Sgipiwch i’r prif gynnwys
Home

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
  • English
Fy ngwlad:

Main Menu

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
Fy ngwlad:

Search

Close

Breadcrumb

  • English

Rhannwch y dudalen hon
  • Twitter
  • Facebook
  • LinkedIn

Prifysgol Bangor yn rhannu anrhydeddau yn ystod wythnos Graddio

Bydd naws cerddoriaeth gyfoes i Seremonïau Graddio Prifysgol Bangor eleni wrth i’r Brifysgol anrhydeddu’r cerddor lleol Gruff Rhys a’r troellwr Radio 1 a Radio Cymru, Huw Stephens.

Maent ymysg yr unigolion a fydd yn  derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd yn ystod Seremonïau Graddio’r Brifysgol (11-17 Gorffennaf 2015).

Ac yntau newydd orffen taith gyda’r band roc llwyddiannus y Super Furry Animals, mae Gruff Rhys  hefyd wedi gweithio ar sawl project unigol gan gynnwys yn fwyaf diweddar, cyfansoddi sgôr ar gyfer y ffilm Set fire to the Stars, am ddyddiau olaf Dylan Thomas, ac American Interior, taith, ffilm a llyfr, lle bu Gruff yn olrhain taith personol yn dilyn ôl traed y Cymro, John Evans, o Waunfawr, a fu’n archwilio a mapio afon y Missouri  tra’n chwilio am y llwyth ‘Indiaid’ brodorol sy’n siarad Cymraeg- yr oedd sôn amdanynt yn chwedlau Cymru.  Mae ei lyfr, American Interior wedi ei gynnwys ar restr fer categori Ffeithiol Greadigol Saesneg ar gyfer Llyfr y Flwyddyn 2015, tra  yr enillodd Gruff Rhys Gwobr Cerddoriaeth Cymru 2011 am ei albwm, Hotel Shampoo.  Enwebwyd albwm Stainless Style gan ei broject cydweithiol electro-pop, Neon Neon enwebiad hefyd am Wobr Nationwide Mercury yn 2008.

Hefyd yn cael ei gydnabod a’i anrhydeddu am ei gyfraniad at gerddoriaeth gyfoes mae Huw Stephens, troellwr ieuengaf gorsaf Radio 1 y BBC a chyd- gyflwynydd rhaglenni cerddoriaeth Radio Cymru, C2.  Mae Huw Stephens hefyd yn darlledu ac ysgrifennu am gerddoriaeth ac yn curadu sawl lwyfan ŵyl gerddorol.  Yn 2007 sefydlodd ŵyl cerddoriaeth newydd yng Nghaerdydd; Sŵn. 

Mae Myrddin ap Dafydd, sylfaenwr Gwasg Carreg Gwalch,  y cyhoeddwyr o Lanrwst, i’w anrhydeddu am ei wasanaeth i lenyddiaeth Cymraeg a’r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru. Yn ymuno ag o y mae Meirion Prys Jones, cadeirydd y Network to Promote Linguistic Diversity; rhwydwaith Ewropeaidd sy'n ymwneud ag amrywiaeth ieithyddol. Mae’n gyn Prif Weithredwr Bwrdd yr Iaith Gymraeg ac ag enw da a pharch iddo ledled Ewrop gan bobol sydd yn ymwneud â hawliau ieithyddol a chynllunio ieithyddol. Mae  i dderbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd am ei waith yn y maes yma.

Mae’r unigolion eraill sydd yn derbyn yr un Anrhydedd yn ystod yr wythnos yn cynnwys:

Nicholas Snowman; ef yw’r bedwaredd genhedlaeth o deulu Wartski i arwain y gemwyr sydd bellach wedi’u sefydlu yn Llundain ac yn cael eu hadnabod ymysg gemwyr mwyaf enwog ac uchel eu parch.  Wedi sefydlu ym Mangor gan Morris Wartski yn 1865, ac yntau’n ffoadur o Rwsia’r Tsar, mae Wartski bellach yn gwmni sy’n delio mewn celfyddyd a hynafolion, gan arbenigo mewn gemwaith cain, blychau aur, arian a gweithiau celfyddyd gan Carl Fabergé. Bydd Mr Snowman yn derbyn y Gymrodoriaeth am ei wasanaeth i fusnes.

