Sgipiwch i’r prif gynnwys
Home

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
  • English
Fy ngwlad:

Main Menu

    • Clirio 2025
      • Cyrsiau Clirio
      • Gwneud Cais Clirio
      • Ffonio'r Llinell Gymorth Clirio
      • Sgwrs Fyw Clirio
      • Gwybodaeth i Ddeiliaid Cynnig
      • Diwrnodau Agored Clirio
    • Llety i Fyfyrwyr
      • Darganfod Eich Ystafell Berffaith
      • Sicrwydd Llety
    • Amdanom Ni
      • Taith Rithwir
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Rhesymau dros astudio yn lleol
      • Bangor a'r Ardal

    Dyddiau Agored Clirio

    • Israddedig
      • Cyrsiau A–Y
      • Meysydd Pwnc
      • Clirio 2025
      • Sut i Wneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais
      • Gwybodaeth i Ddeiliaid Cynnig
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Ehangu Mynediad
      • Astudio Drwy'r Gymraeg
      • Astudio Rhan-Amser
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Prosbectws Poced
      • Calendr Academaidd
    • Ôl-radd Trwy Ddysgu
      • Cyrsiau A-Y
      • Meysydd Pwnc
      • Sut i Wneud Cais
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Addysg Weithredol
      • Cychwyn Mis Ionawr
      • Astudio Rhan-Amser
      • Cyrsiau Byr a DPP
      • Cyrsiau Byr a DPP A-Y
    • Ymchwil Ôl-radd
      • Cyrsiau A-Y
      • Meysydd Pwnc
      • Sut i Wneud Cais
      • Cyllid
      • Yr Ysgol Ddoethurol

    Dod o hyd i Gwrs

    Clirio 2025

    Gwybodaeth i Ddeiliaid Cynnig

    Archebu Prosbectws Poced

    Dyddiau Agored

    Taith Rhithiwr

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Taith Rhithiwr
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Croeso 2024
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid
      • Llysgenhadon Myfyrwyr

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Wythnos Groeso

    Taith Rhithiwr

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag

    Dathlu 140 mlynedd

    Darlithoedd Cyhoeddus

    • Clirio 2025
      • Cyrsiau Clirio
      • Gwneud Cais Clirio
      • Ffonio'r Llinell Gymorth Clirio
      • Sgwrs Fyw Clirio
      • Gwybodaeth i Ddeiliaid Cynnig
      • Diwrnodau Agored Clirio
    • Llety i Fyfyrwyr
      • Darganfod Eich Ystafell Berffaith
      • Sicrwydd Llety
    • Amdanom Ni
      • Taith Rithwir
    • Israddedig
      • Cyrsiau A–Y
      • Meysydd Pwnc
      • Clirio 2025
      • Sut i Wneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais
      • Gwybodaeth i Ddeiliaid Cynnig
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Ehangu Mynediad
      • Astudio Drwy'r Gymraeg
      • Astudio Rhan-Amser
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Prosbectws Poced
      • Calendr Academaidd
    • Ôl-radd Trwy Ddysgu
      • Cyrsiau A-Y
      • Meysydd Pwnc
      • Sut i Wneud Cais
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Addysg Weithredol
      • Cychwyn Mis Ionawr
      • Astudio Rhan-Amser
      • Cyrsiau Byr a DPP
      • Cyrsiau Byr a DPP A-Y
    • Ymchwil Ôl-radd
      • Cyrsiau A-Y
      • Meysydd Pwnc
      • Sut i Wneud Cais
      • Cyllid
      • Yr Ysgol Ddoethurol

    Dod o hyd i Gwrs

    Clirio 2025

    Gwybodaeth i Ddeiliaid Cynnig

    Archebu Prosbectws Poced

    Dyddiau Agored

    Taith Rhithiwr

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Taith Rhithiwr
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Croeso 2024
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid
      • Llysgenhadon Myfyrwyr

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Wythnos Groeso

    Taith Rhithiwr

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag

    Dathlu 140 mlynedd

    Darlithoedd Cyhoeddus

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
Fy ngwlad:

Search

Close

Breadcrumb

  • English

Rhannwch y dudalen hon
  • Twitter
  • Facebook
  • LinkedIn

Myfyrwraig yn cael cyfle i roi iaith ar waith gyda Canolfan Bedwyr

 

Mae Katharine Young o Flaenau Ffestiniog wedi cael cyfle i wneud deg wythnos o brofiad gwaith gyda uned gyfieithu’r Brifysgol, Canolfan Bedwyr, cyn iddi symud i Ffrainc i astudio yn ei thrydedd blwyddyn.

Mae’r lleoliad profiad gwaith yn ran o raglen GO Wales, sydd yn cael ei chyflwyno gan brifysgolion a cholegau addysg uwch Cymru i helpu myfyrwyr a graddedigion trwy drefnu lleoliadau profiad gwaith.

Dywedodd Katharine, sydd yn astudio Cymraeg a Ffrangeg ym Mangor: “Roeddwn i eisoes wedi gwneud tridiau o brofiad gwaith gyda’r Ganolfan fel rhan o’r modiwl Cymraeg ‘Ymarfer Ysgrifennu’ a gofynnais a fyddai modd i mi ddychwelyd atynt dros yr haf. 

“Rydw i wedi bod yn gwneud bob math o bethau yma, mae hi wedi bod yn ddi-stop! Mae hi’n adran hynod brysur,  a chwarae teg i’r staff maen nhw wedi rhoi amrywiaeth eang iawn o waith i mi! 

