Sgipiwch i’r prif gynnwys
Home

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
  • English
Fy ngwlad:

Main Menu

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
Fy ngwlad:

Search

Close

Breadcrumb

  • English

Rhannwch y dudalen hon
  • Twitter
  • Facebook
  • LinkedIn

Rhaglen LEAD Cymru'n cefnogi twf busnesau Cymru

Yn ôl ymchwil a gyhoeddwyd heddiw (dydd Mawrth, 30 Hydref), mae LEAD Cymru, Project a leolir yn rhannol yn Ysgol Busnes Prifygsol Bangor mewn sefyllfa dda i chwarae rôl arweiniol wrth gefnogi twf busnesau Cymru.

Mae Arwain Busnesau Bach Cymru: Rhaglen LEAD Cymru 2010-2012, adroddiad ymchwil sy'n ystyried dwy flynedd gyntaf rhaglen datblygu arweinyddiaeth LEAD Cymru, yn amlygu effaith y rhaglen ar dwf busnesau bach a chanolig yng Nghymru, ac ar economi Cymru.  

Ar ddiwedd y rhaglen ddeng mis, mae'r effeithiau'n cynnwys:

  • Cynnydd o 2.3 o swyddi ym mhob busnes, ar gyfartaledd (rhai ohonynt yn rhan amser);
  • Cynnydd o 26% yn nhrosiant pob busnes, ar gyfartaledd.

Ar draws Cymru gyfan, mae'r data'n dangos bod busnesau'n parhau i dyfu flwyddyn ar ôl cwblhau'r rhaglen.  Roedd dros hanner y rhai a ymatebodd yn dweud bod trosiant a chynhyrchiant staff wedi cynyddu.

Dywedodd Ceri Jones, Cyfarwyddydd Prosiect LEAD Cymru: "Mae LEAD Cymru'n fodel datblygu arweinyddiaeth sy'n llwyddo i gefnogi perchen-reolwyr busnesau bach a chanolig o fewn yr amgylchedd busnes maent yn gweithredu ynddo.

"Mae'r ymchwil hwn yn dangos bod LEAD Cymru'n gwneud cyfraniad clir i ffyniant economaidd Cymru, a bod busnesau'n dweud bod eu trosiant a nifer eu staff yn cynyddu."

Dywedodd Dr Karen Jones, cyd-awdur yr adroddiad: "Calonogol yw gweld hefyd bod LEAD Cymru'n cael effaith hirdymor, a bod busnesau'n parhau i ehangu ac i arloesi flwyddyn ar ôl cwblhau'r rhaglen."

Ariannir rhaglen LEAD Cymru gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop, Llywodraeth Cymru, a Phrifysgolion Abertawe a Bangor er mwyn darparu rhaglen datblygu arweinyddiaeth ar gyfer perchen-reolwyr busnesau bach a chanolig yn Ardal Cydgyfeirio Cymru.  Am ragor o wybodaeth, ewch i: www.leadwales.co.uk

  Mae LEAD Cymru'n rhaglen datblygu arweinyddiaeth, sy'n para deng mis, ac sydd ar gael i berchen-reolwyr busnesau bach a chanolig, gan gynnwys cyfarwyddwyr rheoli rhai mentrau cymdeithasol, yn Ardal Cydgyfeirio Cymru.

  • Ers 1 Gorffennaf 2009, mae 375 o berchen-reolwyr wedi cofrestru ar y rhaglen.
  • Ers 1 Gorffennaf 2009, mae 239 o berchen-reolwyr wedi graddio o raglen LEAD Cymru.
  •   Lluniwyd yr adroddiad ymchwil gan dîm ymchwil LEAD Cymru.  Seilir y ffigyrau ar ddata a gasglwyd rhwng 2010 a 2012, gan gynnwys: holiadur gwaelodlin, holiadur ymadael, arolwg dilyniant blynyddol, grwpiau ffocws, a chyfweliadau naratif bywgraffyddol dwys, ac fe'u seilir ar brofiad dros 300 o gyfranogwyr. 

Steve Edmunds, Cottam & Brookes Eng Ltd, a gwblhaodd raglen LEAD Cymru ym mis Mai 2011: "Yn bersonol, dwi wedi sylweddoli bod angen i fi gamu'n ôl er mwyn gweld lle'r mae busnes yn mynd. Mae hyn wedi bod yn anodd mewn cyfnod twf, ond ymddengys ei fod yn gweithio. Mae'r ffordd y mae rhaglen LEAD Cymru wedi'i sefydlu ac yn cael ei rhedeg yn wych. Hawdd iawn yw gweld sut mae'r cwrs wedi cael y fath ganlyniadau."

Rachael Wheatley, Cyfarwyddwr Waters Creative, a gwblhaodd raglen LEAD Cymru ym mis Tachwedd 2011: "Roeddwn i'n falch o fod yn rownd derfynol y categori arweinyddiaeth busnes o Wobrau Ysbrydoli Cymru 2012, a drefnwyd gan Sefydliad Materion Cymru a'r Western Mail. Oni bai i mi ymuno â rhaglen LEAD Cymru, mi wn na fyddai gen i ddigon o hyder i geisio am y wobr;  a dwi'n gwbl sicr bod y sgiliau a ddysgais ar y rhaglen wedi bod yn allweddol wrth i fi gyrraedd y rhestr fer o dri enw." 