Ymysg yr unigolion sydd yn derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd mae sawl un sydd â chyswllt a’r Brifysgol. Mae’r rhain yn cynnwys:

Cyn Cofrestrydd  ac Ysgrifennydd y Brifysgol, Dr David Roberts a ymddeolodd yn ddiweddar.  Yn aelod o staff y Brifysgol am 35 o flynyddoedd,  gan wasanaethu am 11  fel Cofrestrydd y Brifysgol,   cyn ei benodi’n Gofrestrydd y Brifysgol, swydd a gafodd am 15 mlynedd. Ysgrifennodd Dr Roberts y llyfr diweddaraf ar hanes y Brifysgol, Prifysgol Bangor 1884-2009. Bydd Dr Roberts, sydd yn byw yn lleol, yn derbyn  anrhydedd am ei wasanaethau i’r Brifysgol.

Mae Shireen Chambers, a raddiodd o Brifysgol Bangor, ar hyn o bryd yn brif Weithredwraig a Chyfarwyddwraig technegol yr Institute of Chartered Foresters. Mae Shireen Chambers i dderbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd am ei chyfraniad i goedwigaeth. Mae unigolyn arall a raddiodd o Fangor  i’w hanrhydeddu am ei chyfraniad at Wyddorau Eigion. Mae Lowri Evans yn Gyfarwyddwr Cyffredinol Cyfarwyddiaeth Gyffredinol Materion Morol a physgodfeydd y Comisiwn Ewropeaidd. Yn enedigol o ogledd Cymru ac yn Gymraes Cymraeg ei hiaith, mae nifer yn y Brifysgol yn cydweithio yn agos â Lowri Evans.

Ers graddio o Goleg Iechyd a Gwyddorau Ymddygiad Prifysgol Bangor, mae Jeremy Howell bellach yn Athro ym Mhrifysgol San Francisco, prifysgol fechan, Jeswitaidd uchel ei pharch. Bydd yn derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd am ei gyfraniad at wyddorau chwaraeon.

Mae Bernard Taylor CBE ar hyn o bryd yn Gadeirydd Cambridge Laboratories Ltd ac mae ganddo radd mewn sŵoleg. Dechreuodd Bernard Taylor ei yrfa fferyllol mewn marchnata gyda SmithKline & French. Roedd gyda Glaxo o 1963 - 1990,  yn  Awstralasia yn bennaf, gan godi i fod yn Brif Weithredwr Glaxo Worldwide.  Yna fe aeth ymlaen i gyd-sefydlu a bod yn Gadeirydd Gweithredol Medeva plc, cyn symud i’w swydd bresennol. Mae i’w wobrwyo am ei wasanaeth i wyddor fferyllol.

Dywedodd yr Athro John G Hughes Is-ganghellor y Brifysgol: “Mae Prifysgol Bangor wedi cyflawni canlyniadau gwych mewn sawl maes yn y flwyddyn academaidd a aeth heibio:  cafodd  y Brifysgol ei rhoi ymysg y 100 prifysgol uchaf yn y byd o ran ei golygwedd ryngwladol, ac yn yr 20 uchaf am brofiad myfyrwyr yn ogystal â chyflawni canlyniadau ardderchog yn yr asesiad cenedlaethol o ansawdd ymchwil (REF). Wrth i ni ddathlu llwyddiant ein myfyrwyr a’r Brifysgol, mae’n fraint hefyd cael tynnu sylw a gwobrwyo eraill sydd â chysylltiad â Chymru neu’r Brifysgol sydd hefyd yn rhagori yn eu maes dewisol ac yn gwneud cyfraniad gwerthfawr.”

Dyddiad cyhoeddi: 15 Mai 2015

Hafan

  • Newyddion
    • Newyddion Cyfredol
    • Archif Newyddion
    • Digwyddiadau
Hafan

Dilynwch Ni

  • Twitter
  • Facebook
  • Instagram
  • Youtube
  • LinkedIn

Prifysgol Bangor

Bangor, Gwynedd, LL57 2DG, UK

+44 (0)1248 351151

Cysylltwch â Ni

Ymweld â’r Brifysgol

Mapiau a Chyfarwyddiadau Teithio

Polisi

  • Cydymffurfiaeth Gyfreithiol
  • Datganiad Deddf Caethwasiaeth Modern 2015
  • Datganiad Hygyrchedd Prifysgol Bangor
  • Polisi Iaith Gymraeg
  • Preifatrwydd a Chwcis
Map

Mae Prifysgol Bangor yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565

© 2020 Prifysgol Bangor