Rhian a Choron Môn
Llongyfarchiadau mawr i Rhian Owen, myfyrwraig sy'n dilyn MA mewn Ysgrifennu Creadigol yn Ysgol y Gymraeg, am ennill Coron Eisteddfod Mon eleni.
Dywedodd y beirniad, John Hywyn, fod y gystadleuaeth wedi bod yn un o safon uchel, ond daeth gwaith Rhian i'r brig gan ennill un o brif wobrau llenyddol yr eisteddfod. Mae'r Goron ei hun yn cynnwys darn o gopor a fwyngloddwyd ym Mynydd Parys.
Gofynion cystadleuaeth y Goron eleni oedd casgliad o gerddi heb fod dros 150 o linellau ar y testun 'Cylchoedd', ac ymatebodd Rhian i'r her gyda phedair o gerddi y cafodd ei hysbrydoli i'w creu yn ystod ei chwrs MA.
'Roedd y profiad o ennill yn help i fagu hyder i barhau i farddoni,' meddai Rhian. 'Ond roedd yna elfen arall annisgwyl a wnaeth roi boddhad mawr i mi hefyd, sef boc cymaint o bobl wedi dod ataf ar y stryd yn Llangefni wedyn, wrth eu boddau fy mod wedi ennill y Goron, ac yn holi am y cerddi.'
Dywedodd Dr Angharad Price, sydd yn cydlynu'r seminarau Ysgrifennu Creadigol ar gyfer myfyrwyr MA a PhD: 'Mae buddugoliaeth Rhian yn dyst i'w gallu a'i doniau fel sgwennwr. Mae hi'n rhan o gymuned fywiog o sgwenwyr yma yn Ysgol y Gymraeg - yn nofelwyr, beirdd a dramodwyr - y mae'n fraint mawr bod yn eu cwmni bob wythnos.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Mehefin 2014