Anne-Marie Rogan, Prif Swyddog Gweithredol YMCA Abertawe, a gwblhaodd raglen LEAD Cymru ym mis Hydref 2012: "Eleni, penderfynais ymuno â rhaglen LEAD Cymru, a gallaf ddweud yn ddi-flewyn-ar-dafod taw dyma un o'r pethau gorau wnes i erioed. Pam? Yr amseru, y cynnwys, y bobl - dyna wnaeth y rhaglen i fi.  Mae Rhaglen LEAD wedi gwneud i mi sylweddoli o ddifrif beth yw potensial arweinyddiaeth.  Mae wedi fy helpu i ddeall pam fy mod yn gwneud yr hyn dwi'n ei wneud, effaith yr hyn dwi'n ei wneud, sut i wella'r hyn dwi'n ei wneud ... yr effaith ar y busnes, a sut mae fy ngweithredoedd a f'arweinyddiaeth yn effeithio ar gyfeiriad, arddull, diwylliant, a'r llinell waelod."

Kevin Leonard Betts, Perchen-reolwr CarbonSave Solution, a gwblhaodd raglen LEAD Cymru ym mis Gorffennaf 2012: "Profiad bondio rhagorol oedd LEAD. Un o'r pethau gorau oedd y gefnogaeth gan y setiau dysgu gweithredol pan aeth pethau'n anodd arna i.  Roedd yn fy ngalluogi i ymateb i sefyllfaoedd heb yr emosiwn, gan allu galw ar gyfeillion da pryd bynnag oedd angen."

Gwyn Humphrey Jones, Perchen-reolwr Meditec Ltd, a gwblhaodd raglen LEAD Cymru ym mis Gorffennaf 2012:  "Codais i nifer o syniadau da iawn o'r rhaglen, ac mae hynny wedi arwain at lawer o fusnes newydd i mi.  Roedd y Setiau Dysgu Gweithredol o gymorth mawr. Dwi wir yn gwerthfawrogi cael cyfle i ymuno â'r rhaglen."

Christopher B Owens, Perchen-reolwr Hughes Bros (Llanrwst & Trefriw) Ltd, a gwblhaodd y rhaglen ym mis Gorffennaf 2012: "Roedd profiad LEAD wedi rhoi mwy o hyder i mi i herio f'ofnau, ac i yrru fy musnes yn ei flaen gyda phecyn offer mwy cyflawn."  

Karen Hughes, Michael Phillips Care Agency Ltd, a gwblhaodd raglen LEAD Cymru ym mis Gorffennaf 2012: "Roeddwn i'n ofnus, braidd, wrth gychwyn rhaglen LEAD Cymru ym mis Medi 2011, ond gallaf ddweud yn gwbl onest ar ôl graddio ym mis Gorffennaf 2012 bod y profiad wedi bod yn un braf iawn. Roedd y sesiwn gychwynnol yn tynnu ar ochr orau pawb, a gwnaed llawer o ffrindiau newydd. Cefais i wybodaeth sylweddol o bob Dosbarth Meistr, ac roedd y Setiau Dysgu Gweithredol bach yn arf werthfawr tu hwnt i bawb yn fy ngrŵp i.  Peth naturiol oedd teimlo'n amheugar, gan mai gofyn mawr yw rhannu cyfrinachau mwyaf eich busnes.  Roedd cysgodi a chyfnewid yn brofiadau anhygoel; roedd yr wybodaeth, yr eglurdeb, a'r syniadau newydd yn helpu pawb i esblygu ac i yrru eu busnesau yn eu blaen.  Buaswn i'n argymell perchennog unrhyw fusnes i ymuno â rhaglen LEAD Cymru."

Dogfennau cysylltiedig:

  • Adroddiad Ymchwil LEAD Cymru.pdf

Dyddiad cyhoeddi: 30 Hydref 2012

Hafan

  • Newyddion
    • Newyddion Cyfredol
    • Archif Newyddion
    • Digwyddiadau
Hafan

Dilynwch Ni

  • Twitter
  • Facebook
  • Instagram
  • Youtube
  • LinkedIn

Prifysgol Bangor

Bangor, Gwynedd, LL57 2DG, UK

+44 (0)1248 351151

Cysylltwch â Ni

Ymweld â’r Brifysgol

Mapiau a Chyfarwyddiadau Teithio

Polisi

  • Cydymffurfiaeth Gyfreithiol
  • Datganiad Deddf Caethwasiaeth Modern 2015
  • Datganiad Hygyrchedd Prifysgol Bangor
  • Polisi Iaith Gymraeg
  • Preifatrwydd a Chwcis
Map

Mae Prifysgol Bangor yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565

© 2020 Prifysgol Bangor