Meddai wedyn:

“Bangor oedd fy newis cyntaf ar gyfer Prifysgol oherwydd hyblygrwydd y rhaglen a’r safon academaidd uchel. Roeddwn i wedi ysgrifennu fy nofel gyntaf cyn cofrestru gyda Bangor, ond ysgrifennais yr ail wedyn. Roeddwn eisiau rhaglen oedd yn caniatáu i mi ddilyn nodau eraill mewn bywyd ac ar yr un pryd yn cynnig cyfle i mi astudio fy ngwaith yn feirniadol. Er nad ydw i wedi  cyflwyno fy nhraethawd ymchwil gorffenedig eto,  rwy’n credu bod y broses o fewnsyllu a ddechreuwyd ym Mangor wedi bod o fudd i mi ddatblygu.”

“Myfyrdod yw ysgrifennu i mi. Ffordd o ddianc rhag undonedd bywyd. Rydw i bob amser wedi bod yn hoff o ysgrifennu ac wedi cyfrannu sawl erthygl at gylchgrawn y brifysgol yn ystod fy nyddiau fel myfyriwr yn Yale. Pan ddychwelais i India, daliais ati drwy gyfrannu erthyglau i bapurau newydd Indiaidd bob hyn a hyn, ond nid oedd yn fy nghyffroi. Rydw i bob amser wedi bod yn unigolyn creadigol ac yn gweld fy hun yn fwy o storïwr nag awdur, sy’n esbonio pam y symudais i gyfeiriad ffuglen.

“Fel storïwr mae’n gyffrous meddwl y bydd y stori yn cyrraedd yn llawer pellach  mewn ffilm nag y byddai wedi gwneud ar ffurf nofel yn unig. Er hyn, y sialens allweddol yw cadw’r sgript y ffilm yn driw i’r nofel. Dyma pam rydw i wedi penderfynu arwyddo cytundeb efo UTV, gan eu bod yn medru rhoi sicrwydd i mi yn hyn o beth.

Wrth drafod ei gynlluniau am y dyfodol meddai Ashwin:

“Rwy’n gweithio ar drydedd nofel sydd wedi’i chomisiynu gan fy nghyhoeddwr. Rwy’n gobeithio y bydd yn barod tua chanol 2012. Er na allaf ddatgelu’r pwnc oherwydd rhesymau cyfrinachedd, gallaf ddweud wrthych y bydd yn cynnwys yr elfennau y byddai rhywun yn eu disgwyl yn fy ffuglen erbyn hyn: hanes, mytholeg, cynllwyn a dirgelwch.”

Meddai Dr Nathan Abrams, un o oruchwylwyr doethuriaeth Ashwin ym Mhrifysgol Bangor:

“Mae hyn yn newyddion gwych. Yn gyntaf daeth llwyddiant cyn fyfyriwr arall, Danny Boyle, yng Ngwobrau’r Oscars efo Slumdog Millionaire a gyfarwyddwyd ganddo, a rŵan gallwn ddisgwyl ffilm yn seiliedig ar nofel boblogaidd Ashwin Sanghi.”

“Rwyf mor falch drosto, ac un rheswm o bwys yw ei fod wedi dysgu’r grefft ysgrifennu ei hun.  Rydw i’n edrych ymlaen at dderbyn y gwahoddiad i’r premiere yn India.”

Meddai Sidharth Roy Kapur, Prif Weithredwr UTV Motion Pictures:

“Mae Chanakya’s Chant yn un o’r llyfrau prin hynny lle mae gan y stori botensial i’w throi’n ddrama ar sgrin a fydd yn sinematig ac yn hynod ddifyr. Mae’r stori’n dinoethi is-fywyd gwleidyddiaeth genedlaethol.”

Nofel gyntaf Ashwin Sanghi Nofel gyntaf Ashwin Sanghi Cyhoeddodd Ashwin Sanghi ei nofel gyntaf ar ei draul ei hun.  Yn arswydus bron, roedd yn proffwydo sawl agwedd ar yr ymosodiadau ym Mumbai. Ffuglen yw’r nofel The Rozbal Line  ond mae’n seiliedig ar y traddodiad bod Crist wedi goroesi’r croeshoeliad ac wedi teithio i India wedi hynny. Mae’n adrodd stori gynllwyn gyffrous, sydd wedi esgor ar genre newydd yn llenyddiaeth India. Cafodd ei hail-gyhoeddi yn 2008 gan Westland Ltd, rhan o Grŵp Tata.

Dyddiad cyhoeddi: 5 Gorffennaf 2011

Hafan

  • Newyddion
    • Newyddion Cyfredol
    • Archif Newyddion
    • Digwyddiadau
Hafan

Dilynwch Ni

  • Twitter
  • Facebook
  • Instagram
  • Youtube
  • LinkedIn

Prifysgol Bangor

Bangor, Gwynedd, LL57 2DG, UK

+44 (0)1248 351151

Cysylltwch â Ni

Ymweld â’r Brifysgol

Mapiau a Chyfarwyddiadau Teithio

Polisi

  • Cydymffurfiaeth Gyfreithiol
  • Datganiad Deddf Caethwasiaeth Modern 2015
  • Datganiad Hygyrchedd Prifysgol Bangor
  • Polisi Iaith Gymraeg
  • Preifatrwydd a Chwcis
Map

Mae Prifysgol Bangor yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565

© 2020 Prifysgol Bangor