Sgipiwch i’r prif gynnwys
Home

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
  • English
Fy ngwlad:

Main Menu

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
Fy ngwlad:

Search

Close

Breadcrumb

  • English

Rhannwch y dudalen hon
  • Twitter
  • Facebook
  • LinkedIn

Nid Yw Economi Werdd Erioed Wedi Edrych Cystal

Micro-cartrefMicro-cartref“Mae’n debygol bod dros draean o dwf economaidd y DU yn 2011-12 wedi dod o fusnesau gwyrdd” meddai adroddiad diweddaraf y CBI. Busnes gwyrdd yw’r ardal dwf bwysicaf ar gyfer adferiad economaidd Cymru gyda swyddi carbon isel ac amgylcheddol yn tyfu ddwywaith mor gyflym â’r sectorau gweithgynhyrchu a manwerthu. Tra bod cyfradd twf GDP wedi plymio i lawr, mae trosiant yr economi werdd wedi saethu i fyny wrth i fuddsoddiadau mewn projectau carbon isel barhau i dyfu.

Bydd Rhwydwaith Arloesi Gwyrdd Prifysgol Bangor yn cefnogi busnesau lleol sydd eisiau elwa o’r economi werdd yn eu digwyddiad yng Ngwesty’r Cei Deganwy ddydd Iau Hydref 4.  Bydd Peter Jones OBE, arbenigwr ar effeithlonrwydd adnoddau a chyn-gyfarwyddwr gwasanaethau gwastraff BIFFA yn datgelu mwy am gyfleoedd a sialensiau twf gwyrdd.

Dywedodd: “Os cawn ni’r polisïau a’r diwydiannau cywir yn eu lle gallwn roi hwb arall eto i’n GDP gan gyflwyno mwy o swyddi, mwy o gyfoeth a safonau byw uwch – tra’n dal i achub y blaned”

Bargen Newydd Werdd i Gymru

Ni allai digwyddiad y Rhwydwaith Arloesi Gwyrdd yn yr hydref fod yn fwy amserol gan ei fod yn cyd-daro â golwg newydd ar yr economi gan bob plaid wleidyddol. Gyda’r egwyddor o ddatblygiad cynaliadwy wrth galon y llywodraeth a’r fargen newydd werdd y mae Plaid Cymru newydd ei chyhoeddi, mae’r polisïau hyn yn ceisio hybu economi Cymru yn y llefydd iawn.

Mewn araith yng Nghynhadledd Plaid Cymru’n ddiweddar, dywedodd arweinydd y blaid, Leanne Wood: “Mae Cymru angen swyddi. Mae mor syml â hynny. Ac mae digonedd o waith angen cael ei wneud. Mae Cymru angen Bargen Newydd. Bargen Newydd Werdd - yn darparu sgiliau, gwaith, gobaith a chyfleoedd i genhedlaeth newydd y mae hawl ganddi i gredu y gall bywyd fod yn well”

Bydd cynhyrchu mwy o ynni a rhaglen effeithlonrwydd ynni yn y cartref yn ffurfio rhan o gynigion am ddyfodol gwyrddach. Mae hyrwyddo’r economi werdd drwy hybu cyfleoedd economaidd mewn meysydd fel ynni adnewyddadwy ac eco-dwristiaeth wrth galon amcanion y Rhwydwaith Arloesi Gwyrdd.

“Rydym yn dod â chwmnïau o Gymru at ei gilydd er mwyn gwireddu cyfleoedd busnes gwyrdd - a hynny’n fwy amserol nag erioed - nid yw economi werdd erioed wedi edrych cystal!” meddai cyfarwyddwr project cynaladwyedd Prifysgol Bangor, Stuart Bond.

Bydd cwmnïau lleol yn rhan fawr o’r digwyddiad gyda sesiwn Arddangos Cynaladwyedd er mwyn darganfod beth sy’n digwydd yn yr ardal yn barod. Bydd North Wales Hydro Power ac eco-westy Bryn Bella ymysg yr amrywiaeth eang o gwmnïau fydd yn rhannu’u profiadau.

Byw’n Gynaliadwy: Mae ‘Dwelle’ yn swel

Y pensaer Ric FranklandY pensaer Ric FranklandBydd y pensaer arobryn Ric Frankland, y mae ei ficro-gartrefi wedi’u harddangos yn Greenbuild Expo Manceinion a Grand Designs, Birmingham,  hefyd yn bresennol yn y digwyddiad. Bydd yn egluro sut y ceisiodd wneud busnes gwyrdd yn llwyddiant yn yr hinsawdd economaidd bresennol ac yn dweud mwy wrthym am y sialensiau a wynebodd wrth adeiladu’r prototeip cyntaf o’r eco-gartref. Mae’r tai parod yn dangos mai “byw’n fach yw’r ffordd newydd o fyw’n fawr” gyda dyluniadau modern cynnil a nodweddion cynaliadwy fel deunydd insiwleiddio wedi’i wneud 100% o bapurau newydd wedi’u hailgylchu, ffenestri gwydrau dwbl  a’r gallu i ennill statws di-garbon

 Yr economi werdd a’r dyfodol

Bydd gofyn i ni wneud pethau’n wahanol er mwyn tynnu’n hunain allan o’r dirwasgiad hwn. Mae’r mantra nawr yn wyrdd ac mae hyn yn berthnasol i’r economi hefyd. Gall gweithio gyda phrojectau fel y Rhwydwaith Arloesi Gwyrdd helpu cwmnïau i gael y gorau ar felan y dirwasgiad a datblygu dyfodol sy’n gynaliadwy i bawb. Ewch i flaen y gad a logiwch i mewn i greeninnovationnetwork.org er mwyn darganfod mwy.

Dydd Iau Hydref 4, 15:30 – 18-45, Cysylltwch â s.francis@bangor.ac.uk i archebu lle www.greeninnovationnetwork.org

Dyddiad cyhoeddi: 28 Medi 2012

Hafan

  • Newyddion
    • Newyddion Cyfredol
    • Archif Newyddion
    • Digwyddiadau
Hafan

Dilynwch Ni

  • Twitter
  • Facebook
  • Instagram
  • Youtube
  • LinkedIn

Prifysgol Bangor

Bangor, Gwynedd, LL57 2DG, UK

+44 (0)1248 351151

Cysylltwch â Ni

Ymweld â’r Brifysgol

Mapiau a Chyfarwyddiadau Teithio

Polisi

  • Cydymffurfiaeth Gyfreithiol
  • Datganiad Deddf Caethwasiaeth Modern 2015
  • Datganiad Hygyrchedd Prifysgol Bangor
  • Polisi Iaith Gymraeg
  • Preifatrwydd a Chwcis
Map

Mae Prifysgol Bangor yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565

© 2020 Prifysgol Bangor