“Rydw i wedi gwneud gwaith gweinyddol yn y swyddfa- ateb y ffôn, derbyn ac anfon e-byst, a rheoli a dosbarthu gwaith i’r cyfieithwyr. Rydw i wedi cael blas hefyd ar gyfieithu dan oruchwyliaeth Sylvia Prys Jones (pennaeth yr uned gyfieithu), ac erbyn diwedd fy nghyfnod yma mi fyddai wedi cyfieithu tua hanner can darn o waith (weithiau rhai mor hir â 3000 o eiriau'r un) gan wahanol adrannau yn y Brifysgol. 

“Fues i gwpl o weithiau mewn cyfarfodydd lle'r oedd un o gyfieithwyr yr uned yn cyfieithu ar y pryd, a’r swydd honno yw’r mwyaf dryslyd o bell ffordd! Rydw i wedi treulio pythefnos yng nghwmni’r uned technolegau iaith yn dysgu llawer am waith terminoleg a chreu geiriaduron. Mae’r uned hon yn un diddorol iawn, lle mae rhywun yn gallu gweld pa mor fyw yw’r iaith Gymraeg, ac i ba raddau y gallwn ei haddasu yng nghyd-destun technoleg gwybodaeth. Er fy mod i’n gwneud gradd yn yr iaith, dydy’r Gymraeg erioed wedi teimlo yn fodern a newydd tan i mi ddechrau ar y profiad gwaith hwn.

 “Rydw i wedi mwynhau bob agwedd o’r gwaith. Rydw i wedi gwneud ffrindiau newydd, ac wedi dysgu llwyth o sgiliau newydd. Rydw i wedi dysgu am bwysigrwydd yr iaith Gymraeg yn y Brifysgol, a pha mor hwylus yw’r iaith ar waith!

“Rydw i wedi cwrdd â llawer o bobl newydd, rhywbeth sy’n hanfodol yng Nghymru sy’n wlad mor fach, ac wedi dysgu am yr amrywiaeth eang o swyddi sydd ar gael yng Nghymru. Fuaswn i wrth fy modd yn gweithio dros yr iaith Gymraeg, a’i gwneud yn amlycach fyth ym Mhrydain.”

Bydd Katharine yn symud i fyw yn Ffrainc flwyddyn nesaf fel rhan o’i chwrs yma ym Mangor, ond ar ôl iddi  ddychwelyd i Gymru mae hi’n gobeithio parhau gyda’i gwaith cyfieithu. Ychwanegodd: “Ar ôl i mi ddod yn ôl o Ffrainc rydw i’n mynd i ymchwilio i fodiwlau cyfieithu sydd ar gael yn adran y Gymraeg ac adran Ieithoedd Modern y Brifysgol. Dwi wrth fy modd gydag ieithoedd, ac mae’r profiad gwaith hwn wedi cadw’r fflam yna ynghynn.

“Ers blynyddoedd rydw i wedi dweud fy mod i eisiau bod yn athrawes- ond ers dechrau’r profiad gwaith hwn, rydw i wedi sylwi fod yna gymaint o yrfaoedd gwahanol posib eraill i’w hystyried hefyd. Petai rywun yn gofyn i mi heddiw beth fyddai fy swydd ddelfrydol buaswn i’n ateb - athrawes... a chyfieithydd... a chyfieithydd ar y pryd... a therminolegydd... pwy a wyr!”

Am Fangor, dywedodd: “Mae Bangor yn lle grêt ar gyfer myfyrwyr Cymraeg, oherwydd bod cymdeithas mor glos yn Neuadd JMJ. Mae’r gymdeithas wedi bod erioed, ac mae’n braf gweld fod y traddodiad yn parhau yn gryf. Yn ogystal â hyn, mae Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor, yn dod a’r myfyrwyr Cymraeg, boed yn rhugl yn ei hiaith, neu’n dysgu’r iaith, i gyd at ei gilydd drwy drefnu gwahanol dripiau, ac amddiffyn ein hawliau fel myfyrwyr Cymraeg. Fel dysgwraig fy hun, mae’r gymdeithas hon yn holl bwysig imi. Er imi ddysgu’r iaith sawl blwyddyn yn ôl yn awr, mae’n fraint cael bod yn rhan ohoni!”

Daeth Katharine i astudio ym Mangor ar ol bod yn ran o Raglen Dawn a Chyfle (TOP) sydd yn gweithio mewn ysgolion ar draws Gogledd Cymru i ddenu mwy o bobl ifanc i Addysg Uwch ac hefyd yn cynnig Ysgoloriaethau.

Dyddiad cyhoeddi: 24 Awst 2011

Hafan

  • Newyddion
    • Newyddion Cyfredol
    • Archif Newyddion
    • Digwyddiadau
Hafan

Dilynwch Ni

  • Twitter
  • Facebook
  • Instagram
  • Youtube
  • LinkedIn

Prifysgol Bangor

Bangor, Gwynedd, LL57 2DG, UK

+44 (0)1248 351151

Cysylltwch â Ni

Ymweld â’r Brifysgol

Mapiau a Chyfarwyddiadau Teithio

Polisi

  • Cydymffurfiaeth Gyfreithiol
  • Datganiad Deddf Caethwasiaeth Modern 2015
  • Datganiad Hygyrchedd Prifysgol Bangor
  • Polisi Iaith Gymraeg
  • Preifatrwydd a Chwcis
Map

Mae Prifysgol Bangor yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565

© 2020 Prifysgol Bangor