Sgipiwch i’r prif gynnwys
Home

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
  • English
Fy ngwlad:

Main Menu

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
Fy ngwlad:

Search

Close

Breadcrumb

  • English

Rhannwch y dudalen hon
  • Twitter
  • Facebook
  • LinkedIn

Prifysgol Bangor yn cyhoeddi enwau’r unigolion sydd i dderbyn Cymrodoriaethau er Anrhydedd

Mae Prifysgol Bangor wedi cyhoeddi enwau’r unigolion hynny sydd i dderbyn Cymrodoriaethau er Anrhydedd yn ystod seremonïau graddio’r Brifysgol eleni.

Mae’r Brifysgol yn dyfarnu Cymrodoriaethau er Anrhydedd er mwyn gwobrwyo unigolion sydd â chysylltiad â’r Brifysgol neu â Chymru, er mwyn nodi eu cyfraniad nodedig i’w meysydd penodol.

Bydd deg unigolyn yn derbyn Cymrodoriaeth eleni a bydd y cyflwyniadau yn digwydd yn ystod Wythnos Graddio’r Brifysgol, rhwng 16-20 Gorffennaf eleni.

Meddai’r Athro John G Hughes, Is-ganghellor Prifysgol Bangor:

“Mae ein Cymrodoriaethau er Anrhydedd yn adlewyrchu ystod eang diddordebau’r Brifysgol. Mae’r Brifysgol yn aelod gweithgar o’r gymuned leol ac rydym yn anrhydeddu unigolion sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i Gymru. Mae ein graddedigion yn gwneud cyfraniadau gwerthfawr mewn nifer o feysydd gyrfa - a hynny yn lleol, yn genedlaethol a rhyngwladol ac rydym yn ymfalchïo yn eu llwyddiannau, ac yn ymfalchïo hefyd yn y cyfle i wobrwyo rhai o’n graddedigion nodedig am eu cyfraniadau hwythau.”

Yr unigolion sydd yn derbyn Cymrodoriaethau er Anrhydedd eleni yw:

Ann Catrin Evans, cerflunydd a gwneuthurwr gemwaith o ogledd Cymru sydd wedi derbyn clod rhyngwladol am ei gwaith ac un sydd wedi bod ymhlith y crefftwyr mwyaf blaengar yng Nghymru ers 25 o flynyddoedd. Bydd Ann Catrin Evans yn cael ei hanrhydeddu am ei gwasanaeth i Gelfyddyd.

Mae’r Parch Ddr Alwyn Roberts, cyn Ddirprwy Is-Ganghellor y Brifysgol, wedi bod yn ymwneud â bywyd y sefydliad ers dros hanner canrif fel myfyriwr, aelod o staff ac aelod o Gyngor y Brifysgol. Bydd yn cael ei anrhydeddu am ei wasanaeth i’r Brifysgol.

Ag yntau’n un o raddedigion y Brifysgol, yn beiriannydd ac yn entrepreneur, bydd Howard M Clarke, Cadeirydd cwmni Morgan Innovation & Technology, yn derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd am ei wasanaethau i Beirianneg Electronig.

Mae’r delynores enwog ac uchel ei pharch, Llio Rhydderch, yn cael ei chydnabod fel un o brif arbenigwyr a pherfformwyr y delyn deires. Bydd yn cael ei hanrhydeddu am ei gwasanaeth i Gerddoriaeth.

Yn ddiweddar fe benodwyd yr Arglwydd David Lloyd-Jones, Barnwr ac ysgolhaig uchel ei barch ym maes y gyfraith, yn Ustus y Llys Goruchaf. Mae wedi dangos ei gefnogaeth ymarferol yn gyson i fyfyrwyr y Gyfraith ym Mhrifysgol Bangor. Bydd yn derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd am ei wasanaeth i’r Gyfraith.

Mae Dr Philip Trathan, Pennaeth Cadwraeth gyda’r British Antarctic Survey yn derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd am ei wasanaethau i Gadwraeth. Mae ganddo dair gradd gan y Brifysgol wedi iddo raddio gyda gradd BSc mewn Botaneg yn 1979 ac ennill Doethuriaeth mewn Ecoleg Poblogaeth Planhigion yn 1983. Derbyniodd DSc yn 2012 am ei gyfraniad nodedig i Wyddor yr Antarctig.

Mae’r Athro Julie Williams yn ffigwr blaenllaw ym maes ymchwil i glefyd Alzheimer’s ac, yn ddiweddar, bu’n Brif Swyddog Gwyddoniaeth Cymru. Bydd yn cael ei hanrhydeddu gyda Chymrodoriaeth er Anrhydedd am ei gwasanaeth i wyddoniaeth.

Mae’r Athro Robin Grove-White, academydd a Chadeirydd Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru y Brifysgol yn derbyn anrhydedd am ei wasanaethau i’r gymuned. Mae’r Athro Grove-White yn amgylcheddwr ymrwymedig, sy’n hynod weithgar yn y maes.

Mae Stavros Ioannou, yn raddedig o Brifysgol Bangor ac sydd yn Ddirprwy Brif Swyddog Gweithredol Eurobank wedi gwneud cyfraniad cadarnhaol tu hwnt i sector bancio Gwlad Groeg drwy swyddogaethau rheolaethol yn y prif sefydliadau cyllidol. Bydd yn derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd am ei wasanaethau i Fancio.

Yr academydd, Dr Margaret Wood, yw cyd-awdur y gyfrol llawn gyntaf ar ddaeareg Ynys Môn. Mae wedi dangos angerdd neilltuol i’w phroffesiwn ac i ymestyn maes gwyddor daearegol. Mae’n cael ei gwobrwyo gyda Chymrodoriaeth er Anrhydedd am ei gwasanaeth i ddaeareg. 

Dyddiad cyhoeddi: 8 Mehefin 2018

Hafan

  • Newyddion
    • Newyddion Cyfredol
    • Archif Newyddion
    • Digwyddiadau
Hafan

Dilynwch Ni

  • Twitter
  • Facebook
  • Instagram
  • Youtube
  • LinkedIn

Prifysgol Bangor

Bangor, Gwynedd, LL57 2DG, UK

+44 (0)1248 351151

Cysylltwch â Ni

Ymweld â’r Brifysgol

Mapiau a Chyfarwyddiadau Teithio

Polisi

  • Cydymffurfiaeth Gyfreithiol
  • Datganiad Deddf Caethwasiaeth Modern 2015
  • Datganiad Hygyrchedd Prifysgol Bangor
  • Polisi Iaith Gymraeg
  • Preifatrwydd a Chwcis
Map

Mae Prifysgol Bangor yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565

© 2020 Prifysgol Bangor