Sgipiwch i’r prif gynnwys
Home

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
  • English
Fy ngwlad:

Main Menu

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
Fy ngwlad:

Search

Close

Breadcrumb

  • English

Rhannwch y dudalen hon
  • Twitter
  • Facebook
  • LinkedIn

Project Arloesol “Catching the light with the Rainbow Nation”

Grŵp “Catching the Light” ynghyd â Llywydd yr elusen SOS Africa, Henry Matthews. Grŵp “Catching the Light” ynghyd â Llywydd yr elusen SOS Africa, Henry Matthews. Yn ystod mis Medi fe wnaeth tîm o wyddonwyr o Brifysgolion Bangor ac Abertawe a Phrifysgol KwaZulu-Natal (UKZN) gynnal gweithdai gwyddonol i blant o bob oed yn Durban a Mafikeng, De Affrica. Roedd y digwyddiad “Catching the Light with the Rainbow Nation” yn broject hynod uchelgeisiol gyda'r nod o wneud cemeg yn fwy poblogaidd a chyfarwydd yn Ne Affrica. Dros gyfnod o bythefnos fe wnaeth mwy na 1300 o blant gymryd rhan mewn gweithdai'n canolbwyntio ar gemeg a goleuni. Yn ogystal, cynhaliodd y tîm ddarlithoedd cyhoeddus, grwpiau trafod i ysgolion, a chael prynhawn o ddysgu cemeg a goleuni i blant sy'n cael eu cynorthwyo yn eu haddysg gan yr elusen, SOS Africa.

Cynhaliwyd yr achlysur hwn yn labordai'r Ysgol Cemeg a Ffiseg (Prifysgol UKZN), lle bu disgyblion o ysgolion uwchradd lleol yn cael gweithdai ar  gynhyrchu celloedd solar o ffrwythau wedi'u sensiteiddio â lliwur a deunyddiau pob dydd. Fe wnaeth hyn nid yn unig ddysgu'r plant sut i wneud dyfais ffotofoltaidd a'i phrofi, ond hefyd bwysleisio pwysigrwydd ynni adnewyddadwy ac, yn arbennig, pa mor allweddol bwysig yw defnyddio ynni solar. 

Disgyblion Golfview High School, Mafikeng, yn dysgu am oleuni a lliw yn y gweithdai.Disgyblion Golfview High School, Mafikeng, yn dysgu am oleuni a lliw yn y gweithdai.Teithiodd y tîm hefyd drwy Fynyddoedd Drakensberg i Mafikeng lle gwnaethant gynnal gweithdai i tua 1000 o blant mewn dwy ysgol uwchradd yn yr ardal, Golfview High School a Mafikeng High School, yn ogystal â'r Ganolfan Addysg Gynnar i blant 1 - 6 oed. 

Meddai Dr Matthew Davies, arweinydd y project: "Roedd hwn yn ddigwyddiad ar raddfa fawr iawn; roedd angen llawer o gynllunio a gwaith caled gan holl aelodau'r tîm i'w roi ar waith. Roedd yn brofiad gwych; roedd yr holl blant a ddaeth i'r gweithdai yn gwrando'n astud, yn frwdfrydig ac yn gwerthfawrogi'r hyn roeddem yn ei wneud. Y prif nod oedd annog y plant i gymryd mwy o ddiddordeb mewn gwyddoniaeth ac mae'r sylwadau a gafwyd yn awgrymu ein bod wedi llwyddo yn hynny o beth.

"Rydym yn gobeithio fel tîm y bydd rhai o'r plant yma'n darganfod byd rhyfeddol a chyffrous cemeg a gwyddoniaeth ymhellach gan fynd ymlaen i gael bywydau a gyrfaoedd llwyddiannus a hapus. Roedd yn bleser pur treulio cymaint o amser gyda thîm ardderchog o wyddonwyr yn dysgu a thrafod gyda phlant dymunol a oedd yn awyddus i wybod mwy. Rwy'n gobeithio mai hwn ydi'r cyntaf o lawer digwyddiad tebyg."

Meddai Tonderai Mombeshora, UKZN: "Roeddem wedi dod i ddysgu'r plant ynghylch dal y goleuni, ond yr hyn wnaeth ddal ein sylw ni oedd gwenau a rhadlonrwydd cannoedd o blant."

Disgyblion y Ganolfan Addysg Gynnar yn arddangos eu crytau-T newydd – rhain fydd eu gwisg ysgol pob dydd Mercher.Disgyblion y Ganolfan Addysg Gynnar yn arddangos eu crysau-T newydd – rhain fydd eu gwisg ysgol pob dydd Mercher.Cyllidwyd yr achlysur yn bennaf gan y Ganolfan Arloesi a Gwybodaeth SPECIFIC, Prifysgol Abertawe, ac fe'i cefnogwyd gan Brifysgol Bangor, Prifysgol Abertawe,  Prifysgol KwaZulu-Natal, STRIP ac adran orllewinol leol Cymdeithas Cemeg Frenhinol De Cymru.

Meddai Albert Landman, Prifathro Mafikeng High School: "Roedd yn brofiad da, yn arbennig mewn cyfnod pan mae marciau wedi mynd yn bopeth gan fynd â phob pleser o addysg oherwydd y pwysau i gael cyfradd basio well. Mae hyn yn bolisi cibddall iawn ac ni fydd yn gwella addysg yn Ne Affrica yn y tymor hir. Efallai mai'r rhaglen yma fydd y wreichionen wnaiff danio ambell i ddarpar wyddonydd arbennig!" 

Meddai Henry Matthew, llywydd SOS Africa: "Roedd y grŵp gwyddonwyr ar y rhaglen yma'n rhyfeddol a dweud y lleiaf - grŵp o bobl wirioneddol ddymunol sy'n glod i'w proffesiwn! Yn ystod y pythefnos ddiwethaf mae gwyddoniaeth wedi dod yn fyw i dros fil o blant ysgol."

Gellir gweld fideo am y daith yma:   

Dyddiad cyhoeddi: 25 Hydref 2013

Hafan

  • Newyddion
    • Newyddion Cyfredol
    • Archif Newyddion
    • Digwyddiadau
Hafan

Dilynwch Ni

  • Twitter
  • Facebook
  • Instagram
  • Youtube
  • LinkedIn

Prifysgol Bangor

Bangor, Gwynedd, LL57 2DG, UK

+44 (0)1248 351151

Cysylltwch â Ni

Ymweld â’r Brifysgol

Mapiau a Chyfarwyddiadau Teithio

Polisi

  • Cydymffurfiaeth Gyfreithiol
  • Datganiad Deddf Caethwasiaeth Modern 2015
  • Datganiad Hygyrchedd Prifysgol Bangor
  • Polisi Iaith Gymraeg
  • Preifatrwydd a Chwcis
Map

Mae Prifysgol Bangor yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565

© 2020 Prifysgol Bangor