Penodi Pedwar Darlithydd Newydd i Brifysgol Bangor
Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi helpu penodi nifer o unigolion newydd i weithio mewn gwahanol feysydd ym Mhrifysgol Bangor er mwyn cynyddu’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg, a hynny am y bedwaredd flwyddyn yn olynol.
Eleri Jones sydd wedi’i phenodi i ehangu’r ddarpariaeth ym maes Seicoleg Chwaraeon. Mae Eleri yn darparu cymorth seicoleg chwaraeon i nifer o athletwyr ac yn gweithredu fel ymgynghorydd i Chwaraeon Cymru. Yn ei hamser hamdden mae Eleri yn hyfforddwraig a dyfarnwraig pêl-rwyd cymwysedig ac yn dal i chwarae’r gamp yn gystadleuol.
Wedi cyfnod o astudio yng Nghaergrawnt a Rhydychen, cwblhaodd Owain Wyn Jones ddoethuriaeth ym Mhrifysgol Bangor ar ysgrifennu hanesyddol yng Nghymru’r oesoedd canol, a hynny o dan nawdd y Coleg Cymraeg. Gobaith pennaf Owain yn yr Ysgol Hanes, Hanes Cymru ac Archaeoleg yw meithrin hyder ymhlith siaradwyr Cymraeg i ddilyn cyfran o’u gradd drwy’r Gymraeg.
Un arall fydd yn parhau â’i gyswllt gyda’r Coleg ar ôl derbyn ysgoloriaeth ôl-raddedig o dan nawdd y Coleg yn 2008 yw Gerwyn Owen sydd wedi’i benodi i swydd ddarlithio ym maes Astudiaethau Ffilm. Sinema Ewrop yw diddordeb pennaf Gerwyn sy’n deillio o fod wedi byw a gweithio yn yr Eidal am gyfnod, ac yn rhinwedd ei swydd newydd bydd yn dysgu modiwl o’r enw ‘Sinema Ewrop.’
Manon Wyn Williams o Sir Fôn sydd wedi’i phenodi i ddatblygu darpariaeth ym meysydd sgriptio a drama yn Ysgol y Gymraeg. Manon ddaeth i frig Ysgoloriaeth Bryn Terfel Urdd Gobaith Cymru yn 2007 am berfformiad dramatig. Yn yr un flwyddyn, enillodd Fedal Ddrama Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd gan gyflawni’r gamp unwaith yn rhagor yn 2010.
Yn ôl Manon Wyn Williams:
‘‘Braint oedd cael fy mhenodi i swydd ddarlithio ym maes sgriptio ym Mhrifysgol Bangor, nid yn unig gan ei fod yn faes yr wyf yn teimlo'n angerddol yn ei gylch, ond gan fy mod yn ymwybodol iawn o’r hanes aruchel sydd gan Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor ym maes sgriptio a drama yn genedlaethol. Rwyf yn edrych ymlaen at gynnig arbenigedd newydd ym maes y ddrama ac felly ddatblygu ac ehangu ar y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg sydd eisoes yn bodoli.’’
Yn ôl Ioan Matthews, Prif Weithredwr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol:
‘‘Roeddem yn falch o glywed bod Prifysgol Bangor wedi llwyddo i benodi’r unigolion hyn o dan Gynllun Staffio Academaidd y Coleg Cymraeg ac rydym yn dymuno’r gorau iddynt wrth fynd ati i ddatblygu’r ddarpariaeth yn eu priod feysydd. Bydd y penodiadau heb os yn hwb ychwanegol i’r gymuned cyfrwng Cymraeg gref sydd eisoes yn bodoli ar gampws y Brifysgol.’'
Dyddiad cyhoeddi: 26 Medi 2014